Berta Ruck

Oddi ar Wicipedia
Berta Ruck
Ganwyd2 Awst 1878 Edit this on Wikidata
Murree Edit this on Wikidata
Bu farw11 Awst 1978 Edit this on Wikidata
Aberdyfi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol St Winiffred
  • Lambeth School of Art
  • Académie Colarossi Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur, nofelydd, ysgrifennwr, darlunydd Edit this on Wikidata
TadArthur Ashley Ruck Edit this on Wikidata
MamElizabeth Eleanor Ruck Edit this on Wikidata
PriodOliver Onions Edit this on Wikidata
PlantWilliam Richard Oliver, Arthur Oliver Edit this on Wikidata

Roedd Amy Roberta Ruck (2 Awst 187811 Awst 1978) yn nofelydd ac awdur Cymreig.[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Berta Ruck yn Murree, Punjab, India yn blentyn i Arthur Ashley Ruck, swyddog ym myddin India'r Ymerodraeth Brydeinig ac Elizabeth Eleanor (née D'Arcy) ei wraig. Roedd ei theulu o dras Gymreig. Roedd ei nain ar ochr ei thad, Mary Ann Ruck (née Matthews), yn etifedd ystâd Esgair a Phantlludw, Aberdyfi. Roedd ei mam yn hanu o Lanbrynmair ac yn ddisgynnydd i Dafydd Llwyd o Fathafarn ac i John Jones, Maesygarnedd.[1]

Yn ddyflwydd oed danfonwyd Ruck yn ôl i Gymru i fyw gyda'i nain yn Aberdyfi lle fu'n byw hyd 1886 pan ddychwelodd ei theulu adref i Gymru wedi i'w thad gael ei benodi yn Brif Gwnstabl Heddlu Sir Gaernarfon.[3]. Bu'r teulu wedyn yn byw yn Llwyn-y-Brain, Llanrug. Cafodd ei addysgu mewn ysgol breswyl yn yr Almaen ac yn Ysgol St Winifred Bangor. Mynychodd ysgol gelf yn Llundain cyn derbyn ysgoloriaeth i Ysgol Celfyddyd Gain Slade (sydd bellach yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain). O Lundain aeth i astudio yn yr Académie Colarossi, coleg gelf ym Mharis.

Ym 1909 priododd y nofelydd Seisnig Oliver Onions; a newidiodd ei enw ym 1918 i George Oliver. Bu iddynt dau fab.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Ruck ei yrfa trwy ddarparu darluniadau i gylchgronau merched ei dydd, yn aml i ddarlunio storïau a oedd yn ymddangos yn y cylchgronau. O 1905 dechreuodd ysgrifennu ei storïau ei hun gan weld storïau byr a storïau gyfres mewn cylchgronau megis Home Chat a The Idler.

Cyhoeddwyd y gyntaf o'i 90 nofel lawn ar ffurf llyfr, His Official Fiancée, ym 1914.[5]. Roedd yn nofel rhamant gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir, a phrofodd yn llwyddiant ysgubol. Defnyddiwyd y nofel yn sail i ddwy ffilm: His Official Fiancée (1919), ffilm fud a gyfarwyddwyd gan Robert G. Vignola a Hans officiella fästmö (1944), ffilm Swedeg a gyfarwyddwyd gan Nils Jerring [6]. Cyhoeddodd tair nofel arall ar yr un thema, The Lad with Wings (1915), Khaki and Kisses (1915) a The Girls at his Billet (1916). Cyhoeddwyd y pedwar llyfr o dan ei enw priodasol Mrs Oliver Onions. Ym 1916 cyhoeddwyd Miss Million's Maid y cyntaf o'i nofelau o dan yr enw Berta Ruck.

Thema y rhan fwyaf o'i nofelau oedd stori cariad am ferch mewn byd lle'r oedd rôl y ferch yn newid yn y byd cyfoes. Roedd y rhan fwyaf o'i nofelau, hefyd, yn cynnwys prif gymeriad oedd yn Gymraes, gan amlaf yn Gymraes Cymraeg ei hiaith.

Yn ogystal â'i nofelau, ysgrifennodd hanes teulu ei mam, Ancestral Voices (1972), a phedair gwaith hunangofiant: A Storyteller tells the Truth (1935), A Smile for the Past (1959),[7] Trickle of Welsh Blood (1967) ac An Asset to Wales (1970).

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei chartref, Bryn Tegwel, Aberdyfi ychydig wedi ei phenblwydd yn 100 mlwydd oed.

