Corhedydd y graig
Corhedydd y graig Anthus petrosus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Motacillidae |
Genws: | pipit[*] |
Rhywogaeth: | Anthus petrosus |
Enw deuenwol | |
Anthus petrosus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Corhedydd y graig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: corhedyddion y graig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Anthus petrosus; yr enw Saesneg arno yw Rock pipit. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Mae'r teulu'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion.[1] Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas y traethau yng Nghymru.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar hyd traethau creigiog yn Ewrop o Lydaw hyd Rwsia. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yng ngweldydd Llychlyn a Rwsia yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a brown golau gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth gorhedyddion eraill, megis Gorhedydd y Waun, ond mae coesau twyll yn nodwedd i sylwi arni. Pryfed yw'r prif fwyd.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. petrosus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r corhedydd y graig yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Aderyn hirewin Abysinia | Macronyx flavicollis | |
Aderyn hirewin Fülleborn | Macronyx fuelleborni | |
Aderyn hirewin Grimwood | Macronyx grimwoodi | |
Aderyn hirewin Pangani | Macronyx aurantiigula | |
Aderyn hirewin gwridog | Macronyx ameliae | |
Aderyn hirewin gyddf-felyn | Macronyx croceus | |
Aderyn hirewin y Penrhyn | Macronyx capensis | |
Corhedydd euraid | Tmetothylacus tenellus | |
Macronyx sharpei | Macronyx sharpei | |
Siglen goedwig | Dendronanthus indicus |
Bwyd
[golygu | golygu cod]Pryfed mân o’r traeth yn arferol, ond cofnodwyd y canlynol pan fuont o dan bwysau:
- 16 Rhagfyr 2010: Bore 14 Rhag 2010 corhedydd y graig yn pigo am sbarion yn y lôn ym mhen uchaf Stryd Llyn, Caernarfon. Eira mawr ar ei ffordd - eto![3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Tywyddiadur Llên Natur [1] trwy Fwletin Llên Natur [2]