Clive Jenkins

Oddi ar Wicipedia
Clive Jenkins
Ganwyd2 Mai 1926 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw22 Medi 1999 Edit this on Wikidata
Bushey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethundebwr llafur Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd David Clive Jenkins (2 Mai 1926 - 22 Medi 1999) yn arweinydd undeb llafur Cymreig ac yn awdur nifer o lyfrau am undebaeth a gwleidyddiaeth asgell chwith.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed ym Mhort Talbot, Morgannwg, Cymru yn fab i David Samuel Jenkins a Miriam Harris Jenkins (née Hughes) [2]. Roedd ei dad yn weithiwr rheilffordd, a daeth ei frawd, Tom, yn arweinydd y Gymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth. Ychydig ar ôl iddo ymadael âg Ysgol Bechgyn Sir Port Talbot ym 1940 yn 14 oed, pan fu farw ei dad a dechreuodd weithio yn y labordy mewn gwaith metel gan barhau â'i addysg trwy gymryd dosbarthiadau nos yng Ngholeg Technegol Abertawe.[3] Dair blynedd yn ddiweddarach, ef oedd â gofal dros y labordy. Ddwy flynedd ar ôl hynny, roedd yn fforman y shifft nos.[4]

Gyrfa undeb[golygu | golygu cod]

Bu Jenkins yn chware ran o ddechrau'i yrfa yn ei undeb llafur Cymdeithas y Gweithwyr Gwyddonol (AScW) a daeth yn swyddog lleyg iddi ym 1944, pan etholwyd ef yn ysgrifennydd ei gangen. Ym 1946, yn 20 oed, gadawodd Port Talbot i ddod yn swyddog amser llawn yn swyddfa Birmingham Cymdeithas y Staff Goruchwylio, Gweithredwyr a Thechnegwyr (ASSET), lle cafodd ei benodi'n ysgrifennydd adrannol cynorthwyol. Roedd ar y pryd yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr.[5]

Ym 1951, trefnodd ei anghydfod cenedlaethol mawr cyntaf, sef streic ym Maes Awyr Heathrow a achosodd i British European Airways ganslo mwy na 800 o hediadau.[6]

Gan symud bron yn syth i'r brif swyddfa'r undeb, cafodd ddyrchafiad cyflym, fel swyddog cenedlaethol ym 1954, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol ym 1957 ac ysgrifennydd cyffredinol ym 1961.

Yna, roedd gan ASSET 23,000 o aelodau, a gynyddodd yn ddiweddarach i 50,000 erbyn 1969, pan unodd ASSET ag AScW, i ffurfio ASTMS (Cymdeithas y Staff Gwyddonol, Technegol a Rheolaethol). ASSET a Jenkins oedd y prif bartneriaid. Yn yr undeb newydd, roedd yn gyd-ysgrifennydd cyffredinol gyda John Dutton o AScW, ond erbyn 1970, ef oedd yr unig ysgrifennydd cyffredinol gyda gweledigaeth o'r hyn y gallai "ei" undeb ddod.[7]

Trwy ddefnyddio hysbysebu (roedd posteri hysbysfwrdd yn anghyffredin yn y mudiad o'r blaen), daeth ag undebaeth llafur i'r dosbarth canol. O fewn 15 mlynedd, tyfodd ASTMS o aelodaeth gychwynnol o 65,000 at bron i 500,000 o aelodau.[8]

Roedd Jenkins yn cadw ei hun (ac ASTMS) yn llygad y cyhoedd, gan ymddangos yn aml ar sioeau sgwrsio teledu a'i golofnau papur newydd rheolaidd ei hun. Sicrhaodd ei ffraethineb a'i saernïaeth eiriol y byddai hyd yn oed ei wrthwynebwyr yn sicr o'i gofio.

Daeth yn aelod o Gyngor Cyffredinol y TUC ym 1974, gan wasanaethu fel ei gadeirydd rhwng 1987 a 1988.

Cyfraniad gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd llywodraeth Lafur, o dan Harold Wilson, ym 1974. Penodwyd Jenkins gan y llywodraeth i'r Cyngor Ymchwil a Datblygu Cenedlaethol (NRDC), rhwng 1974 a 1980. Eisteddodd ar y pwyllgor a luniodd Adroddiad Bullock (democratiaeth ddiwydiannol) (1975- 1977) yn ogystal ag ar fwrdd Corfforaeth Olew Cenedlaethol Prydain (1979-1982).

