Ethanol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ethanol-2D-flat.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcyfansoddyn cemegol, hylif fflamadwy Math IB, meddyginiaeth Edit this on Wikidata
Màs46.042 Uned dalton edit this on wikidata
Fformiwla gemegolC₂h₆o edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorsaf tanwydd Ethanol yn Sao Paulo

Cyfansoddyn cemegol organig yw ethanol a elwir hefyd yn alcohol ethyl ac yn alcohol grawn, neu'n syml alcohol. Mae'n alcohol syml gyda'r fformiwla gemegol C2H6O. Gellir ysgrifennu ei fformiwla hefyd fel CH3CH2OH neu fel C2H5OH (mae'n aelod o'r grŵp ethyl sy'n gysylltiedig â'r grŵp hydrocsyl), ac yn aml yn cael ei dalfyrru fel EtOH. Mae ethanol yn hylif anweddol, fflamadwy, di-liw gydag arogl nodweddiadol tebyg i win a blas cas.[1][2] Mae'n gyffur seicoweithredol, yn gyffur adloniadol, ac yn gynhwysyn gweithredol mewn diodydd alcoholig.

Mae ethanol yn cael ei gynhyrchu'n naturiol trwy eplesu siwgwr gyda burum neu trwy broses petrocemegol fel hydradiad ethen (ethylene). Mae ganddo gymwysiadau meddygol fel antiseptig ac fel diheintydd. Fe'i defnyddir fel toddydd cemegol ac mewn synthesis cyfansoddion organig. Mae ethanol hefyd yn ffynhonnell tanwydd.

Etymology[golygu | golygu cod y dudalen]

Ethanol yw'r enw systematig a ddiffinnir gan yr Undeb Rhyngwladol Cemeg Bur a Chymhwysol (IUPAC) ar gyfer cyfansoddyn sy'n cynnwys grŵp alcyl â dau atom carbon (rhagddodiad "eth-"), sydd ag un bond rhyngddynt (mewnddodiad "-an-") a grŵp swyddogaethol atodedig sef −OH grŵp (ôl-ddodiad "-ol").[3]

Daw'r rhagddodiad "eth-" a'r rhagosodiad "ethyl" yn "alcohol ethyl" yn wreiddiol o'r enw "ethyl" a roddwyd yn 1834 i'r grŵp C2H5 − gan Justus Liebig. Bathodd y gair o'r enw Almaeneg Aether o'r cyfansoddyn C2H5−O− C2H5 (a elwir yn aml yn "ether" yn Saesneg, ac a elwir yn fwy penodol yn "Diethyl ether").[4] Yn ôl yr Oxford English Dictionary, mae Ethyl yn gyfyngiad o'r Hen Roeg αἰθήρ (aithḗr, "aer uchaf") a'r gair Groeg ὕλη (hýlē, "sylwedd").

Bathwyd yr enw ethanol o ganlyniad i benderfyniad a fabwysiadwyd yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Enwau Cemegol a gynhaliwyd yn Ebrill 1892 yn Genefa, y Swistir.[5]

Mae'r term "alcohol" bellach yn cyfeirio at ddosbarth ehangach o sylweddau cemegol, ond yn gyffredin mae ethanol yn dal i gael ei ddefnyddio. Mae'n fenthyciad canoloesol o'r Arabeg al-kuḥl, mwyn powdr o antimoni a ddefnyddiwyd fel cosmetig, ac a gadwodd yr ystyr hwnnw mewn Lladin Canol.[6] Ceir sawl al (y neu yr yn Gymraeg) mewn geiriau sydd a'u gwreiddiau yn yr Arabeg, gan gynnwys alcemi ac algebra, algorithm ac alcali. Mae'r defnydd o "alcohol" ar gyfer ethanol yn fodern ac fe'i cofnodwyd gyntaf yn 1753.[7]

Defnyddiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Meddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Antiseptig[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir ethanol mewn cadachau meddygol ac yn fwyaf cyffredin mewn jeliau glanhau dwylo, gwrthfacterol fel antiseptig ar gyfer ei effeithiau gwrthfacteria a gwrth-ffwngaidd.[8] Mae ethanol yn lladd micro-organebau trwy hydoddi eu lipid eu pilen a dadnatureiddio'u proteinau, ac mae'n effeithiol yn erbyn y rhan fwyaf o facteria, ffyngau a firysau. Fodd bynnag, mae'n aneffeithiol yn erbyn sborau bacteriol, ond gellir dod dros y broblem honno trwy ddefnyddio hydrogen perocsid, mewn rhai achosion.[9] Yn eironig, mae hydoddiant o 70% ethanol yn fwy effeithiol nag ethanol pur oherwydd bod ethanol yn dibynnu ar foleciwlau dŵr ar gyfer y gweithgaredd gwrthficrobaidd gorau posibl. Gall ethanol absoliwt anactifadu microbau heb eu dinistrio oherwydd nad yw'r alcohol yn gallu treiddio'n llawn drwy bilen y microb.[10][11] Gellir defnyddio ethanol hefyd fel diheintydd ac antiseptig oherwydd ei fod yn achosi dadhydradu celloedd trwy amharu ar y cydbwysedd ar draws y gellbilen, felly mae dŵr yn gadael y gell gan arwain at ei farwolaeth.[12]

Gwrthwenwyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir rhoi ethanol fel gwrthwenwyn i wenwyn ethylene glycol[13] a gwenwyn methanol.[14]

Adloniadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall ethanol achosi iselder ysbryd, oherwydd ei effaith ar y system nerfol canolog ac mae'n un o'r cyffuriau seicoweithredol a ddefnyddir amlaf.[15]

Er gwaethaf priodweddau seicoweithredol a charsinogenig alcohol, mae ar gael yn rhwydd ac yn gyfreithlon i'w werthu yn y rhan fwyaf o wledydd. Fodd bynnag, mae yna gyfreithiau sy'n rheoleiddio gwerthu, allforio / mewnforio, trethu, gweithgynhyrchu, yfed a meddu ar ddiodydd alcoholig. Er enghraifft, yng Nghymru, mae'n rhaid bod yn 18 oed cyn y gellir ei brynnu mewn siop neu dafarn: dyma'r rheoliad mwyaf cyffredin yn fydeang.

Tanwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Tanwydd mewn peiriant[golygu | golygu cod y dudalen]

Y defnydd unigol mwyaf o ethanol yw tanwydd injan (peiriant) ac ychwanegyn at danwydd. Mae Brasil yn arbennig yn dibynnu'n fawr ar y defnydd o ethanol fel tanwydd injan, yn rhannol oherwydd ei rôl fel un o gynhyrchwyr ethanol mwyaf blaenllaw'r byd.[16][17] Mae'r betrol a werthir ym Mrasil yn cynnwys o leiaf 25% ethanol anhydrus. Gellir defnyddio ethanol hydrus (tua 95% ethanol a 5% o ddŵr) fel tanwydd mewn mwy na 90% o geir tanwydd petrol newydd a werthir yn y wlad. Cynhyrchir ethanol Brasil o gansen siwgr, sydd â chynnyrch cymharol uchel (830% yn fwy na'r tanwyddau ffosil a ddefnyddiwyd i'w gynhyrchu) o gymharu â rhai cnydau ynni eraill.[18] Mae'r Unol Daleithiau a llawer o wledydd eraill yn defnyddio cymysgeddau ethanol/petrol E10 (10% ethanol, a elwir weithiau'n gasohol) ac E85 (85% ethanol) yn bennaf.

Ethanol gradd USP ar gyfer defnydd labordy.

Mae cyfraith Awstralia yn cyfyngu'r defnydd o ethanol pur o wastraff cansen siwgr i 10% mewn cerbydau. Dylid uwchraddio neu newid falfiau ceir hŷn (a cheir hen geir sydd wedi'u dylunio i ddefnyddio tanwydd sy'n llosgi'n arafach).[19]

Mae ethanol fel tanwydd yn lleihau allyriadau niweidiol (garbon monocsid, ocsidau nitrogen ayb) o beipen fwg y cerbyd, ac sy'n difa'r haen oson.[20] Dadansoddodd Labordy Cenedlaethol Argonne allyriadau nwyon tŷ gwydr o lawer o gerbydau gyda gwahanol danwydd, a chanfuwyd bod cyfuniad biodiesel / petrodiesel (B20) yn dangos gostyngiad o 8%, cyfuniad confensiynol E85 ethanol gostyngiad o 17% ac ethanol seliwlosaidd sy'n 64%, o'i gymharu â phetrol pur.[21][22]

Tanwydd roced[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddiwyd ethanol yn gyffredin fel tanwydd mewn cerbydau roced tanwydd-deuol cynnar (hylif), ar y cyd ag ocsidydd fel ocsigen hylifol. Defnyddiodd roced balistig yr Almaen A-4 o'r Ail Ryfel Byd, sy'n fwy adnabyddus wrth ei henw V-2,[23] ethanol fel prif gyfansoddyn y tanwydd B-Stoff. Cymysgwyd ethanol â 25% o ddŵr i leihau tymheredd y siambr hylosgi.[24][25] Helpodd yr un tîm Almaenig i ddatblygu'r V-2 ar gyfer yr UDA yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys y roced Redstone â thanwydd ethanol a lansiodd lloeren gyntaf yr UD.[26] Daeth alcohol i ben yn gyffredinol wrth i danwydd gyda mwy o egni gael ei ddatblygu,[25] er bod ethanol yn dal i gael ei ddefnyddio mewn awyrennau rasio ysgafn a bwerir gan danwydd-roced.[27]

