Charles Paget

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Syr Charles Paget
Darlun o Charles Paget gan Syr Thomas Lawrence
Ganwyd (1778-10-07)7 Hydref 1778
Bu farw 27 Ionawr 1839(1839-01-27) (60 oed)
Ar fwrdd HMS Tartarus
Cynghreiriaid  United Kingdom
Gwasanaeth / cangen Y Llynges Frenhinol
Ranc Is-Lyngesydd
Swydd Gorsaf Arfordir yr Iwerddon
Gorsaf Gogledd America ac India'r Gorllewin
Brwydrau/rhyfeloedd
Gwobrau Knight Grand Cross of the Royal Guelphic Order
Knight Bachelor

Roedd yr Is-Lyngesydd Syr Charles Paget GCH (7 Hydref 1778 - 27 Ionawr 1839) yn forwr Prydeinig ac yn wleidydd Rhyddfrydol a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Milborne Port a Bwrdeistrefi Caernarfon.[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ledi Paget

Roedd Syr Charles yn bumed mab i Henry Bayly Paget, nawfed Barwn Paget a'r iarll cyntaf Uxbridge o'r ail greadigaeth a'i wraig, (Jane née Champagne). Roedd yn frawd i Henry William Paget, ardalydd cyntaf Môn, Syr Arthur Paget, a Syr Edward Paget.

Ar 7 Mawrth 1805 Priododd Elizabeth Araminta (bu f. 1843), merch Henry Monck o Foure, Swydd Westmeath; bu iddynt bedwar mab a chwe merch. Pythefnos ar ôl priodi ceisiodd cyflawni hunanladdiad trwy gymryd gorddos o lodnwm ar ôl i'w wraig ei watwar[3].

Gyrfa forwrol[golygu | golygu cod y dudalen]

HMS Endymion (1797)

Aeth Paget i'r Llynges Frenhinol ym 1790 o dan nawdd Syr Andrew Snape Douglas, ac, ar ôl gwasanaethu ym Môr y Gogledd a Môr Udd, cafodd ei benodi'n is gapten ar y gwarchodlong Centaur yn y Tafwys ym 1796; ym 1797 fe'i dyrchafwyd yn feistr ar y slŵp Martin ym Môr y Gogledd, ac ym 1797 cafodd ei bostio i'r Penelope a oedd yn amddiffyn Môr Udd.

O fis Hydref 1798 fe fu'n feistr yr Brilliant ar Fôr Udd ac wedyn y Hydra ar Fôr Udd ac ar Fôr y Canoldir. Ym 1803 bu'n feistr yr Endymion ffrigad fawr, gan ei hwylio ar Fae Biskaia ac ar arfordiroedd Iberia. Ym 1804 cipiodd pedair llong drysor Sbaenaidd o Dde America, gan ennill gwerth £26,000 o drysorau.

Rhwng 1817-1819 roedd yn feistr i un o gychod hwylio brenhinol y Dywysog Rhaglaw. Ym 1823 fe'i dyrchafwyd yn gefn-lyngesydd. Rhwng 1828 a 1831 ef oedd gadlywydd blaenaf gorsaf Corc y llynges a oedd yn gyfrifol am amddiffyn arfordiroedd yr Iwerddon. Ym 1837, fe wnaed is-lyngesydd gyda chyfrifoldeb am orsaf Gogledd America ac India'r Gorllewin swydd bu ynddi hyd ei farwolaeth.[4]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd Paget fel Aelod Seneddol Milbourn Port, etholaeth bwdr ym mhoced ei deulu ger Sherborne, Gwlad yr Haf rhwng 1804 a 1806 pan ildiodd y sedd i'w gefnder Henry William yr Arglwydd Paget.

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, etholaeth arall a ystyriwyd oedd yn eiddo i'w deulu rhwng 1806 a 1826 gan ildio'r sedd i'w nai yr Arglwydd William Paget. Etholwyd ef dros Fwrdeistrefi Caernarfon am yr ail dro ym 1831. Cafodd ei herio am y sedd yn etholiad cyffredinol 1832, y cyntaf ar ôl pasio'r Deddf Diwygio Fawr; wedi cyfri'r pleidleisiau cyhoeddwyd mai ef oedd y buddugol. Heriwyd y canlyniad gan ei wrthwynebydd yn yr etholiad, Owen Jones Ellis Nanney, a honnodd bod nifer o'r rai a fwriodd pleidlais ar gyfer Paget heb hawl gyfreithiol i wneud hynny a bod nifer o etholwyr dilys oedd am bleidleisio iddo ef wedi eu gwrthod. Ar 5 Mawrth 1833 cytunodd pwyllgor seneddol bod y canlyniad yn annilys a bod Nanney wedi ei iawn ethol[5]. Apeliodd Paget yn erbyn y penderfyniad ar y sail nad oedd y pwyllgor gwreiddiol wedi rhoi sylw dilys i'w ddadleuon yntau ac ar 16 Mai 1833 penderfynodd pwyllgor newydd mae Paget oedd yr aelod dilys[6][7].

Roedd Paget yn cefnogi'r Whigiaid, mewn enw, yn y Senedd er dim ond ar unwaith ynganodd gair mewn araith yno; araith yn clodfori nofdorch Mallison, a gwan oedd ei record o bleidleisio yn Nhŷ'r Cyffredin, yn bennaf gan ei fod yn gwario gymaint o amser i ffwrdd ar y môr.[3]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaed Paget yn Farchog Cadlywydd yn yr Urdd Guelphic Brenhinol (KCH) ym 1819 gan gael ei ddyrchafu yn Farchog y Groes Fawr (GCH) yn yr un urdd ym 1832; fe'i penodwyd ef yn was yr ystafell wely ym 1822.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Carreg Bedd Syr Charles Paget, Bermuda

Bu farw o'r dwymyn felen yn ar fwrdd ei long ym mhorthladd St Thomas, Jamaica, ar 27 Ionawr 1839 yn 61 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion yn y fynwent milwrol a morwrol ar Ysys Ireland, Bermuda ceir cofeb iddo yn Eglwys Rogate, Sussex[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur PAGET (TEULU), Plas Newydd, Llanedwen, Môn adalwyd 6 Mehefin 2016
  2. J. K. Laughton, ‘Paget, Sir Charles (1778–1839)’, rev. Andrew Lambert, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 6 June 2016
  3. 3.0 3.1 PAGET, Hon. Charles (1778-1839), of Fair Oak, Rogate, Suss. History of Parliament adalwyd 6 Mehefin 2016
  4. 4.0 4.1 A memoir of the Honourable Sir Charles Paget G.C.H. (1778-1839) vice-admiral of The White and commander-in-chief of the North America II And West Indian station and reminiscences of my life and family gan Edward Clarence Paget; Toronto 1911 adalwyd 6 Mehefin 2016
  5. "Notitle - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1833-03-12. Cyrchwyd 2016-06-05.
  6. "HOUSE OF COMMONS - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1833-05-25. Cyrchwyd 2016-06-05.
  7. Cases of Controverted Elections determined in the Eleventh Parliament of the United, gan Sir Alexander James Edmund Cockburn, Sir William Carpenter Rowe Tŷ’r Cyffredin 1833 tud 127-138 a 550-560
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Paget
Aelod Seneddol Caernarfon
18061826
Olynydd:
William Paget
Rhagflaenydd:
William Ormsby-Gore
Aelod Seneddol Caernarfon
18311833
Olynydd:
Owen Jones Ellis Nanney
Rhagflaenydd:
Owen Jones Ellis Nanney
Aelod Seneddol Caernarfon
18331835
Olynydd:
Love Parry Jones-Parry