Rhazes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfeiriadau: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|fa}} using AWB
B →‎Cyfeiriadau: clean up
Llinell 12: Llinell 12:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}




{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}

Fersiwn yn ôl 04:45, 13 Mawrth 2017

Delwedd:Colophon-Razi's Book of medicine for Mansur.jpg
Llyfr gan al-Razi

Ysgolhaig a gwyddonydd amryddawn oedd Abū Bakr Muhammad ibn Zakarīya al-Rāzi (Persieg: زكريای رازی Zakaria ye Razi; Arabeg: ابو بکر محمد بن زكريا الرازی; Lladin: Rhazes neu Rasis). Yn ôl y croniclydd al-Biruni cafodd ei eni yn Rayy, Iran yn y flwyddyn 865 (251 AH), a bu farw yno yn 925 (313 AH) (neu 930 yn ôl rhai ffynonellau).

Bywyd a gwaith

Roedd Razi yn ysgolhaig, ffisegydd ac athronydd amlochrog ac amryddawn a wnaeth gyfraniadau pwysig a phellgyrhaeddol ym meysydd meddygaeth, alcemi, ac athroniaeth. Cyhoeddodd dros 184 o lyfrau ac erthyglau. Un o'i ddarganfyddiadau pwysicaf oedd alcohol. Roedd o gefndir diwylliedig iawn ac yn gyfarwydd â meddygaeth Roeg. Credir iddo ddarganfod asid swlffwrig ac ethanol hefyd. Roedd Razi yn un o feddylwyr mwyaf y byd Islamaidd. Cafodd ddylanwad aruthrol ar ei gyfoeswyr a'i olynwyr yn ogystal ac ar wyddoniaeth a meddygaeth Ewrop trwy'r cyfieithiadau Lladin o'i waith.

Rhesymegydd rhyddfrydol oedd Razi. Fe'i ystyrid gan ei gyfoeswyr a'i bywgraffyddwyr yn ddyn rhydd o bob rhagfarn, chwim a threiddgar ei feddwl a di-flewyn ar dafod. Fel nifer o Ewropeiaid yn ystod y Dadeni Dysg credai yn y ddynoliaeth, cynydd a "Duw Doeth". Teithiodd yn eang a gwasanaethai sawl tywysog a llywodraethwr yn y byd Islamaidd. Fe'i cysylltir yn arbennig â Baghdad lle sefydlodd ei labordy. Deuai nifer o ddisgyblion ato i gael ei gyngor a rhannu o'i wybodaeth a roddai i bawb yn ddiwahân, tlawd a chyfoethog fel ei gilydd.

Cof

Enwir Sefydliad Razi yn Tehran, a Phrifysgol Razi yn Kermanshah ar ei ôl, a dethlir 'Gŵyl Razi' ('Diwrnod Fferylliaeth') yn Iran ar 27 Awst.

Cyfeiriadau