Thomas A. Dorsey

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Thomas A. Dorsey
FfugenwGeorgia Tom, Memphis Mose Edit this on Wikidata
GanwydThomas Andrew Dorsey Edit this on Wikidata
1 Gorffennaf 1899 Edit this on Wikidata
Villa Rica, Georgia Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1993 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Label recordioGennett Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerddor jazz, pianydd, cyfansoddwr caneuon, gospel musician Edit this on Wikidata
Arddulljazz Edit this on Wikidata
Gwobr/auGrammy Trustees Award Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr caneuon, canwr, a phianydd Americanaidd oedd Thomas Andrew Dorsey (1 Gorffennaf 189923 Ionawr 1993) a elwir "Tad Cerddoriaeth yr Efengyl".[1] Priodolir iddo arloesi'r genre honno drwy gyfuno'r hen emynau Negroaidd a chanu'r tabernaclau efengylaidd ag arddulliau'r felan-gân.[2] Dywed iddo gyfansoddi cannoedd o ganeuon y felan a thros mil o ganeuon yr efengyl, gan gynnwys yr emynau "Precious Lord, Take My Hand" a "Peace in the Valley". Yn ystod ei yrfa, perfformiodd dan sawl ffugenw, gan gynnwys "Barrelhouse Tommy", "Georgia Tom", "Memphis Jim", "Memphis Mose", "Railroad Bill", "Smokehouse Charley", a "Texas Tommy".[3]

Teulu a bywyd cynnar (1899–1916)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Thomas Andrew Dorsey ar 1 Gorffennaf 1899 i deulu o Americanwyr Affricanaidd yn Villa Rica, Georgia, Unol Daleithiau America, yn fab i'r pregethwr efengylaidd Thomas Madison Dorsey a'i wraig, yr organyddes eglwys Etta Plant.[3] Symudodd y teulu i Atlanta—prifddinas a dinas fwyaf y dalaith—pan oedd Thomas yn blentyn, a fe ganodd mewn corau'r eglwysi lleol ers 5 oed.[3] Gweithiodd yn fynych i'r syrcas leol, a gwerthodd ddiodydd ysgafn yn yr 81 Theater, un o brif ganolfannau cerddorol Atlanta.[3] Dylanwadwyd arno gan bianyddion a cherddorion eraill y felan-gân a glywodd yn yr 81, sîn a elwid "blŵs Atlanta". Cychwynnodd ar ei yrfa gerddorol yn ifanc, tua 11 oed, gan ddysgu ar liwt ei hun yr arddull barrelhouse o ganu'r piano, a pherfformiodd dan yr enw "Barrelhouse Tommy" mewn neuaddau dawns, partïon preifat, a gwirotai yn Atlanta a'r cyrion.[3] Serch ei fagwraeth dduwiol, amgylchfyd anweddus a phechadurus ydoedd, ac am ddeunaw mlynedd gyntaf ei yrfa byddai'n ganwr, pianydd, cyfansoddwr, a threfnydd mewn cerddoriaeth seciwlar, gan gynnwys hocwm—caneuon digrif, yn aml o natur rywiol—a jazz y putendai.[3][1]

Ei yrfa yn y felan (1916–28)[golygu | golygu cod y dudalen]

