Claude (Cymeriad Grand Theft Auto)

Oddi ar Wicipedia
Claude
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethlleidr banc, gangster, street racer Edit this on Wikidata

Claude yw prif gymeriad y gêm fideo Grand Theft Auto III, gêm yn y gyfres Grand Theft Auto gan gwmni Rockstar Games. Mae hefyd yn gwneud ymddangosiad cameo mewn gêm arall yn y gyfres - Grand Theft Auto: San Andreas. Mae Claude yn gymeriad mud, felly nid oes ganddo actor llais.

Dyluniad y cymeriad[golygu | golygu cod]

Mae Rockstar wedi dweud nad oedd "unrhyw ysbrydoliaeth unigol" ar gyfer Claude, ond eu bod yn hoffi'r syniad o "laddwr cryf a thawel, a fyddai'n cyfosodiad doniol i ddelwedd y mobster niwrotig cegog".[1] Maent yn honni bod Claude yn ymddangos fel gŵr cryf gyda hunanreolaeth dra fo cymeriadau eraill yn y gêm yn ymddangos yn wan neu'n ffyrnig.

Nid yw enw Claude yn cael ei grybwyll yn GTA III. Er bod ei enw i'w weld o fewn ffeiliau testun a data'r gêm,[2] nid yw'n cael ei grybwyll yn swyddogol tan Grand Theft Auto: San Andreas. Mae llawer o ddyfalu wedi bod am y posibilrwydd mae Claude o Grand Theft Auto III yw'r un cymeriad a'r "Claude Speed" prif gymeriad Grand Theft Auto 2.[3] Yn sicr mae'r ddau yn ymddangos yn debyg, yn gwisgo'n debyg ac yn rhannu'r un enw. Wedi gofyn iddynt i dorri'r ddadl, ymateb Rockstar Games oedd efallai taw Speed yw ei gyfenw[1], ac mae'n ymddangos yn "debygol iawn" bod y ddau yn un cymeriad [4].

Trwy'r rhan fwyaf o'r gêm mae Claude yn gwisgo siaced lledr du gyda chrys T du, trowsus cargo gwyrdd, a sgidiau gampfa glas gyda gwadnau gwyn. Mae ganddo wallt brown tywyll gyda'i ymylon yn sticio allan.[3] Mae gwisgoedd Claude hefyd ar gael i'w datgloi yn y gêm Grand Theft Auto IV.[5][6]

Ni chlywir Claude yn yngan gair trwy gydol ei ymddangosiadau (ac eithrio ebychiadau tawel pan gaiff ei anafu neu ei ladd). O'u holi am hyn, dywedodd Rockstar eu bod nhw wedi cael cymaint o broblemau eraill i'w datrys nid oedd rhoi llais i Claude yn ymddangos yn fater pwysig.[1][7].

Ymddangosiadau[golygu | golygu cod]

Ym 1992 mae Claude yn cadw modurdy yn San Fierro, un o ranbarthau'r gêm Grand Theft Auto:San Andreas. Mae o newydd ddechrau canlyn efo Catalina. Bu Catalina yn arfer bod mewn perthynas â Carl CJ Johnson, prif gymeriad y gêm. Mae Catalina yn herio ei chariad newydd a'i chyn cariad i rasio ei gilydd mewn ceir. Mae Claude yn colli'r ras ac yn gorfod ildio ei modurdy i Carl yn lle talu dyled bet. Mae Catalina yn dweud wrth Carl bod hi a Claude am symud i Liberty City.

Yn 2001 Mae Claude a Catalina yn dwyn arian o fanc yn Liberty City. Wedi'r lladrad mae Catalina yn saethu Claude. Mae'r heddlu yn dod o hyd iddo wedi anafu ac mae'n cael ei ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar. Mae'n cael ei drosglwyddo i'r carchar gyda dau garcharor arall, gwr o'r enw 8-Ball a hynafgwr di enw. Wrth groesi Pont Callahan i Ynys Portland Vale mae gang o Golombiaid yn ymosod ar fan y carchar er mwyn ryddhau'r gŵr dienw, mae Claude a 8-Ball yn dianc ar yr un pryd.

Mae 8-Ball yn cyflwyno Claude i ŵr o'r enw Luigi Goterelli. Mae Luigi yn aelod o Faffia Liberty City, sy'n cael ei arwain gan Salvatore Leone. Trwy Luigi mae Claude yn cael ei gyflwyno i aelodau eraill o'r Maffia. Mae'n cyflawni tasgau i aelodau'r Maffia. Mae rhai o'r tasgau yn ymwneud ag anghydfod sydd rhwng teulu Leone a Chartel y Colombiaid sydd yn gyd weithio a Catalina i werthu cyffur newydd o'r enw SPANK yn y ddinas. Ymysg y tasgau mae Claude yn gorfod eu cyflawni yw un lle mae o'n gweithio fel gyrrwr ar ran Maria, gwraig, Salvatore. Er mwyn gwneud ei gŵr yn eiddigeddus mae Maria yn dweud wrtho ei bod wedi cael perthynas efo Claude ac mae Salvatore yn penderfynu lladd y ddau. Mae Maria yn clywed am y cynllun ac mae hi a Claude yn ffoi gyda chymorth Asuka Kasen, ffrind i Maria

