Henry Paget, Iarll 1af Uxbridge
Henry Paget, Iarll 1af Uxbridge | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mehefin 1744 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Bu farw | 13 Mawrth 1812 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Syr Nicholas Bayly, 2il Farwnig |
Mam | Caroline Paget |
Priod | Jane Champagné |
Plant | Henry William Paget, Edward Paget, Charles Paget, William Paget, Berkeley Paget, Arthur Paget, Jane Stewart, Caroline Paget, Lady Louisa Paget, Lady Charlotte Paget, Mary Paget, Brownlow Paget |
Perthnasau | Thomas Paget, George Stewart, 8ed Iarll Galloway, John Cole, 2il Iarll Enniskillen, Thomas Graves, 2il Farwn Graves |
Roedd Henry Bayly-Paget, Iarll 1af Uxbridge (18 Mehefin 1744 - 13 Mawrth 1812), a oedd yn cael ei adnabod fel Henry Bayly hyd 1769 ac fel Arglwydd Paget rhwng 1769 a 1784, yn bendefig Prydeinig.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Henry Bayly, yn fab hynaf Syr Nicholas Bayly, 2il Farwnig, o Blas Newydd Llanfairpwll, Ynys Môn, a'i wraig Caroline Paget, merch y Brigadydd-Cyffredinol Thomas Paget ac or -wyres i William Paget, 5ed Barwn Paget. Olynoddd fel y 10fed Barwn Paget ym 1769 ar farwolaeth cyfyrder ei fam, yr Iarll Uxbridge a thrwy Drwydded Frenhinol ar 29 Ionawr 1770, cymerodd yr enw Paget yn lle Bayly. Ym 1782 olynodd ei dad fel y 3ydd Barwnig.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Daeth Uxbridge yn Arglwydd Raglaw Ynys Môn ym 1782. Ar 19 Mai 1784 cafodd ei greu yn Iarll Uxbridge, yn Swydd Middlesex. Roedd hefyd yn Arglwydd Raglaw Swydd Stafford rhwng 1801 a 1812, Cwnstabl Castell Caernarfon, Ceidwad Coedwig yr Wyddfa, Stiward Bardney, ac Is-Lyngesydd Gogledd Cymru .[1]
Teulu
[golygu | golygu cod]Ym 1767 priododd yr Arglwydd Uxbridge â Jane, merch y Parchedig Arthur Champagné, Deon Clonmacnoise, un o ddisgynyddion teulu adnabyddus o Hiwgenotiaid a oedd wedi ymgartrefu yn yr Iwerddon, a'i wraig Jane Forbes.[2] bu iddynt ddeuddeg o blant:
- Y Marsial Maes Henry William Paget, Ardalydd 1af Ynys Môn (17 Mai 1768 - 29 Ebrill 1854)
- Capten Yr Anrhydeddus William Paget (22 Rhagfyr 1769 - 1794)
- Yr Anrhydeddus Syr Arthur Paget (15 Ionawr 1771 - 26 Gorffennaf 1840)
- Y Fonesig Caroline Paget (6 Chwefror 1773 - 9 Gorffennaf 1847); priod Yr Anrhydeddus John Capell .
- Y Fonesig Jane Paget (1 Medi 1774 - 30 Mehefin [[1842); priod George Stewart, 8fed Iarll Galloway .
- Cadfgridog Yr Anrhydeddus Syr Edward Paget (3 Tachwedd 1775 - 13 Mai 1849)
- Y Fonesig Louisa Paget (26 Mawrth 1777 - 23 Ionawr 1842); priod, yn gyntaf, Yr is Gapten. Syr James Erskine, Bt.; ail briod, Y Gwir Anrhrhydeddus Syr George Murray .
- Yr Is-lyngesydd, Yr Anrhydeddus Syr Charles Paget (7 Hydref 1778 - 27 Ionawr 1839)
- Yr Anrhydeddus Berkeley Thomas Paget (2 Ionawr 1780 - 26 Hydref 1842)
- Y Fonesig Charlotte Paget (26 Hydref 1781 - 26 Ionawr 1817); priod John Cole, 2il Iarll Enniskillen .
- Y Fonesig Mary Paget (9 Ebrill 1783 - 29 Ebrill 1835); priod Thomas Graves, 2il Barwn Graves .
- Yr Anrhydeddus Brownlow Paget (19 Mawrth 1787 - Ebrill 1797
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw'r Arglwydd Uxbridge ym mis Mawrth 1812, yn drigain a saith mlwydd oed, ac olynwyd ef yn yr iarllaeth gan ei fab hynaf Henry, a enillodd enwogrwydd ym Mrwydr Waterloo ac a gafodd ei greu yn Ardalydd Ynys Môn. Bu farw Iarlles Uxbridge ym mis Mawrth 1817, yn saithdeg mlwydd oed.[1]
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Ym 1809 prynodd yr Arglwydd Uxbridge Surbiton Place, ychydig i'r de o Kingston upon Thames. Pan adeiladwyd ystâd Surbiton Park ar ei thiroedd yn y 1850au, enwyd un o'r strydoedd yn Uxbridge Road er anrhydedd iddo ef a'i etifedd Henry.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 thepeerage.com Henry Paget, 1st Earl of Uxbridge
- ↑ [1] Christening of Brownlow Bayley-Paget, son of Jane Champagne. Ancestry.com. England & Wales, Christening Index, 1530-1980 (database on-line). Provo, UT, USA: Ancestry.com Operations, Inc., 2008. Original data: Genealogical Society of Utah. British Isles Vital Records Index, 2nd Edition. Salt Lake City, Utah: Intellectual Reserve, copyright 2002. Accessed 14 August 2016.