Cerddoriaeth yr efengyl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cerddoriaeth yr Efengyl)

Math o gerddoriaeth Gristnogol yw cerddoriaeth yr efengyl (Saesneg: gospel music) sydd yn tarddu o'r mudiad efengylaidd yn Unol Daleithiau America yn y 19g. Fel rheol, rhennir yn ddwy genre a ddatblygodd ar wahân yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g: yr efengyl ddu, sef traddodiad yr Americanwyr Affricanaidd; a'r efengyl ddeheuol neu'r efengyl wen, sef traddodiad y bobl wynion yn nhaleithiau'r De. Yn fras, mae'r ddau draddodiad yn tynnu i wahanol raddau ar gyfuniad o ganeuon ysbrydol y bobl dduon ac emynyddiaeth yr eglwysi gwynion yn y 19g.

Yn y 1950au, datblygodd cerddoriaeth yr enaid drwy gyfuniad o gerddoriaeth ddu yr efengyl a jazz.

Gwreiddiau cerddoriaeth yr efengyl[golygu | golygu cod]

Gwaddol yr emynwyr Saesneg[golygu | golygu cod]

Dygwyd traddodiad yr emyn Saesneg i'r Byd Newydd gan yr wladychwyr Seisnig yn yr 17g a'r 18g, a daeth emynau Anglicanaidd megis "Amazing Grace" gan John Newton a "Rock of Ages" gan Augustus Toplady yn boblogaidd ar ddwy ochr yr Iwerydd, ac ymhlith caethweision croenddu yn ogystal â'r eglwysi gwynion yn America. Ar ddechrau'r 19g, lledaenwyd emynau poblogaidd—yr esiamplau cynharaf o ganu'r efengyl—trwy gyfrwng casgliadau o ganeuon i'r eglwys ac emyniaduron ysgol Sul. Cyhoeddwyd rhai o'r llyfrau emynau mwyaf cyffredin gan Lowell Mason, William Batchelder Bradbury, Robert Lowry, a William Howard Doane, ac emynydd toreithiocaf yr oes oedd Fanny Crosby.

Efengyliaeth[golygu | golygu cod]

Wedi Rhyfel Cartref America (1861–65), daeth yr hen stoc o emynau ysgol Sul yn rhan annatod o fywyd yr adfywiad Protestannaidd a'r cyrddau efengylaidd mewn eglwysi gwynion, yn enwedig yn y trefi a'r dinasoedd. Ymhlith hoelion wyth y mudiad hwn oedd y pregethwr Dwight L. Moody (1837–99) a'i gyfoedion, y cyfansoddwyr a chantorion Philip Bliss (1838–76) ac Ira D. Sankey (1840–1908), a gyflwynasant nifer o ganeuon newydd i Gristnogion yr Unol Daleithiau. Poblogeiddiwyd yr enw gospel gan un o gasgliadau Bliss, Gospel Songs: A Choice Collection of Hymns and Tunes, New and Old, for Gospel Meeting, Sunday School (1874).[1] Daeth y ffurf hon ar gerddoriaeth ddefosiynol yn ffordd bwysig ac atyniadol o addysgu addolwyr a'u derbyn i'r ffydd, ac yn fodd o weinidogaeth ynddi ei hun. Fodd bynnag, bu geiriau'r emynau hyn fel arfer o ddifrif ac yn sobr o'u cymharu â chanu'r Americanwyr Affricanaidd yn yr eglwysi duon.

Cerddoriaeth ddeheuol yr efengyl[golygu | golygu cod]

Yn y 1910au a'r 1920au, dechreuodd emynau'r eglwysi gwynion golli'r hen sobrwydd, a chychwynnodd oes newydd o gerddoriaeth efengylaidd fywiog i godi'r galon. Dan ddylanwad cerddorion megis Charles McCallon Alexander (1867–1920), a weithiodd gyda John Wilbur Chapman (1859–1918), ac Homer Rodeheaver (1880–1955), un o gerddorion Billy Sunday (1862–1935), trawsnewidiodd arddulliau, offeryniaeth, a deunydd y gerddoriaeth. Cymerai'r piano le'r organ, a defnyddiwyd offerynnau eraill yn ogystal, er enghraifft y trombôn a genid gan Rodeheaver. Daeth geiriau'r emynau i gyfleu neges obeithiol a llon yn hytrach nag ymdriniaeth ddifrifol a phwyllog o'r efengyl. Yn y 1930au a'r 1940au, dylanwadwyd ar ganu'r efengyl gan fathau o gerddoriaeth boblogaidd y De, gan gynnwys cerddoriaeth hen ffasiwn a chanu gwerin a gwlad. Mae perfformiadau'r Teulu Carter, sydd yn cyfuno cerddoriaeth grefyddol yr eglwysig gwynion â thraddodiadau gwledig seciwlar Appalachia, yn esiampl o'r datblygiadu hyn.[2]

Cerddoriaeth ddu yr efengyl[golygu | golygu cod]

Nid oedd gan y nifer fwyaf o eglwysi duon y moddion i argraffu casgliadau o emynau, ac o'r herwydd datblygodd y traddodiad Affricanaidd-Americanaidd o ganu'r efengyl gyda nodweddion y traddodiad llafar: patrymau "galw ac ateb", cytganau perlewygol, ailadroddiad diddiwedd, ac addurniad byrfyfyr sydd yn addas i strwythurau syml y caneuon.[1] Yn niwedd y 19g, gosodwyd sawl gerdd liwgar, llawn cyfeiriadau at yr efengyl ac yn debyg i'r hen ganeuon ysbrydol, i donau a gyfansoddwyd gan emynwyr croenwyn, gyda threfniadau trawsacennog. Un o'r emyniaduron cyntaf i ddefnyddio'r arddull hwn oedd The Harp of Zion (1893), a ddefnyddiwyd gan nifer o eglwysi duon. Dylanwadwyd ar y gerddoriaeth hon gan sawl elfen o ganu a dawns boblogaidd y cyfnod, gan gynnwys rhythmau ragtime, baledi sentimental, dawns chwimgam y syrcas, offerynnau gwledig, ac harmonïau'r felan-gân.[1] Yn y 1930au, arloeswyd ffurf newydd ar y canu hwn gan Thomas A. Dorsey (1899–1993), a elwir "Tad Cerddoriaeth yr Efengyl" am iddo gyfuno'r hen emynau Negroaidd a chanu'r tabernaclau efengylaidd ag arddulliau'r felan-gân.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Joseph P. Swain, Historical Dictionary of Sacred Music (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2006), tt. 73–4.
  2. (Saesneg) Gospel music. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • M. P. Bangert, "Black Gospel and Spirituals: A Primer", Currents in Theology and Mission 16 (1989), tt. 173–79.
  • J. R. Hillsman, The Progress of Gospel Music: From Spirituals to Contemporary Gospel (Efrog Newydd: Vantage Press, 1977).
  • Jerma A. Jackson, Singing in My Soul: Black Gospel Music in a Secular Age (Chapel Hill, Gogledd Carolina: The University of North Carolina Press, 2004).
  • P. K. Maultsby, "The Use and Performance of Hymnody, Spirituals, and Gospels in the Black Church", The Hymnology Annual (Berrien Springs, Michigan: Vande Vere, 1992), tt. 11–26.