Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
[[Categori:Plwyfi Cymru]] |
[[Categori:Plwyfi Cymru]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Daearyddiaeth Sir Ddinbych]] |
||
[[en:Llangar]] |
[[en:Llangar]] |
Fersiwn yn ôl 23:12, 5 Mawrth 2009
Plwyf yn ardal hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw Llangar. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd.
Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o Feirionnydd a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng nghwmwd Edeirnion.
Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi Llandrillo a Chorwen, gan godi i lethrau'r Berwyn i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o Bowys.
Canolfan y plwyf oedd y llan lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen yn Nyffryn Edeirnion, ar lan Afon Dyfrdwy. Bu'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Eifionydd yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten James Cook yn 1776-78.