Chiara Lubich

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Chiara Lubich
Chiara Lubich.JPG
Ganwyd 22 Ionawr 1920 Edit this on Wikidata
Trento Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Mawrth 2008 Edit this on Wikidata (88 oed)
Rocca di Papa Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Eidal Yr Eidal
Alma mater
  • Prifysgol Ca' Foscari , Fenis Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Athro, clerigwr rheolaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/au Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Templeton, Gwobr Hawliau Dynol Ewropeaidd, Urdd Croes y De, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata

Awdures Eidalaidd oedd Chiara Lubich (22 Ionawr 1920 - 14 Mawrth 2008) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sefydlydd y Mudiad Focolare, athro a chlerigwr. [1][2][3][4]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Silvia Lubich yn Trento, yr Eidal a bu farw yn Rocca di Papa, sef un o faestrefi Rhufain. Collodd ei thad ei swydd yn ystod cyfnod Ffasgiaeth yr Eidal, oherwydd ei syniadau sosialaidd. O ganlyniad, roedd y Lubichs yn byw am flynyddoedd mewn tlodi eithafol. I dalu am ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Ca' Foscari mewn athroniaeth, bu Lubich yn hyfforddi myfyrwyr eraill yn Fenis ac yn ystod y 1940au dechreuodd ddysgu mewn ysgol elfennol yn Trento.[5] [6]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra bod bomiau'n dinistrio Trento, cafodd Lubich brofiad crefyddol pwerus a newidiodd ei bywyd am byth. Dywedodd Lubich am y profiad hwn wrth ei ffrindiau agosaf.[7] Ar ôl argyhoeddi ei ffrindiau, pe baent yn cael eu lladd, roeddent roi un arysgrif cerfiedig ar eu beddau: "A chredom mewn cariad". Ar 7 Rhagfyr 1943 arweiniodd ei phrofiad hi i gysegru ei hun i Dduw a newid ei henw i Chiara, er anrhydedd i Clare o Assisi. Ystyrir y dyddiad hwn fel dechrau'r mudiad Focolare.[8]

Cymunedau bychain o wirfoddolwyr lleyg yw'r Focolare, sy'n ceisio cyfrannu at heddwch ac i sicrhau undod efengylaidd pawb ym mhob amgylchedd cymdeithasol. Nod y mudiad yw byd sy'n byw mewn undod efengylaidd ym mhob haen o gymdeithas. Heddiw ymhlith ei aelodau mae llawer o bobl nad ydynt yn arddel crefydd benodol.[9]

Gwynfydiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2013, bum mlynedd ar ôl marwolaeth Chiara Lubich, cafodd ei hachos dros ei gwynfydu ei sefydlu'n ffurfiol wedyn gan Esgobaeth Frascati, lle daeth miloedd i weld sefydlu ei hachos. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol oedd y cyd-sefydlydd, sef y Tad. Pasquale Foresi.[10][11]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11913544s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11913544s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11913544s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad marw: http://www.catholicnews.com/data/stories/cns/0801447.htm. Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11913544s; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. "Work of Mary", Pontifical Council for the Laity
  6. Galwedigaeth: http://www.focolare.org/pt/chiara-lubich/chi-e-chiara/.
  7. Gomes, Robin. "Tenth anniversary of Chiara Lubich of Focolare Movement", Vatican News, 14 Mawrth 2018
  8. Focolare Movement - EN, archifwyd o y gwreiddiol ar 2009-05-11, https://web.archive.org/web/20090511224807/http://www.focolare.org/page.php?codcat1=434&lingua=EN&titolo=Chiara%20Lubich&tipo=Chiara%20Lubich
  9. John L. Allen Jr. (10 Mawrth 2011), Memo to a divided church: Meet the Focolare, National Catholic Reporter, http://ncronline.org/blogs/all-things-catholic/memo-divided-church-meet-focolare
  10. http://newsaints.faithweb.com/year/2008.htm#Lubich
  11. http://www.focolare.org/