Ceri Dupree

Oddi ar Wicipedia
Ceri Dupree
GanwydCeri Jones Edit this on Wikidata
30 Ionawr 1964 Edit this on Wikidata
Llansamlet Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethPerfformiwr drag, canwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.ceridupree.co.uk/ Edit this on Wikidata

Perfformiwr drag Cymreig ydy Ceri Dupree (ganed Ceri R. Jones yn Llansamlet, Abertawe[1] ar 30 Ionawr 1964).

Ei fywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ceri yn ardal Llansamlet o ddinas Abertawe. Pan oedd yn flwydd oed, symudodd ei rieni i ardal Cwmdu yn Fforestfach a mynychodd Ysgol Gynradd Gendros. Ei chwaer yw'r gantores Ria Jones.

Pan yn blentyn, arferai ei rieni fynd ag ef i weld y pantomeim blynyddol yn Theatr y Grand, Abertawe, gan gynnwys perfformiadau gyda Ryan a Ronnie yn ystod y 1970au. Roedd ei dad, Malcolm yn adnabod Ryan Davies am ei fod yntai yn perfformio yng nghlybiau'r gweithwyr yn ne Cymru.[1] Roedd Ceri wrth ei fodd yn gweld perfformwyr megis Frankie Howard, Larry Grayson, Ken Dodd a Bob Monkhouse a datblygodd hyn awydd Ceri i ddilyn gyrfa yn perfformio.

Treuliodd Ceri beth amser yn astudio Stanley Baxter, Dick Emery a Danny La Rue[2] ac ar y 9 Medi, 1983, gwnaeth ei berfformiad proffesiynol cyntaf yn Theatr y Palas, Abertawe.

Mae ef bellach yn byw ym Penarth, yng Nghaerdydd.

Natur ei berfformiadau[golygu | golygu cod]

Mae Dupree yn perfformio'n rheolaidd ledled y Deyrnas Unedig ond hefyd yn rhyngwladol yng Ngwlad Groeg, Portiwgal a De Affrica.[1][3]

Yn ystod ei sioe, mae'n dynwared sêr benywaidd megis Elizabeth Taylor, Zsa Zsa Gabor, Marlene Dietrich, a Margaret Thatcher. Yn ystod ei yrfa (sydd wedi para dros chwarter canrif, mae ef wedi perfformio yn West End Llundain gan gynnwys The Café de Paris, Talk of London, The Stork Club, Le Beat Route, Ronnie Scott's Jazz Club a Pizza on the Park.

Teledu[golygu | golygu cod]

Mae Ceri hefyd wedi creu cyfres deledu pedair rhaglen ar gyfer ITV1 o'r enw Ceri Dupree Unfrocked. Mae ef hefyd wedi ymddangos ar nifer o sioeau siarad, rhaglenni adloniant ysgafn a nifer o gyfweliadau radio a chyda'r wasg.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 http://www.swanseasgrand.co.uk/ceri_dupree.htm Ceri Dupree Gwefan Theatr y Grand, Abertawe, Adalwyd ar 13-02-2011
  2. http://www.birminghammail.net/what-is-on-in-birmingham/theatre-in-birmingham/2009/12/11/ceri-dupree-s-planning-to-outdo-his-idol-danny-la-rue-in-birmingham-show-97319-25366652/[dolen marw] Theatre: Ceri Dupree's planning to outdo his idol Danny La Rue in Birmingham show BirminghamMail.net
  3. http://www.ceridupree.com/ceri/biography.php Archifwyd 2011-01-29 yn y Peiriant Wayback. Gwefan swyddogol Ceri Dupree. Adalwyd ar 13-02-2011



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.