Llyfryddiaeth (anghyflawn)[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • His Official Fiancée (1914)
  • The Wooing of Rosamund Fayre (1914)
  • Miss Million's Maid (1915)
  • The Boy with Wings (1915)
  • Khaki and Kisses (1915)
  • In Another Girl's Shoes (1916)
  • The Bridge of Kisses (1917)
  • The Girls at his Billet (1917)
  • The Three of Hearts (1917)
  • The Girl who Proposed (1918)
  • The Girl who Was Too Good Looking (c. 1918)
  • The Years for Rachel (1918)
  • The Dream Domesticated (1918)
  • Rufus on the Rebound (1918)
  • A Land-Girl's Love Story (1919)
  • Sweethearts Unmet (1919)
  • The Disturbing Charm (1919)
  • Spring Comes (1919)
  • American Snap-Shots (1920)
  • Arabella the Awful (c. 1920)
  • Sweet Stranger (1921)
  • In Another Girl's Shoes (c. 1922)
  • The Wrong Mr. Right (c. 1922)
  • The Subconscious Courtship (1922)
  • Sir or Madame? (1923)
  • The Dancing Star (1923)
  • Lucky in Love (1924)
  • The Leap Year Girl (1924)
  • Kneel to the Prettiest (1925)
  • The Immortal Girl (1925)
  • The Clouded Pearl (1925)
  • The Pearl Thief (1926)
  • Kneel to the Prettiest (1926))
  • Her Pirate Partner (1927)
  • The Mind of a Minx (1927)
  • Money for One (1928)
  • The Youngest Venus (1928)
  • One of the Chorus (1929)
  • The Unkissed Bride (1929)
  • Joy-Ride! (1929)
  • The Love-Hater (1930)
  • To-Day's Daughter (1930)
  • Missing Girl (1931)
  • Forced Landing (1931)
  • Dance-Partner (1931)
  • Offer of Marriage (1932)
  • This Year Next Year Sometime (1932)
  • The Lap of Luxury (1932)
  • Change Here for Happiness (1933)
  • Sudden Sweetheart (1933)
  • Understudy (1933)
  • Eleventh Hour Lover (1933)
  • The Best Time Ever (1934)
  • Sunburst (1934)
  • A Star in Love (1935)
  • Sunshine Stealer (1935)
  • Half-Past Kissing Time (1936)
  • Sleeping Beauty (1936)
  • Spring Comes (1936)
  • Romance Royal (1937)
  • Love on Second Thoughts (1937)
  • Love Comes Again Later (1938)
  • Wedding March (1938)
  • Mock Honeymoon (1939)
  • Arabella Arrives (1939)
  • Handmaid to Fame (1939)
  • Money Isn't Everything (1940)
  • He Learned About Women (1940)
  • It Was Left to Peter (1941)
  • Fiancees are Relatives (1941)
  • Waltz Contest (1941)
  • Jade Earrings (1941)
  • Footlight Fever (1942)
  • Spinster's Progress (1942)
  • Quarrel and Kiss (1942)
  • Bread and Grease Paint (1943)
  • Intruder Marriage (1944)
  • Shining Chance (1944)
  • You Are The One (1945)
  • Throw Away Yesterday (1946)
  • Surprise Engagement (1947)
  • Tomboy in Lace (1947)
  • She Danced in the Ballet (1948)
  • Gentle Tyrant (1949)
  • Joyful Journey (1950)
  • The Rising of the Lark (1951)
  • Spice of Life (1952)
  • Fantastic Holiday (1953)
  • Marriage is a Blind Date (1953)
  • The Men in her Life (1954)
  • Romance in Two Keys (1955)
  • We All Have Our Secrets (1955)
  • A Wish a Day (1956)
  • Romance of a Film Star (1956)
  • Leap Year Love (1957)
  • Admirer Unknown (1957)
  • Third Time Lucky (1958)
  • A Smile from the Past (1959)
  • Romantic Afterthought (1959)
  • Love and a Rich Girl (1960)
  • Sherry and Ghosts (1961)
  • Diamond Engagement Ring (1962)
  • Runaway Lovers (1963)
  • Rendezvous at Zagarella (1964)
  • Shopping for a Husband (1967)

Storïau byr

  • "The Picturesque Young Packards" (Cyhoeddwyd yn The Jabberwock, Ionawr, 1906)

Bywgraffiadol

  • A Story-Teller Tells the Truth (1935)
  • A Smile for the Past (1959)
  • A Trickle of Welsh Blood) (1967)
  • An Asset to Wales (1970)
  • Ancestral Voices (1972)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]