Emyr Humphreys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
quickly adding reference. still needs formatting properly |
||
Llinell 37: | Llinell 37: | ||
=== Gyrfa broffesiynol === |
=== Gyrfa broffesiynol === |
||
Aeth ymlaen i astudio hanes ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]].<ref name="HallOfFame" /> Cofrestrodd fel [[gwrthwynebwr cydwybodol]] pan ddechreuodd yr [[Ail Ryfel Byd]] ym [[1939]].<ref>{{dyf gwe| url=http://www.walesonline.co.uk/showbiz-and-lifestyle/books-in-wales/2009/04/18/emyr-humphreys-final-book-the-woman-at-the-window-91466-23402392/| cyhoeddwr=Wales Online| dyddiad=18 Ebrill 2009| awdur=Steve Dube| teitl=Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window| dyddiadcyrchiad=1 Chwefror 2010}}</ref> Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r [[BBC]] ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]].<ref name="BritishCouncil">{{dyf gwe| url=http://www.contemporarywriters.com/authors/?p=auth5689470C1906a1640DUyJ4055700| cyhoeddwr=[[British Council]]| dyddiadcyrchiad=4 Chwefror 2010| teitl=Emyr Humphreys - Biography}}</ref> Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod yr 1970au.<ref name="Indy" /> |
Aeth ymlaen i astudio hanes ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth]].<ref name="HallOfFame" /> Cofrestrodd fel [[gwrthwynebwr cydwybodol]] pan ddechreuodd yr [[Ail Ryfel Byd]] ym [[1939]].<ref>{{dyf gwe| url=http://www.walesonline.co.uk/showbiz-and-lifestyle/books-in-wales/2009/04/18/emyr-humphreys-final-book-the-woman-at-the-window-91466-23402392/| cyhoeddwr=Wales Online| dyddiad=18 Ebrill 2009| awdur=Steve Dube| teitl=Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window| dyddiadcyrchiad=1 Chwefror 2010}}</ref> Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r [[BBC]] ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]].<ref name="BritishCouncil">{{dyf gwe| url=http://www.contemporarywriters.com/authors/?p=auth5689470C1906a1640DUyJ4055700| cyhoeddwr=[[British Council]]| dyddiadcyrchiad=4 Chwefror 2010| teitl=Emyr Humphreys - Biography}}</ref> Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod yr 1970au.<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/enwogion/llen/pages/emyrhumphreys.shtml]</ref><ref name="Indy" /> |
||
=== Gyrfa lenyddol === |
=== Gyrfa lenyddol === |
Fersiwn yn ôl 11:45, 15 Chwefror 2010
Emyr Humphreys | |
---|---|
Delwedd:Emyr Humphreys.jpg | |
Geni | Emyr Humphreys 15 Ebrill 1919 Trelawnyd, Sir y Fflint |
Cenedligrwydd | Cymreig |
Addysg | Ysgol Uwchradd y Rhyl Prifysgol Cymru, Aberystwyth |
Math o lên | Ffuglen, llenyddiaeth, barddoniaeth |
Pynciau | Cymru |
Gwobrau nodedig | Gwobr Somerset Maugham Gwobr Hawthornden Llyfr y Flwyddyn (x2) Gwobr Siân Phillips |
Llenor, bardd a nofelydd Cymreig yw Emyr Humphreys (ganwyd 15 Ebrill 1919), mae'n un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.[1]
Bywgraffiad
Bywyd cynnar
Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd[2] ger Prestatyn, Sir y Fflint, a mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio ym Mhen Llyn gael ei losgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.[3][4]
Gyrfa broffesiynol
Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[3] Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.[5] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddrach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[6] Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod yr 1970au.[7][4]
Gyrfa lenyddol
Daeth yn lenor llawn amser ym 1972. Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a cyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.[6]
Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[3] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[8][6] Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng nghymru. Mae Humphreys yn Gymrawd o'r Gymdeithas Brenhinol Llenyddiaeth[6] ac yn un o noddwyr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.[9]
Disgrifwyd ef gan R.S. Thomas fel the supreme interpreter of Welsh life.[6]
Mae eisioes yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Emyr Humphreys. Wales Arts International. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ A Man's Estate by Emyr Humphreys. Library of Wales. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 4.0 4.1 Old People are a Problem By Emyr Humphreys. The Independent (22 Mehefin 2003). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ Steve Dube (18 Ebrill 2009). Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window. Wales Online. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 Emyr Humphreys - Biography. British Council. Adalwyd ar 4 Chwefror 2010.
- ↑ [1]
- ↑ Past Winners and Judges. Academi. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ Writing Wales in English. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.