Ken Dodd

Oddi ar Wicipedia
Ken Dodd
GanwydKenneth Arthur Dodd Edit this on Wikidata
8 Tachwedd 1927 Edit this on Wikidata
Knotty Ash Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
Knotty Ash Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Childwall Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, digrifwr, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, digrifwr stand-yp, sgriptiwr, canwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, one-line joke, neuadd gerddoriaeth Edit this on Wikidata
PriodUnknown Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Digrifwr a chanwr-cyfansoddwr oedd Syr Kenneth Arthur Dodd OBE (8 Tachwedd 192711 Mawrth 2018). Roedd yn enwog am ei ddannedd sy'n ymwthio allan, gwallt gwyllt, ei ddwstwr pluog (neu ei "ffon goglais" fel y cyfeiria ato), a'i ymadroddion ffraeth. Yn bennaf, roedd ei berfformiadau'n dilyn traddodiad y neuaddau gerddoriaeth traddodiadol, er ei fod wedi ymddangos mewn ambell ddrama yn y gorffennol, yn cynnwys chwarae rhan Malvolio yn nrama Shakespeare Twelfth Night ar lwyfan yn Lerpwl ym 1971. Roedd wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau'n fyd-eang.[1]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn faciwî o Lerpwl a daeth i fyw ar fferm ym Mhenmachno lle dywedir iddo ddysgu ychydig o Gymraeg.[2]

Tŷ Ken Dodd yn Knotty Ash

Fe'i ganwyd yn ardal Knotty Ash, Lerpwl lle bu'n byw drwy gydol ei oes a lle bu farw. Perfformiodd ei sioe olaf ar 28 Rhagfyr 2017, ond cafodd driniaeth yn yr ysbyty am haint yr ysgyfaint yn Ionawr 2018 a canslwyd weddill ei ddyddiadau perfformio am 2018. Priododd Dodd ei bartner ers 40 mlynedd, Anne Jones, ar 9 Mawrth 2018 yn eu tŷ yn Knotty Ash. Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach, yn 90 oed.[3]

Fel canwr[golygu | golygu cod]

Senglau[golygu | golygu cod]

  • "Love Is Like A Violin" (1960; #8)
  • "Tears" (1965; #1)
  • "The River (Le Colline Sono In Fiore)" (1965; #3)
  • "Promises" (1966; #6)

Teledu[golygu | golygu cod]

Fel comediwr[golygu | golygu cod]

  • The Ken Dodd Show (1960-69)
  • The Ken Dodd Laughter Show (1979)
  • Ken Dodd: In His Own Words (2017)

Fel actor[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Look At It My Way (2009)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Doddy brings happiness to South Wales (From Barry And District News). Barryanddistrictnews.co.uk (27 Mai 2009).
  2. (Saesneg) When Ken Dodd learned Welsh: People's Collection Wales evacuee memories plea. BBC Wales (26 Mawrth 2012). Adalwyd ar 13 Mawrth 2012.
  3. Syr Ken Dodd wedi marw yn 90 oed , Golwg360, 12 Mawrth 2018.