Osama bin Laden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: br:Ousama ben Laden
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: so:Usaama bin Laadin
Llinell 84: Llinell 84:
[[sk:Usáma bin Ládin]]
[[sk:Usáma bin Ládin]]
[[sl:Osama bin Laden]]
[[sl:Osama bin Laden]]
[[so:Osama bin Laden أسامة بن لادن]]
[[so:Usaama bin Laadin]]
[[sq:Bin Laden]]
[[sq:Bin Laden]]
[[sr:Осама бин Ладен]]
[[sr:Осама бин Ладен]]

Fersiwn yn ôl 00:39, 15 Gorffennaf 2010

Terfysgwr Islamaidd a ystyrir fel sylfaenwr Al-Qaeda yw Osama bin Muhammad bin 'Awad bin Laden, weithiau Usama bin Laden Arabeg: أسامة بن محمد بن عوض بن لادن (ganed 10 Mawrth 1957).

Ganed ef yn Riyadh, Saudi Arabia, yn aelod o deulu cyfoethog a dylanwadol bin Laden. Yn 1996 ac eto yn 1999 cyhoeddodd ef a nifer eraill ddwy fatwa, yn dweud y gellid lladd aelodau o luoedd arfog neu ddinasyddion yr Unol Daleithiau hyd nes iddynt dynnu eu lluoedd arfog o'r gwledydd Islamaidd a rhoi'r gorau i gefnogi Israel. Cred yr Unol Daleithiau iddo fod a rhan yn yr ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Dar es Salaam Tanzania a Nairobi, Kenya.

Credir yn gyffredionol mai Osama bin Laden ac Al-Qaeda fu'n gyfrifol am drefnu Ymosodiadau 11 Medi 2001 ar yr Unol Daleithiau, pan gipiwyd awyrennau a'u hedfan i mewn i Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a'r Pentagon yn Arlington, Virginia.

Er i luoedd yr Unol Daleithiau wneud ymdrech fawr i chwilio amdano, ni lwyddwyd i'w ddal ac nid oes gwybodaeth sicr ymhle y mae, er bod rhai yn amau ei fod yn llochesu yn yr ardaloedd llwythol ym Mhacistan, ar y ffin ag Affganistan.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol