Cerddoriaeth ddu yr efengyl

Oddi ar Wicipedia
Cerddoriaeth ddu yr efengyl
Côr efengyl yn Llynges yr Unol Daleithiau yn ymarfer yn y fforcas ar fwrdd yr USS John C. Stennis yn 2009.
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathcerddoriaeth yr efengyl, African-American music Edit this on Wikidata

Genre o gerddoriaeth Gristnogol o Unol Daleithiau America yw cerddoriaeth ddu yr efengyl (Saesneg: black gospel music) neu yr efengyl ddu, a elwir am iddi darddu o'r Americanwyr Affricanaidd, yn wahanol i'r brif ffurf arall ar gerddoriaeth yr efengyl, sef yr efengyl ddeheuol neu'r efengyl wen. Datblygodd y ddwy genre ar wahân yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, y ddau draddodiad yn tarddu o'r mudiad efengylaidd Americanaidd ac yn tynnu i wahanol raddau ar gyfuniad o emynyddiaeth yr eglwysi gwynion a chaneuon ysbrydol yr Americanwyr Affricanaidd yn y 19g. Nodweddir yr efengyl ddu gan leisiau nerthol, harmonïau cryfion, a mynegiant angerddol. Un o'i phrif elfennau ydy strwythur y galw a'r ateb, sydd yn uno'r canwr neu'r côr â'r gynulleidfa wrth berfformio'r gân.

Hanes[golygu | golygu cod]

Gellir olrhain cerddoriaeth ddu yr efengyl yn ôl i oes caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau a christioneiddio'r caethweision croenddu. Cyfunwyd traddodiadau cerddorol Affrica ag emynau Saesneg a chaneuon gwerin ysbrydol. Dan ormes hiliaeth a thlodi, daeth y gân yn fodd iddynt fynegi eu ffydd, i ymgysuro gyda'i gilydd ac i addoli eu Hiôr. Ymgorfforwyd themâu, straeon a chyfeiriadau Beiblaidd yng ngeiriau'r caneuon, a oedd yn hynod o bwysig i gymuned grefyddol anllythrennog a wrthodwyd iddynt yr hawl i ddarllen y Beibl. Yn sgil Rhyfel Cartref America (1861–65) a rhyddfreinio'r holl gaethweision, dechreuodd Americanwyr Affricanaidd sefydlu eglwysi eu hunain. Nid oedd gan y nifer fwyaf o eglwysi duon y moddion i argraffu casgliadau o emynau, ac o'r herwydd datblygodd y traddodiad Affricanaidd-Americanaidd o ganu'r efengyl gyda nodweddion y traddodiad llafar: patrymau "galw ac ateb", cytganau perlewygol, ailadroddiad diddiwedd, ac addurniad byrfyfyr sydd yn addas i strwythurau syml y caneuon.[1]

Mahalia Jackson, "Brenhines yr Efengyl", mewn cyngerdd yn yr Iseldiroedd ym 1961.

Yn niwedd y 19g, gosodwyd sawl gerdd liwgar, llawn cyfeiriadau at yr efengyl ac yn debyg i'r hen ganeuon ysbrydol, i donau a gyfansoddwyd gan emynwyr croenwyn, gyda threfniadau trawsacennog. Un o'r emyniaduron cyntaf i ddefnyddio'r arddull hwn oedd The Harp of Zion (1893), a ddefnyddiwyd gan nifer o eglwysi duon. Dylanwadwyd ar y gerddoriaeth hon gan sawl elfen o ganu a dawns boblogaidd y cyfnod, gan gynnwys rhythmau ragtime, baledi sentimental, dawns chwimgam y syrcas, offerynnau gwledig, ac harmonïau'r felan-gân.[1] Yn y 1930au, arloeswyd ffurf newydd ar y canu hwn gan Thomas A. Dorsey (1899–1993), a elwir "Tad Cerddoriaeth yr Efengyl" am iddo gyfuno'r hen emynau a chanu'r tabernaclau efengylaidd ag arddulliau'r felan. Dywed iddo gyfansoddi dros mil o ganeuon yr efengyl, gan gynnwys "Precious Lord, Take My Hand" a "Peace in the Valley", ac yn ogystal â'i gyfansoddiadau gwreiddiol fe addasodd sawl emyn Negroaidd poblogaidd at dempo cyflym y felan. Dorsey oedd un o sefydlwyr Cynhadledd Genedlaethol Corau a Chorysau'r Efengyl ym 1932, gyda'i phencadlys yn Chicago, ac efe oedd llywydd yr honno am 40 mlynedd. Dyma oedd datblygiad y ffurf a elwir yr efengyl ddu draddodiadol, a ledaenodd o daleithiau'r de i'r gogledd, yn enwedig yn sgil yr Ymfudiad Mawr. Daeth y côr efengylaidd yn elfen bwysig o'r eglwys ddu ar draws yr Unol Daleithiau, ac hefyd mewn rhai eglwysi Pentecostaidd ac Efengylaidd yn y cymunedau croenwyn. Gyda thwf y radio a recordiau poblogaidd, daeth lleisiau amlycaf yr efengyl yn gyfarwydd ar draws y wlad, nifer ohonynt yn fenywod, gan gynnwys Mahalia Jackson (1911–72), a elwir "Brenhines yr Efengyl"; Sister Rosetta Tharpe (1915–73), a gyfunai'r genre hon â'r gitâr drydan; a Clara Ward (1924–73), prif gantores y Ward Singers.

