Colegau Unedig y Byd
Gwedd
Mudiad addysg rhyngwladol sy'n cynnwys 14 o ysgolion a cholegau ar draws y byd yw Colegau Unedig y Byd (Saesneg: United World Colleges, UWC; Sbaeneg: Colegios del Mundo Unido). Mae aelodau'r mudiad yn dysgu Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol.
Dyma'r 14 coleg sy'n aelodau'r UWC:
- Coleg yr Iwerydd (ger Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, Cymru), agorwyd ym 1962
- Coleg Unedig y Byd De Ddwyrain Asia (Singapôr), 1971
- Coleg Lester B. Pearson (Victoria, British Columbia, Canada), 1974
- Waterford Kamhlaba (Mbabane, Gwlad Swasi) – 1963, ymunodd â'r UWC ym 1981
- Coleg Unedig y Byd Armand Hammer, Gorllewin yr Unol Daleithiau (Montezuma, New Mexico, UDA), 1982
- Coleg Unedig y Byd yr Adriatig (Duino, yr Eidal), 1982
- Coleg Unedig y Byd Li Po Chun (Hong Kong), 1992
- Coleg Unedig y Byd Nordig y Groes Goch (Flekke, Norwy), 1995
- Coleg Unedig y Byd Mahindra, India (Khubavali, India), 1997
- Coleg Unedig y Byd Costa Rica (Santa Ana, Costa Rica), 2000, ymunodd â'r UWC yn 2006
- Coleg Unedig y Byd Mostar (Mostar, Bosnia-Hertsegofina), 2006
- Coleg Unedig y Byd Maastricht (Maastricht, yr Iseldiroedd), 1984, ymunodd â'r UWC yn 2009
- Coleg Unedig y Byd Robert Bosch (Freiburg im Breisgau, yr Almaen), 2014
- Coleg Unedig y Byd Dilijan (Dilijan, Armenia), 2014
Agorwyd Coleg Amaeth Simón Bolívar (Ciudad Bolivia, Feneswela) ym 1986, ac ymunodd â'r UWC ym 1987, ond caeodd yn 2012.
Sefydlwyd y mudiad ar sail syniadau'r addysgwr Kurt Hahn. Noor, brenhines Gwlad Iorddonen yw llywydd presennol y mudiad.
Cyn-fyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- Ghil'ad Zuckermann (Coleg Unedig y Byd yr Adriatig, 1987-1989), ieithyddiaeth
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) (Sbaeneg) Gwefan swyddogol