Castell Gwithian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Gwithian
Math Castell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.1107°N 4.534359°W Edit this on Wikidata

Castell neu domen mwnt a beili ydyw Castell Gwithian, ger Blaenporth, Ceredigion; cyfeiriad grid SN265488.

Adeiladwyd y castell ym 1110 gan Gilbert Fitz Richard, Iarll Stregyl. Cofnodir ym Mrut y Tywysogion iddo gael ei losgi'n ulw gan y Tywysog Gruffudd ap Rhys yn 1116. Lladdwyd y rhan fwyaf o'r amddiffynwyr Normanaidd ond dim ond un o filwyr Gruffudd a laddwyd. Dyna'r cofnod olaf am y castell.[1]

Cofrestrwyd y mwnt a beili hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CD070.[2]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Gwasg Carreg Gwalch, 1991), tud. 22.
  2. Coflein
  3. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)
WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.