Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia

Ardal gadwraeth i'r gogledd-orllewin o ganol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor (Saesneg: Grosvenor Road Conservation Area).

Mae 26 adeilad rhestredig yn yr ardal gadwraeth, sy'n cynnwys nifer sylweddol o adeiladau o bwys.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Grosvenor Lodge - Rhif 1, Ffordd Grosvenor

Mae'r ardal gadwraeth Ffordd Grosvenor yn gorwedd i'r gogledd-orllewin o ganol Wrecsam.

Calon ardal gadwraeth yw Ffordd Grosvenor (Grosvenor Road). Mae'r stryd yn rhedeg o'r gyffordd gyda Stryt y Rhaglaw (Regent Street), gyferbyn ag Eglwys Gadeiriol Santes Fair, i'r gyffordd gyda Ffordd Rhosddu, wrth y gylchfan fawr ar ffordd gylch fewnol i'r gogledd o ganol y ddinas.

Mae'r ardal gadwraeth yn cynnwys Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni (“Grove Road”), a rhannau o Stryt y Rhaglaw, Stryt Gerallt (“Gerald Street”), Ffordd Bradle (“Bradley Road”), Maes Caxton (“Caxton Place”), Stryt y Brenin (“King Street”), Ffordd Rhosddu (“Rhosddu Road”), Ffordd Parc y Llwyni (“Grove Park Road”) a rhan o gampws Coleg Cambria.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynlluniwyd Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni rhwng 1861 a 1881 fel cylchoedd preswyl o fri ar gyfer dosbarth canol eginol Wrecsam. Lluniwyd pob adeilad yn unigryw yn bensaernïol. Rhoddwyd enwau unigryw i lawer o'r tai. [1]

Cafodd Ffordd Grosvenor ei henwi ar ôl teulu Grosvenor Plas Eaton, Caer, a ddaeth yn fwy adnabyddus fel Dugiaid Westminster yn ddiweddarach.

Erbyn 1951 roedd y rhan fwyaf o'r teuluoedd wedi symud allan o Ffordd Grosvenor a daeth y stryd yn gartref i swyddfeydd anrhydeddus. [1]

Credir mai Stryt y Brenin oedd y stryd breswyl gyntaf gafodd ei gynllunio yn ffurfiol yn y dref. Sefydlwyd y stryd erbyn 1828, ac yn ôl pob sôn cafodd ei enwi ar ôl Brenin Siôr IV (y Tywysog Rhaglaw tan 1820). Mae llawer o'r adeiladau hanesyddol sy'n dal i sefyll ar y stryd yn dyddio o'r cyfnod Sioraidd. [1]

Gyda Stryt yr Hôb a Stryt y Syfwr, mae Stryt y Rhaglaw yn barhad o’r patrwm strydoedd canoloesol yn ymledu o’r ardal wreiddiol o amgylch Eglwys Blwyf San Silyn.

Dynodwyd Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor yn gyntaf ar 26 Medi 1990 a'i diwygio ar 6 Gorffennaf 2007. [1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Fel cyferbyniad i gymeriad trefol canol y ddinas, mae gan Ffordd Grosvenor gymeriad maestrefol deiliog. Mae nifer o adeiladau yn sefyll yn ôl o'r ffordd o fewn eu tiroedd eithaf sylweddol.

Mae amrywiaeth mawr o gynlluniau ac addurnau yn yr ardal gadwraeth, gyda deunyddiau fel gwaith cerrig nadd a therracotta - a rheilins o haearn addurnol. Mae muriau a chilbyst brics coch a thywodfaen yn nodweddion arwyddocaol Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni.

Mae rhan o'r Ffordd Rhosddu, ar bwys campws Coleg Cambria, o fewn yr ardal gadwraeth. Y prif adeilad hanesyddol ar gampws Coleg Cambria yw hen Ysbyty Coffa Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych.

O gwmpas y gyffordd rhwng Ffordd Grosvenor a Stryt y Rhaglaw, mae grwp o adeiladau o bwysigrwydd arbennig i gymeriad pensaernïol y ddinas:

  • yr hen Wrexham Infirmary – adeiladwyd yn 1838 ar ôl cynllun gan Edward Welch, pensaer o Lerpwl – nawr Ysgol y Celfyddydau Creadigol Brifysgol Glyndŵr Wrecsam);
  • Cadeirlan Gatholig Rufeinig y Santes Fair (adeiladwyd yn 1857 ar ôl cynllun gan Edward Pugin)
  • Amgueddfa Wrecsam (yr hen orsaf heddlu – adeiladwyd hefyd yn 1857, ar ôl cynllun Thomas Penson, fel barics ar gyfer Milisia Sir Ddynbych).
  • Rhif 1, Ffordd Grosvenor, sy'n dwyn yr enw Grosvenor Lodge, gafodd ei adeiladu yn 1869 gan James Reynolds Gummow, pensaer lleol oedd yn gyfrifol am lawer o ddatblygiad maestrefol Wrecsam yn rhan olaf y 19eg ganrif.
  • Rhif 2 Ffordd Grosvenor, gafodd ei adeiladu tua 1870, efallai ar ôl gynlluniau JR Gummow. [1]

Mae adeiladau rhestredig eraill yn yr ardal gadwraeth yn cynnwys y canlynol:

  • Eglwys y Drindod, Ffordd Rhosddu,sy'n sefyll ar y gyffordd rhwng Ffordd Rhosddu a Stryt y Brenin, yn ffurfio canolbwynt pwysig i olygfeydd ar hyd y ddwy stryd. Codwyd yr eglwys a'i chlochdwr ar wahân gan ddefnyddio brics coch lleol Rhiwabon.
  • Hen Ysbyty Coffa Wrecsam a Dwyrain Sir Ddinbych, Ffordd Rhosddu, adeilad trawiadol o fricsen gydag addurnau carreg. Agorwyd yr ysbyty yn 1926.
  • Abbotsfield, Ffordd Rhosddu, adeilad Neo-gothig rhestredig Gradd II, sy'n sefyll ar y gyffordd rhwng Ffordd Rhosddu a Ffordd Grosvenor, yn yr ardal gadwraeth. Adeiladwyd y tŷ yn 1863, yn seiliedig ar gynllun gan JR Gummow.
  • Plas Gwilym, Ffordd y Llwyni. Adeiladwyd y tŷ rhwng 1861 ac 1866 ar gyfer S.T Baugh, yn ôl pob tebyg ar ôl cynllun gan JR Gummow. Enw gwreiddiol y tŷ oedd Leeswood House, ond erbyn 1910 roedd ei enw wedi newid i “Plas Gwilym”.
  • Rhif 9, Ffordd y Llwyni, tŷ preifat gafodd ei adeiladu yn 1881, yn sefyll yn ôl o'r ffordd mewn gardd gaeedig. [1]

Mae ailddatblygiadau o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif ar Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni wedi tarfu'n ddifrifol ar rythm pensaernïol a chydlyniad yr ardal. [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 25 Ebrill 2023.