Brwydr Tal Moelfre

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ymladdwyd Brwydr Tal Moelfre ar arfordir Ynys Môn rhwng lluoedd Owain Gwynedd a Harri II o Loegr yn 1157. Bu'r Cymry yn fuddugol a lladdwyd mab Harri ac anafwyd ei hanner brawd yn druenus.

Dyma'r ail dro mewn dwy flynedd i Harri II ymosod ar Wynedd. Yn haf 1156 arweiniodd fyddin fawr i fro Gwynedd Is Conwy a chafwyd brwydr galed yng nghantref Tegeingl, sef Brwydr Cwnsyllt, lle gyrrwyd y Saeson yn ôl i Loegr. Ond er gwaethaf llwyddiant milwrol Owain yn y ddwy frwydr hyn bu'n rhaid iddo ddod i gytundeb gyda Harri a oedd yn cynnwys dychwelyd cantref Tegeingl i Bowys.

Dethlir buddugoliaeth Owain Gwynedd mewn cerdd gan Gwalchmai ap Meilyr o'r enw 'Arwyrain Owain Gwynedd'. Dyma'r adran o'r gerdd sy'n cyfeirio at Frwydr Tal Moelfre a'r Menai yn troi'n goch gan waed y lladdedigion:

Ar gad gad greudde, ar gryd gryd graendde,
Ac am Dal Moelfre mil fanieri;
Ar lath lath lachar, ar bâr beri,
Ar ffwyr ffwyr ffyrfgawdd, ar fawdd foddi;
A Menai heb drai o drallanw gwaedryar,
A lliw gwyar gwŷr yn heli,
A llurugawr glas a gloes trychni,
A thrychion ynddudd rhag rheiddrudd ri,
A dygyfor Lloegr, a dygyfrang â hi,
Ac eu dygyfwrw yn astrusi,
A dygyfod clod cleddyf difri
Yn saith ugain iaith wy faith foli.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. J.E. Caerwyn Williams (gol.), 'Gwaith Gwalchmai ap Meilyr', Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgyblion (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994), tud. 180.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.