Efengyliaeth

Oddi ar Wicipedia
Efengyliaeth
Paentiad o'r Pedwar Efengylydd gan Jacob Jordaens (tua 1620).
Enghraifft o'r canlynolgweithgaredd Edit this on Wikidata
Mathaddysgu, Proselytiaeth Edit this on Wikidata
Rhan oCristnogaeth Edit this on Wikidata

Y gwaith o gyhoeddi'r efengyl—y newyddion da am deyrnas Dduw ac iachawdwriaeth Gristnogol—yw efengyliaeth.[1] Efengylir gyda'r nod o broselyteiddio, atgyfnerthu ac adfywio'r ffydd mewn cymunedau Cristnogol, a chyhoeddi a hyrwyddo hanes a dysgeidiaeth Iesu Grist. Caiff ei ystyried yn gyfrifoldeb pwysig gan nifer o Gristnogion.

Gall y Cristion efengylu drwy sawl dull, gan gynnwys tystio'n bersonol i'r ffydd a rhannu ei brofiad ysbrydol ei hun; addysgu drwy gyfrwng pregethau, darlithoedd, ac astudiaethau Beiblaidd, yn yr eglwys, y capel, neu fannau cyfarfod eraill; cenhadaeth, gwaith cymunedol a chymorth dyngarol; lledaenu llyfrau, pamffledi, a deunyddiau ysgrifenedig eraill; a defnyddio'r cyfryngau torfol a thechnoleg i gyhoeddi'r efengyl i wylwyr, gwrandawyr, a darllenwyr ar draws y byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  efengyliaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Mai 2023.