The Blind Boys of Alabama, pedwarawd poblogaidd ers 1939.

Yn debyg i'r efengyl wen, un o brif gyfryngau'r math hwn o ganu oedd y pedwarawd o leisiau gwrywaidd. Ffurf unigryw yr efengyl ddu arno oedd y "pedwarawd jiwbilî", a darddodd o'r Fisk Jubilee Singers (a sefydlwyd yn Nashville, Tennessee, ym 1871) a grwpiau a cappella tebyg mewn colegau a phrifysgolion hanesyddol ddu. Caneuant yr hen emynau a chaneuon ysbrydol, ac heb offerynnau mi fyddent yn canolbwyntio ar drefniannau clos, harmonïau pêr, a rhythmau tra-chywir gan leisiau'r tenor cyntaf, yr ail denor, y bariton, a'r bas. Dylanwadwyd arnynt gan harmonïau clos y clwb glee a chanu siop barbwr yr Americanwyr Ewropeaidd, ac hefyd gan batrymau galw-ac-ateb yr Americanwyr Affricanaidd. Ymhlith y pedwarawdau jiwbili eraill oedd yr Hampton Quarter o Sefydliad Hampton, Virginia; y Tuskeegee Institute Singers, a sefydlwyd ym 1881 yn Sefydliad Tuskeegee, Alabama; y Nashville Students, a dynnai ei aeoldau o Brifysgol Fisk a sawl sefydliad arall yn Nashville; a'r Norfolk Jazz Quartet, a sefydlwyd ym 1910 yn Norfolk, Virginia, a berfformiodd caneuon ysbrydol ac efengylaidd gydag elfennau ragtime a jazz cynnar. Yn nechrau'r 20g lledaenodd y pedwarawdau jiwbili o golegau a phrifysgolion i'r eglwysi, a daeth y pedwarawd gwrywaidd yn fodd boblogaidd arall o ganu'r efengyl ddu, ar y cyd â'r côr, y gynulleidfa, a'r canwr unigol. Parhaodd rhai ohonynt yn a cappella, a dechreuodd eraill ganu gyda chyfeiliant offerynnau. Sefydlwyd nifer o bedwarawdau hirhoedlog yn y cyfnod hwn, gan gynnwys y Soul Stirrers (1926–70au),y Dixie Hummingbirds (ers 1928), y Golden Gate Quartet (ers 1934), y Five Blind Boys of Mississippi (1936–94), y Swan Silvertones (ers 1938), y Blind Boys of Alabama (ers 1939), ac yn ddiweddarach y Mighty Clouds of Joy (1961–2012).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Joseph P. Swain, Historical Dictionary of Sacred Music (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2006), tt. 73–4.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Lynn Abbott a Doug Seroff, To Do This, You Must Know How: Music Pedagogy in the Black Gopel Quartet Tradition (Jackson, Mississippi: University Press of Mississippi, 2013).
  • Jerma A. Jackson, Singing in My Soul: Black Gospel Music in a Secular Age (Chapel Hill, Gogledd Carolina: The University of North Carolina Press, 2004).
  • Alan Young, Woke Me Up This Morning: Black Gospel Singers and the Gospel Life (Jackson, Mississippi: University Press of Mississippi, 1997).