Bronwen y dŵr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Bronwen y Dŵr)
Bronwen y dŵr
Cinclus cinclus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Cinclidae
Genws: Cincius[*]
Rhywogaeth: Cinclus cinclus
Enw deuenwol
Cinclus cinclus
Linnaeus, 1758



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Bronwen y dŵr (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: bronwennod y dŵr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Cinclus cinclus; yr enw Saesneg arno yw White-throated dipper. Mae'n perthyn i deulu'r Trochwyr (Lladin: Cinclidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru. Mae'n aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru, er fod y niferoedd wedi lleihau mewn rhai ardaloedd.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. cinclus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Bronwen y dŵr gyda phryf yn ei cheg; yr Alban.
Cinclus cinclus

Mae'n aderyn gweddol gyffredin trwy Ewrop a'r Dwyrain Canol.

Ceir nifer o is-rywogaethau:

  • C. c. cinclus : Gogledd Ewrop
  • C. c. gularis : Prydain ac Iwerddon
  • C. c. aquaticus : Canolbarth Ewrop

Nid yw Bronwen y Dŵr yn aderyn mudol fel rheol, ond mae C. c. cinclus yn symud tua'r de yn y gaeaf. Fe'i ceir ar afonydd a nentydd, ac weithiau ar lynnoedd, ond fel rheol ar afonydd lle mae'r dŵr yn llifo'n gyflym. Ei brif fwyd yw pryfed ac anifeiliaid bychan o wahanol fathau, ac mae'n medru trochi dan y dŵr i'w dal.

Symudiadau[golygu | golygu cod]

Nid yw'r fronwen ddŵr yn symyd ymhell iawn o'i milltir sgwâr enedigol ond mae eithriadau. Dyma rannau o adroddiad gan Wil Williams o bapur bro Llangefni o un symudiad ychydig yn anarferol:

Bronwen y dŵr

Efallai i rai ohonoch, drigolion Llangefni, weld Kelvin a fi yn Ilythrennol yn yr Afon Cefni yng nghanol Llangefni rhwng 6.30 a 9.00 o'r gloch bore dydd Gwener, 26 Mai [2017]. Bore bendigedig o braf a chynnes. Roeddwn wedi derbyn e-bost oddi wrth Kelvin (Kelvin Jones, Trefnydd y British Trust for Ornithology (BTO) dros Cymru) yn dweud bod yna Fronwen y Dwr wedi ei modrwyo yng nghanol Llangefni ac 'nad oedd hanes o Fronwen y Dwr wedi cael ei modrwyo ym Môn ers pan oedd Noah yn hogyn bach'! .... Gwelwyd bod y Fronwen Ddŵr gyda'r fodrwy, yn ardal y bont sydd yn arwain o siop cigydd Jacki Thomas a dan y bwa am siop Asda. ... fe'i dalwyd! Drwy chwythu ar ei bol, gwelwyd clwt moel o blu, Ile bu'r iar, felly yn gori ei wyau. Cafodd ei mesur a'i phwyso a gwnaed nodyn o'r manylion oedd ar y fodrwy. Roedd yn pwyso 60 gram. .... Y diwrnod canlynol cefais wybod gan Kel mai fo, yn wir, oedd wedi dal a modrwyo'r aderyn, yn un o bum cyw, ar 19 Ebrill 2012, ar yr Afon Dwyfach, rhwng Bryncir a Phant Glas![3]
William Williams.

Roedd yr aderyn hwn felly dros bum mlynedd oed ac roedd wedi symud oddeutu 25 milltir dros y cyfnod.

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r bronwen y dŵr yn perthyn i deulu'r Trochwyr (Lladin: Cinclidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Accentor cacharensis Accentor cacharensis
Accentor fagani Accentor fagani
Accentor fervidus Accentor fervidus
Accentor huttoni Accentor huttoni
Accentor immaculatus Accentor immaculatus
Accentor jerdoni Accentor jerdoni
Accentor modularis Accentor modularis
Accentor orientalis Accentor orientalis
Bronwen y dŵr Cinclus cinclus
Cinclus ardesiacus Cinclus ardesiacus
Cinclus cashmeriensis Cinclus cashmeriensis
Trochwr Gyddfgoch Cinclus schulzii
Trochwr brown Cinclus pallasii
Trochwr llwyd Cinclus mexicanus
Trochwr penwyn Cinclus leucocephalus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Y Glorian, Papur Bro Llangefni a'r Cylch (2017)
Safonwyd yr enw Bronwen y dŵr gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.