Bronwen y dŵr
Bronwen y dŵr Cinclus cinclus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Cinclidae |
Genws: | Cincius[*] |
Rhywogaeth: | Cinclus cinclus |
Enw deuenwol | |
Cinclus cinclus Linnaeus, 1758
| |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Bronwen y dŵr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: bronwennod y dŵr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Cinclus cinclus; yr enw Saesneg arno yw White-throated dipper. Mae'n perthyn i deulu'r Trochwyr (Lladin: Cinclidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru. Mae'n aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, er fod y niferoedd wedi lleihau mewn rhai ardaloedd.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. cinclus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin trwy Ewrop a'r Dwyrain Canol.
Ceir nifer o is-rywogaethau:
- C. c. cinclus : Gogledd Ewrop
- C. c. gularis : Prydain ac Iwerddon
- C. c. aquaticus : Canolbarth Ewrop
Nid yw Bronwen y Dŵr yn aderyn mudol fel rheol, ond mae C. c. cinclus yn symud tua'r de yn y gaeaf. Fe'i ceir ar afonydd a nentydd, ac weithiau ar lynnoedd, ond fel rheol ar afonydd lle mae'r dŵr yn llifo'n gyflym. Ei brif fwyd yw pryfed ac anifeiliaid bychan o wahanol fathau, ac mae'n medru trochi dan y dŵr i'w dal.
Symudiadau
[golygu | golygu cod]Nid yw'r fronwen ddŵr yn symyd ymhell iawn o'i milltir sgwâr enedigol ond mae eithriadau. Dyma rannau o adroddiad gan Wil Williams o bapur bro Llangefni o un symudiad ychydig yn anarferol:
“ | Bronwen y dŵr
Efallai i rai ohonoch, drigolion Llangefni, weld Kelvin a fi yn Ilythrennol yn yr Afon Cefni yng nghanol Llangefni rhwng 6.30 a 9.00 o'r gloch bore dydd Gwener, 26 Mai [2017]. Bore bendigedig o braf a chynnes. Roeddwn wedi derbyn e-bost oddi wrth Kelvin (Kelvin Jones, Trefnydd y British Trust for Ornithology (BTO) dros Cymru) yn dweud bod yna Fronwen y Dwr wedi ei modrwyo yng nghanol Llangefni ac 'nad oedd hanes o Fronwen y Dwr wedi cael ei modrwyo ym Môn ers pan oedd Noah yn hogyn bach'! .... Gwelwyd bod y Fronwen Ddŵr gyda'r fodrwy, yn ardal y bont sydd yn arwain o siop cigydd Jacki Thomas a dan y bwa am siop Asda. ... fe'i dalwyd! Drwy chwythu ar ei bol, gwelwyd clwt moel o blu, Ile bu'r iar, felly yn gori ei wyau. Cafodd ei mesur a'i phwyso a gwnaed nodyn o'r manylion oedd ar y fodrwy. Roedd yn pwyso 60 gram. .... Y diwrnod canlynol cefais wybod gan Kel mai fo, yn wir, oedd wedi dal a modrwyo'r aderyn, yn un o bum cyw, ar 19 Ebrill 2012, ar yr Afon Dwyfach, rhwng Bryncir a Phant Glas![3] |
” |
Roedd yr aderyn hwn felly dros bum mlynedd oed ac roedd wedi symud oddeutu 25 milltir dros y cyfnod.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r bronwen y dŵr yn perthyn i deulu'r Trochwyr (Lladin: Cinclidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Accentor cacharensis | Accentor cacharensis | |
Accentor fagani | Accentor fagani | |
Accentor fervidus | Accentor fervidus | |
Accentor huttoni | Accentor huttoni | |
Accentor immaculatus | Accentor immaculatus | |
Accentor jerdoni | Accentor jerdoni | |
Accentor modularis | Accentor modularis | |
Accentor orientalis | Accentor orientalis | |
Bronwen y dŵr | Cinclus cinclus | |
Cinclus ardesiacus | Cinclus ardesiacus | |
Cinclus cashmeriensis | Cinclus cashmeriensis | |
Trochwr Gyddfgoch | Cinclus schulzii | |
Trochwr brown | Cinclus pallasii | |
Trochwr llwyd | Cinclus mexicanus | |
Trochwr penwyn | Cinclus leucocephalus |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Y Glorian, Papur Bro Llangefni a'r Cylch (2017)