Mae Asuka a'i brodyr Kazuki a Kenji yn aelodau o gang debyg i'r Maffia o Japan, y Yakuza. Mae hi bellach yn rhoi tasgau i Claude, sy'n cynnwys lladd ei gyn bos Salvatore Leone. Mae Asuka yn cyflwyno Claude i'w brawd Kenji a heddwas llwgr Ray Machowski. Cartel y Colombiaid sy'n parhau i fod yn brif elynion Claude yng nghyd a'u cynghreiriaid newydd y Yardies, gang o Jamaica. Mae Claude hefyd yn gorfod delio efo'r sawl sy'n ceisio rhwystro Ray. Mae Ray yn cyflwyno Claude i Donald Love, dyn busnes sydd yn berchen ar gwmnïau cyfathrebu a chwmnïau adeiladu. Mae Donald yn credu bod rhyfeloedd rhwng gangiau mewn ardal yn lleihau pris eiddo. Er mwyn prynu eiddo yn rhad er mwyn ei ddatblygu mae Donald am i Claude dwysau'r anghydfod rhwng y Yakuza a'r Colombiaid trwy ladd Kenji gan ddefnyddio car Cartel y Colombiaid fel arf. Mae'r CIA (heddlu cudd) yn cael ei lwgrwobrwyo gan Gartel y Colombiaid ac yn flin bod gweithgareddau'r Yakuza, ar ôl llofruddiaeth Kenji, yn lleihau eu helw. Maent yn cael gwybod bod Ray wedi bod yn rhoi cymorth i'r Yakuza ac yn penderfynu ei ladd. Rhaid i Claude ei gynorthwyo i gyrraedd y maes awyr er mwyn iddo gael ffoi.

Wrth i'r rhyfel yn erbyn y Cartel dwysáu, mae Asuka a Maria yn cael gwybod am hanes perthynas Claude a Catalina ac yn disgwyl iddo wneud llawer mwy i geisio eu trechu. Yn y pen draw, mae ei ymdrechion yn denu sylw Catalina. Mae'r Colombiaid yn herwgipio Maria ac yn llofruddio Asuka. Maent yn cysylltu â Claude i ddweud wrtho fod yn rhaid iddo dalu pridwerth o $500,000 yn gyfnewid am ryddhau Maria. Pan fydd Claude yn herio Catalina, mae hi'n ceisio ei ladd, ond mae o'n dianc. Yn y frwydr ddilynol, mae Catalina yn ceisio ffoi mewn hofrennydd ac yn gwneud ymgais derfynol i ladd Claude. Wedi lladd yr aelodau Cartel sy'n weddill ac achub Maria, mae Claude yn saethu'r hofrennydd yn yr awyr, gan ladd Catalina [8]

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Cafodd y cymeriad derbyniad da. Cafodd ei gynnwys ar y rhestr "Grand Theft Auto Favorite Badasses", dan nawdd IGN. Wrth ei wobrwyo dywedodd IGN bod dadl yn aml yn cael ei wneud bod cymeriadau tawel yn haws i'r chwaraewr uniaethu a hwy. Mae hynny'n sicr yn wir yn achos Claude.."[9] Gosododd Crave Online Claude yn wythfed ar eu rhestr o ddeg uchaf o gymeriadau GTA mwyaf cofiadwy, gan alw'r cymeriad yn un wnaeth newid natur y busnes gemau fideo am byth.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 R* Q (December 15, 2011). "Grand Theft Auto III: Your Questions Answered - Part One (Claude, Darkel & Other Characters)". Rockstar Games. Cyrchwyd 1 Mai, 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. Grand Theft Auto III (Grand Theft Auto III\text\american.gxt), DEFNAM -- Claude
  3. 3.0 3.1 Scheeden, Jesse (April 28, 2008). "Grand Theft Auto: Favorite Badasses". IGN. Cyrchwyd 1 Mai, 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. R* Q (October 5, 2011). "Asked & Answered: Max Payne 3, L.A. Noire, Red Dead and More". Rockstar Games. Cyrchwyd 1 Mai, 2018. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. "How to Make Niko Wear Claude from GTA 3's Clothes in GTA 4". wikiHow. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
  6. Wilson, Iain (31 August 2013). "The 15 biggest secrets of the Grand Theft Auto (image 9 of 15)". Computer and Video Games. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
  7. Lin-Poole, Wesley (December 16, 2011). "Why Grand Theft Auto 3 has a silent protagonist". Eurogamer. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
  8. "Missions in GTA III". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  9. Scheeden, Jesse (April 28, 2008). "Grand Theft Auto: Favorite Badasses". IGN. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
  10. Tamburro, Paul (November 2, 2012). "Top 10 Most Memorable GTA Characters". PlayStation Beyond. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-20. Cyrchwyd 1 Mai 2018.