Egni hydro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
parhau
B wedi symud Ynni hydro i Egni hydro
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:30, 10 Gorffennaf 2010

Gwaith hydroelectrig Llyn Stwlan, ger Ffestiniog, Gwynedd lle cynhyrchir 360 MW o drydan o fewn eiliadau o wasgu botwm

Ynni (ar furf trydan) wedi'i gynhyrchu o ddŵr ydy ynni hydro neu ynni dŵr neu hydroelectrig ac mae sawl math ar gael heddiw. Daw o ganlyniad i ddŵr yn symud mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, dŵr yn troi olwyn y felin. Ymhlith y dulliau mwyaf poblogaidd o greu trydan, y mae hydroelectrig megis 'mynydd electrig', Llanberis lle mae dŵr y llyn yn llifo i lawr pibellau drwy rym disgyrchiant ac yn troi tyrbeinau. Cynhyrchir 1728 MegaWatt (MW) o drydan yma drwy droi chwe generadur anferthol.

Ceir dulliau eraill o symud egni o un lle i'r llall drwy egni hydro ee

  • tyrbeini mewn afonydd
  • ynni o'r llanw
  • ynni allan o donnau'r môr
  • ynni allan o fortecs

Ceir hefyd ffermydd gwynt yn y môr, ffermydd megis fferm wynt North Hoyle gerllaw Prestatyn, ond nid oes a wnelo'r rhain ddim oll ag ynni hydro. Ynni gwynt a gynhyrchir o felinau gwynt ar y môr yw'r rhain.

Ynni hydro cyntaf gwledydd Prydain

Yr ynni hydro cyntaf i'w gael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain oedd yng Nghwm Dyli ger Beddgelert, ar 13 Awst, 1906 gyda'r dŵr yn llifo i lawr y mynydd o Lyn Llydaw.[1]

Morglawdd afon Hafren

Bu cryn sôn ar ddechrau 2008 am osod argae neu forglawdd ar draws Afon Hafren gyda sawl tyrbein yn cynhyrchu cymaint o egni â dau gorsaf niwclear. Amrediad llanw aber yr Afon Hafren yw'r ail fwyaf yn y byd ac mae'n gallu esgyn mor uchel ag 14 metr. Ar hyn o bryd mae'r safleoedd canlynol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer crynhoi pwer o lif dŵr: Penfro, Afon Hafren (8640 MW), Conwy (33MW) a Merswy (700 MW).

Cheina

Saif Argae'r Tri Cheunant (sy'n creu 22,500 MW o drydan) yn Tsieina yn 1994.

Cyfeiriadau

  1. Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd, cyhoeddwyd gan wasg Carreg Galch, Medi 2008, tudalen 108.