Ardal tirol a morol o dan warchodaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Traeth Llanddwyn. Rheolir y Warchodfa gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae tua 30% o dir a dŵr Cymru wedi cael ei ddewis fel safle arbennig (neu ardaloedd sy'n cael eu gwarchod yng Nghymru) ‒ naill ai oherwydd ei fywyd gwyllt, neu ei olygfeydd hardd neu ei werth fel safle daearegol.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corf sy'n gyfrifol am ddynodi'r safleoedd natur hyn yn ardaloedd dan warchodaeth. Ceir ardaloedd gwledig a'r moroedd sydd a statws arbennig fel safleoedd gwarchodedig oherwydd eu pwysigrwydd naturiol neu ddiwylliannol.

Mae cyfyngiadau'n bodoli ar weithgareddau a datblygiadau a allai effeithio ar ardal ddynodedig neu warchodedig e.e. adeiladu tai neu ffyrdd newydd. Gall y rhain gynnwys ardaloedd wrth ymyl y safleoedd hyn hefyd.

Mathau[golygu | golygu cod y dudalen]

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Dyma'r safleoedd pwysicaf ar gyfer treftadaeth naturiol Cymru. Maen nhw'n warchodedig iawn er mwyn diogelu amrediad, ansawdd ac amrywiaeth y cynefinoedd, rhywogaethau a nodweddion daearyddol ym mhob rhan o Gymru. Y nhw yw conglfeini'r gwaith cadwraeth a wneir, sef gwarchod craidd ein treftadaeth naturiol.

Safleoedd sy'n cael eu gwarchod gan gyfraith Ewropeaidd a rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r rhain yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar.

Ardaloedd Morol Gwarchodedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ardal Forol Gwarchodedig

Mae'r rhain yn cynnwys ardaloedd o'r môr, gwely'r môr neu'r lan sydd wedi'u gwarchod o dan gyfreithiau eraill megis Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Parthau Cadwraeth Morol a Safleoedd Ramsar.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Dyma enghreifftiau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol o'r radd flaenaf. Gweinyddir Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru gan Gyfoeth NAturiol Cymru, sydd hefyd a'r hawl i ddynodi safleoedd newydd fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae 71 ohonynt yng Nghymru. Mae eu maint yn amrywio'n fawr; y lleiaf yw Dan-yr-Ogof, sy'n 0.52ha, a'r mwyaf yw'r Berwyn, sy'n 7,920ha. Mae 58% ohonynt yn llai na 100ha.

Y safle gyntaf i'w dynodi'n Warchodfa Natur Genedlaethol yng Nghymru oedd Cwm Idwal, yn 1954.

Parciau Cenedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Parc cenedlaethol

Ardaloedd mawr a ddynodwyd yn ôl y gyfraith i ddiogelu rhinweddau arbennig eu tirweddau ac i hyrwyddo hamdden awyr agored. Mae gan Barciau Cenedlaethol eu Hawdurdodau eu hunain, sy'n rheoli cynllunio

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae'r rhain wedi eu diogelu o dan y gyfraith oherwydd rhinweddau arbennig eu tirweddau, eu bywyd gwyllt, eu daeareg a'u daearyddiaeth. Maen nhw'n cael eu gwarchod fwy nag ardaloedd eraill o dan y broses gynllunio, ac maen nhw'n hafal i Barciau Cenedlaethol o ran tirwedd a golygfeydd.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE) yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae yna bum Ardal o Harddwch Naturol Eithriadol:

Arfordiroedd Treftadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Arfordir Treftadaeth

Darnau o forlin eithriadol, heb eu difetha, yw'r rhain, sydd fel arfer o dan ofal awdurdodau lleol. Maen nhw'n rhoi cyfrif am dros hanner morlin Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]