Yn ystod refferendwm 1975 ar aelodaeth Prydain o'r Gymuned Ewropeaidd, ymgyrchodd Jenkins i Brydain ymadael a'r Gymuned.[9]

Yn dilyn colled drom y Blaid Lafur yn etholiad 1983, bu Jenkins yn allweddol wrth gael Neil Kinnock i gael ei enwebu i arweinyddiaeth y blaid. Ym 1988,[10] yn fuan ar ôl i ASTMS uno â TASS (yr Adran Dechnegol, Weinyddol a Goruchwylio ) i ffurfio MSF ( Gweithgynhyrchu, Gwyddoniaeth a Chyllid ), cyhoeddodd Jenkins ei ymddeoliad yn annisgwyl. Ysgrifennodd hunangofiant, All Against The Collar (1990).

Ymddeoliad[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymddeol, cynhaliodd Jenkins wely a brecwast yn St Helens, Tasmania, cyn iddo ddychwelyd i Brydain.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1955 priododd Jean Lynn daeth y briodas i ben ym 1963. Ym 1963 priododd Moira McGregor Hilley a bu iddynt un mab. Death y briodas yma i ben hefyd ym1989.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • British Airlines: a study of nationalised civil aviation (1953). Fabian Research Series, no 158. Llundain: Victor Gollancz.
  • Power at the Top: a critical survey of the nationalised industries (1959). London: MacGibbon & Kee.
  • Germany’s Balance of Influence: the changing situation in NATO (1960). Llundain: Union of Democratic Control.
  • Power behind the Screen: ownership control and motivation in British commercial television (1961). Llundain: MacGibbon & Kee.
  • British Trade Unions today (1965). Rhydychen: Pergamon Press (with James Edward Mortimer)
  • Collective bargaining: what you always wanted to know about trade unions and never dared to ask (1977). Llundain: Routledge and Kegan Paul. ISBN 0-7100-8691-1. (with Barrie Sherman).
  • Computers and the unions (1977). Llundain: Longman. ISBN 0-582-45017-9 (gyda Barrie Sherman).
  • White-collar unionism: the rebellious salariat (1979). Llundain: Routledge and Kegan Paul. ISBN 0-7100-0237-8 (with Barrie Sherman).
  • The collapse of work (1979). Llundain : Eyre Methuen. ISBN 0-413-45760-5 (gyda Barrie Sherman).
  • The leisure shock (1981). Llundain : Eyre Methuen. ISBN 0-413-48210-3 (gyda Barrie Sherman).
  • All against the collar: struggles of a white collar union leader (1990). London: Methuen. ISBN 0-413-39930-3

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Jenkins, (David) Clive (1926–1999) | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-1012654. Cyrchwyd 2019-10-17.
  2. 2.0 2.1 "Jenkins, (David) Clive, (2 May 1926–22 Sept. 1999), Joint General Secretary, Manufacturing, Science and Finance, 1988–89, then General Secretary Emeritus (Joint General Secretary, 1968–70, General Secretary, 1970–88, Association of Scientific, Technical and Managerial Staffs); Member of the General Council of the TUC, 1974–89 (Chairman, 1987–88) | WHO'S WHO & WHO WAS WHO". www.ukwhoswho.com. doi:10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-179533. Cyrchwyd 2019-10-17.
  3. Kynaston, David (2009). Family Britain 1951–7. London: Bloomsbury. t. 23. ISBN 9780747583851.
  4. "Obituary: Clive Jenkins". The Independent. 1999-09-23. Cyrchwyd 2019-10-17.
  5. "BBC News | UK Politics | Tributes paid to Clive Jenkins". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2019-10-17.
  6. Kynaston, David (2009). Family Britain 1951–7. London: Bloomsbury. t. 23. ISBN 9780747583851.
  7. Melling, Joseph (2004/04). "Leading the White-Collar Union: Clive Jenkins, the Management of Trade-Union Officers, and the Politics of the British Labour Movement, c.1968–1979". International Review of Social History 49 (1): 71–102. doi:10.1017/S0020859003001378. ISSN 1469-512X. https://www.cambridge.org/core/journals/international-review-of-social-history/article/leading-the-whitecollar-union-clive-jenkins-the-management-of-tradeunion-officers-and-the-politics-of-the-british-labour-movement-c19681979/4C1C83DB23D5DC3C2E23BE51CCAF1872.
  8. "An inspiring new exhibition about past GS Clive Jenkins". UNITElive.org. 2019-02-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-17. Cyrchwyd 2019-10-17.
  9. David Butler and Uwe Kitzinger, The 1975 Referendum (London: Macmillan, 1976), p. 107, p. 256, p. 274.
  10. Milne, Seumas; Editor, Labour (1999-09-23). "Clive Jenkins, 1970s union power broker, dies at 73". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-17.CS1 maint: extra text: authors list (link)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]