Zsa Zsa Gabor
Zsa Zsa Gabor | |
---|---|
Ganwyd | Gábor Sári 6 Chwefror 1917 Budapest |
Bu farw | 18 Rhagfyr 2016 o ataliad y galon Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Awstria-Hwngari, Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor ffilm, cymdeithaswr, actor llwyfan, actor teledu, ymgeisydd mewn cystadleuaeth modelu, actor |
Tad | Vilmos Gábor |
Mam | Jolie Gabor |
Priod | Burhan Belge, Conrad Hilton, George Sanders, Herbert Hutner, Joshua S. Cosden, Jr., Jack Ryan, Michael O'Hara, Frédéric Prinz von Anhalt |
Plant | Francesca Hilton, Marcus Eberhardt, Prinz von Anhalt |
Gwobr/au | Golden Globes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Actores Hwngaraidd-Americanaidd ydy Zsa Zsa Gabor (yn Hwngareg Gábor Zsazsa; 6 Chwefror 1917 – 18 Rhagfyr 2016).[1][2] Actiodd ar lwyfan yn Fienna, Awstria, pan oedd yn 15 oed, a chafodd ei choroni'n Miss Hwngari ym 1936 pan oedd yn 19 oed.[3] Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1941 a bu'n hynod boblogaidd oherwydd ei bod ganddi "steil a doniau Ewropeaidd", a phersonoliaeth a oedd yn "gorlifo â chyfaredd ac urddas".[4]
Ei rôl gyntaf mewn ffilm oedd fel actores gefnogol yn Lovely to Look At yn serennu Red Skelton. Yn ddiweddarach actiodd yn We're Not Married gyda Ginger Rogers a Marilyn Monroe. Chwaraeodd ei phrif ran am y tro cyntaf yn Moulin Rouge (1952), a gyfarwyddwyd gan John Huston. Disgrifiodd ef hi fel actores "gredadwy".[5] Yn ogystal â'i pherfformiadau ffilm a theledu, mae'n enwog am briodi naw gwaith, gan gynnwys perchennog y cwmni gwestai enwog Conrad Hilton a'r actor George Sanders. Dywedodd un tro, "Mae dynion wastad wedi fy hoffi a dw i wastad wedi hoffi dynion. Ond dw i'n hoffi dynion go iawn, dyn sy'n gwybod sut i siarad â a sut i drin menyw–nid dim ond dyn gyda chyhyrau."[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ TV Guide biodata
- ↑ (Saesneg) Hollywood Legend Zsa Zsa Gabor Dies at 99 (18 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2016.
- ↑ Hischak, Thomas S. The Oxford Companion to the American Musical: Theatre, Film, and Television, Oxford Univ. Press (2008) p. 271
- ↑ Barris, George. Barris Cars of the Stars, MBI Publishing (2008), p. 71
- ↑ Huston, John. John Huston: Interviews, Univ. Press of Mississippi (2001) p. 11
- ↑ "Love Hints from Zsa Zsa", cylchgrawn Life, 15 Hydref, 1951, stori'r clawr