Dadansoddiad mathemategol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
diweddaru; manion
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Dadansoddi mathemategol i Dadansoddiad mathemategol: gwell cyfieithiad?
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:43, 20 Rhagfyr 2018

Yr atynnydd, yn codi o hafaliad differol. Mae'r hafaliad differol yn faes bwysig o fewn dadansoddi mathemategol, gyda llawer iawn o gymhwysiadau o fewn gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dadansoddi mathemategol yw'r gangen o fathemateg sy'n dibynnu ar y cysyniadau o derfannau a damcaniaethau perthnasol, megis deilliant, yr integru, differu, mesur, y gyfres anfeidraidd, a ffwythiannau dadansoddol.

Yn aml, fe astudir y pynciau hyn yng nghyd-destyn rhifau real, rhifau cymhlyg, a'u ffwythiannau. Fodd bynnag, gellir hefyd eu diffinio yng nghyd-destyn unrhyw set o wrthrychau mathemategol sydd â diffiniad o agosatrwydd (gofod topologaidd) neu o bellter (gofod metrig). Man cychwyn yr astudiaeth o ddadansoddi yw datblygiad trwyadl o galcwlws.

Isbynciau

Fe rennir dadansoddi erbyn hyn i'r isbynciau canlynol:

Fel arfer ystyrir Dadansoddi clasurol yn unrhyw waith nad yw'n defnyddio dulliau dadansoddi ffwythiannol, ac fe'i gelwir weithiau yn ddadansoddi caled; mae'n cyfeirio hefyd, nid yn annisgwyl, o'r pynciau mwy traddodiadol. Fe rhannir astudiaeth hafaliadau differol â meusydd eraill megis systemau dynamig, ond mae'r gogyffwrdd â dadansoddi 'unionsyth' yn un fawr.