Symudodd Dorsey i Chicago, Illinois, ym 1916—yn nechrau'r Ymfudiad Mawr gan bobl dduon o daleithiau gwledig De'r Unol Daleithiau i'r dinasoedd ac ardaloedd diwydiannol yn y Gogledd a'r Gorllewin Canol—ac yno astudiodd yn y Coleg Cyfansoddi a Threfnu.[1] Dechreuodd weithio â bandiau jazz, a blaenodd grŵp ei hun, y Wildcats Jazz Band, a aeth ar daith gyda'r gantores Ma Rainey ar draws taleithiau'r Gorllewin Canol a'r De rhwng 1924 a 1928.[3] Byddai hefyd yn arddangos offerynnau mewn siopau cerdd lleol am dâl ychwanegol, ac felly magodd gysylltiadau â'r diwydiant cyhoeddi cerddoriaeth, a chafodd waith trefnu i'r cwmnïau Chicago Music Publishing a Vocalion Records.[3] Ym 1926 cyfansoddodd un o'i ganeuon crefyddol cyntaf, "If You See My Savior".[2] Ym 1928 ffurfiodd Dorsey bartneriaeth â'r gitarydd llithr o nod Tampa Red, gyda Dorsey yn defnyddio'r enw "Georgia Tom", a recordiasant y gân "It's Tight Like That", a lwyddodd i werthu miliwn o gopïau.[3]

Ei yrfa yn yr efengyl (1929–34)[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweithiodd Dorsey i Vocalion Records fel chwilotwr am dalent, ac ym 1929 dechreuodd weithio fel cynghorwr recordio i Brunswick Records. Recordiodd sawl cân yn nechrau'r 1930au, gan gydweithio â grwpiau megis y Hokum Boys a'r gantores Memphis Minnie.[3] Yn y cyfnod hwn, penderfynodd ganolbwyntio ar gerddoriaeth grefyddol yn unig, a sefydlodd gwmni ei hun—Thomas Dorsey Gospel Songs Music Publishing Company—i gyhoeddi gerddoriaeth ddalen a geiriau ei hun. Cyfansoddodd fil a rhagor o ganeuon defosiynol, gan gyfuno alawon a rhythmau'r felan â themâu ysbrydol ac efenyglaidd. Yn ogystal â chyfansoddiadau gwreiddiol ei hun, addasodd sawl emyn Negroaidd poblogaidd at dempo cyflym y felan. Ym 1931, bu farw ei wraig gyntaf wrth esgor ar eu baban, yr hwn a fu farw hefyd y diwrnod wedyn. Ysbrydolwyd Dorsey gan ei alar a'i ffydd i ysgrifennu un o'i ganeuon enwocaf, "Precious Lord, Take My Hand".[3] Daeth yn gyfarwyddwr corawl Eglwys y Bedyddwyr Pererin yn Chicago ym 1932.[1] Dorsey oedd un o sefydlwyr Cynhadledd Genedlaethol Corau a Chorysau'r Efengyl ym 1932, gyda'i phencadlys yn Chicago, ac efe oedd llywydd yr honno am 40 mlynedd. Gwnaeth ei record olaf ym 1934.

Gweddill ei oes (1934–93)[golygu | golygu cod y dudalen]

Er iddo roi'r gorau i recordio, parhaodd Dorsey i deithio a pherfformio yn y 1940au. Priododd â'i ail wraig, Kathryn Mosley, ym 1941.[2] Wedi hynny, treuliodd ail hanner ei oes yn ysgrifennu, ac yn darlithio i ysgolion, clybiau, a gorsafoedd radio. Gwasanaethodd yn weinidog cynorthwyol Eglwys y Bedyddwyr Pererin trwy gydol y 1960au a'r 1970au.[3] Rhoddwyd iddo doethuriaeth er anrhydedd gan Sefydliad Simmons, De Carolina, ym 1946 a Gwobr Gerddoriaeth Genedlaethol y Gynhadledd Gerddoriaeth Americanaidd ym 1976.[3] Dioddefodd o glefyd Alzheimer ar ddiwedd ei oes, a bu farw Thomas Dorsey ar 23 Ionawr 1993 yn ei gartref yn Chicago yn 93 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Thomas Andrew Dorsey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Eric Pace, "Thomas A. Dorsey Is Dead at 93; Known as Father of Gospel Music", The New York Times (25 Ionawr 1993). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Tachwedd 2022.
  3. 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 (Saesneg) Laurence Staig, "Obituary: Thomas Dorsey", The Independent (26 Ionawr 1993). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Ebrill 2013.