Ffordd Grosvenor, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Ffordd Grosvenor
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.049138°N 2.996775°W Edit this on Wikidata
Map

Stryd hanesyddol a chanol ardal gadwraeth yn nghalon dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Ffordd Grosvenor (Saesneg: Grosvenor Road).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Ffordd Grosvenor yn rhedeg o'r gogledd i'r dwyrain o Stryt y Rhaglaw, gyferbyn ag Eglwys Gadeiriol Santes Fair, at Ffordd Rhosddu wrth y gylchfan i'r gogledd o ganol y ddinas.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynlluniwyd Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni rhwng 1861 a 1881 fel ardaloedd preswyl llewyrchus ar gyfer dosbarth canol newydd Wrecsam. Mae pob un adeilad yn unigriyw yn bensaernïol.[1]

Cafodd y stryd ei henwi ar ôl y teulu Grosvenor Plas Eaton, Caer, a ddaeth yn fwy adnabyddus fel Dugiaid Westminster yn ddiweddarach.[1]

Erbyn 1951 roedd y rhan fwyaf o'r teuluoedd wedi symud allan o Ffordd Grosvenor a throwyd adeiladau'r stryd yn swyddfeydd mawr ysblennydd.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae ardal gadwriaeth Ffordd Grosvenor yn gorwedd i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas.

Mae hi'n cynnwys Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni, a rhannau o Stryt y Rhaglaw, Stryt Gerallt, Ffordd Bradle, Maes Caxton, Stryt y Brenin, Ffordd Rhosddu, Ffordd Parc y Llwyni a rhan o gampws Coleg Cambria.[1]

Fel cyferbyniad i gymeriad trefol canol y ddinas, mae gan Ffordd Grosvenor gymeriad maestrefol deiliog. Mae nifer o adeiladau yn sefyll yn ôl o'r ffordd o fewn eu tiroedd go sylweddol.[1]

Mae amrywiaeth mawr o gynlluniau ac addurnau yn yr ardal gadwraeth, gyda deunyddiau fel gwaith cerrig nadd a therracotta, a rheilins o haearn addurnol. Mae muriau a chilbyst brics coch a thywodfaen yn nodweddion arwyddocaol yn Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni.[1]

Adeiladwyd rhif 1, sy'n dwyn yr enw Grosvenor Lodge, yn 1869 gan James Reynolds Gummow, pensaer lleol oedd yn gyfrifol am lawer o ddatblygiad maestrefol Wrecsam yn rhan olaf y 19eg ganrif. Codwyd rhif 2 Ffordd Grosvenor tua 1870, efallai ar ôl cynlluniau Gummow.[1]

Mae ailddatblygiadau o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif ar Ffordd Grosvenor a Ffordd y Llwyni wedi tarfu'n ddifrifol ar rythm pensaernïol a chydlyniad yr ardal.[1]

Lluniau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.