Celloedd tanwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae celloedd tanwydd masnachol yn gweithio gyda nwy naturiol wedi'i ei ailwampio, hydrogen neu fethanol. Gall ethanol fod yn ddewis arall deniadol oherwydd ei argaeledd, cost isel, purdeb uchel a gwenwyndra isel. Mae yna ystod eang o gysyniadau newydd sy'n ymwneud a chelloedd tanwydd gan gynnwys celloedd tanwydd ethanol uniongyrchol, systemau diwygio auto-thermol a systemau thermol integredig. Mae mwyafrif y gwaith yn cael ei wneud ar lefel ymchwil er bod nifer o sefydliadau yn dechrau gwerthu celloedd tanwydd ethanol.[28]

Gwresogi'r cartref a choginio[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir defnyddio lleoedd tân ethanol ar gyfer gwresogi cartref neu ar gyfer addurno. Gellir defnyddio ethanol hefyd fel tanwydd stôf ar gyfer coginio.[29][30]

Porthiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ethanol yn gynhwysyn diwydiannol pwysig. Mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth fel rhagflaenydd ar gyfer cyfansoddion organig eraill fel halidau ethyl, esterau ethyl, ether diethyl, asid asetig, ac aminau ethyl.

Hylif tymheredd isel[golygu | golygu cod y dudalen]

Oherwydd ei bwynt rhewi isel -173.20 °F (−114.14 °C) a gwenwyndra isel, weithiau defnyddir ethanol mewn labordai (gyda rhew sych neu oeryddion eraill) fel baddon oeri i gadw llestri ar dymheredd islaw'r pwynt rhewi dŵr. Am yr un rheswm, fe'i defnyddir hefyd fel yr hylif gweithredol mewn thermomedrau alcohol.

Cemeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ethanol yn alcohol 2-garbon. Ei fformiwla foleciwlaidd yw CH3CH2OH. Nodiant amgen yw CH3−CH2−OH, sy'n dangos bod carbon grŵp methyl (CH3−) yn sownd wrth garbon grŵp methylen (−CH2-), sy'n sownd wrth ocsigen a grŵp hydrocsyl (−OH). Mae'n isomer cyfansoddiadol o ether dimethyl. Caiff ei dalfyrru weithiau fel EtOH, gan ddefnyddio'r nodiant cemeg organig cyffredin o gynrychioli'r grŵp ethyl (C2H5−) ag Et.

Priodweddau ffisegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Llosgi ethanol gyda'i sbectrwm wedi'i nodi

Mae ethanol yn hylif anweddol, di-liw sydd ag ychydig o arogl, ond ddim llawer. Mae'n llosgi gyda fflam las ddi-fwg nad yw bob amser yn weladwy mewn golau arferol. Mae priodweddau ffisegol ethanol yn deillio'n bennaf o bresenoldeb ei grŵp hydrocsyl a phrinder ei gadwyn garbon. Mae'r grŵp hydrocsyl ethanol yn gallu cymryd rhan mewn bondio hydrogen, gan ei wneud yn fwy gludiog ac yn llai cyfnewidiol na chyfansoddion organig.

Mae ethanol ychydig yn fwy plygiannol (efractivee) a dŵr, gyda mynegrif plygiant o 1.36242 ar λ=589.3 nm a 18.35 °C (65.03 °F). [31] Y pwynt triphlyg ar gyfer ethanol yw 150 K ar wasgedd o 4.3 × 10−4 Pa . [32]

Fflamadwyedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd hydoddiant ethanol-dŵr yn cynnau os caiff ei gynhesu uwchlaw ei fflachbwynt a phan rhoddir ffynhonnell danio iddo ee flam noeth.[33] Ar gyfer 20% o alcohol fesul màs (tua 25% yn ôl cyfaint), bydd hyn yn digwydd ar tua 25 °C (77 °F). Fflachbwynt ethanol pur yw 13 °C (55 °F),[34] ond gall gael ei ddylanwadu ychydig iawn gan gyfansoddiad atmosfferig fel gwasgedd-aer a lleithder. Gall cymysgeddau ethanol danio islaw tymheredd cyfartalog ystafell. Mae ethanol yn cael ei ystyried yn hylif fflamadwy (Deunydd Peryglus Dosbarth 3) mewn crynodiadau uwch na 2.35% yn ôl màs (3.0% yn ôl cyfaint; 6 prawf.[35][36][37]

Gelwir prydau bwyd sy'n llosgi alcohol ar gyfer effeithiau gweledol mewn coginio yn flambé ee arllwysir ethanol (ar ffurf Brandi) dros bwdin Nadolig, a'i gynnau gyda matsien.

Cynhyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwerthir 94% o ethanol mewn potel i'w ddefnyddio yn y cartref

Cynhyrchir ethanol fel petrocemegyn, trwy hydradu ethylen a, thrwy brosesau biolegol, a hynny drwy eplesu siwgrau â burum.[38] Mae'r cwestiwn, pa broses sy'n fwy darbodus, yn dibynnu ar brisiau'r stociau porthiant a'r marchnadoedd petrolewm a grawn. Yn y 1970au gwnaed y rhan fwyaf o ethanol diwydiannol yn yr Unol Daleithiau fel petrocemegyn, ond yn yr 1980au cyflwynodd yr Unol Daleithiau gymorthdaliadau ar gyfer ethanol sy'n seiliedig ar ŷd a heddiw mae bron y cyfan wedi'i wneud o'r ffynhonnell honno.[39] Yn India mae ethanol yn cael ei wneud o gansen siwgr.[40]

Hydradiad ethylen[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwneir ethanol i'w ddefnyddio fel porthiant diwydiannol neu doddydd (y cyfeirir ato weithiau fel ethanol synthetig) o stoc porthiant petrocemegol (petrochemical feed stocks) yn bennaf gan hydradiad ethylen wedi'i gataleiddio ag asid:

C2H4 + H2OCH3CH2OH


Fel arfer, asid ffosfforig yw'r catalydd,[41] wedi'i arsugno ar gynhalydd mandyllog fel gel silica. Defnyddiwyd y catalydd hwn gyntaf i gynhyrchu ethanol ar raddfa fawr gan y Gwmni Olew Shell ym 1947. Mae'r adwaith yn cael ei wneud ym mhresenoldeb stêm pwysedd uchel ar 300 °C (572 °F) lle cedwir cymhareb ethylen i stêm 5:3.[42][43] Defnyddiwyd y broses hon ar raddfa ddiwydiannol gan yr Union Carbide Corporation ac eraill yn yr Unol Daleithiau, ond erbyn hyn dim ond LyondellBasell sy'n ei defnyddio'n fasnachol.

O CO 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir cynhyrchu ethanol yn y labordy trwy drawsnewid carbon deuocsid trwy adweithiau biolegol ac electrocemegol.[44][45]

CO 2 + H2OCH3CH2O + is-gynhyrchion

Eplesu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ethanol mewn diodydd alcoholig a thanwydd yn cael ei gynhyrchu trwy eplesu. Gall rhai rhywogaethau o furum (ee Saccharomyces cerevisiae ) fetaboleiddio siwgr, gan gynhyrchu ethanol a charbon deuocsid. Mae'r hafaliadau cemegol isod yn crynhoi'r trawsnewidiad:

C12H22O11 + H2O → 4 CH3CH2O + 4 CO2

Eplesu yw'r broses o feithrin burum o dan amodau thermol ffafriol i gynhyrchu alcohol. Cynhelir y broses hon tua 35–40 °C (95–104 °F) . Mae gwenwyndra ethanol i furum yn cyfyngu ar y crynodiad ethanol y gellir ei gael trwy fragu; ceir crynodiadau uwch, felly, trwy atgyfnerthu neu ddistyllu. Gall y straeniau burum sy'n gallu goddef ethanol fwyaf oroesi hyd at tua 18% ethanol yn ôl cyfaint.

Er mwyn cynhyrchu ethanol o ddeunyddiau â starts fel grawnfwydydd, (ee poitín Gwyddelig) rhaid i'r starts gael ei drawsnewid yn siwgr yn gyntaf. Mewn bragu cwrw, mae hyn wedi'i gyflawni'n draddodiadol trwy ganiatáu i'r grawn egino, neu frag, sy'n cynhyrchu'r ensym amylas. Pan fydd y grawn brag yn cael ei stwnsio, mae'r amylas yn troi gweddill y starts yn siwgrau.

Puro[golygu | golygu cod y dudalen]

Distyllu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hydradu neu fragu ethylene yn cynhyrchu cymysgedd o ethanol-ddŵr. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau diwydiannol a thanwydd, rhaid puro'r ethanol. Gall distyllu ffracsiynol ar wasgedd atmosfferig grynhoi ethanol i 95.6% yn ôl pwysau (89.5 môl%). Mae'r cymysgedd hwn yn azeotrope gyda berwbwynt o 78.1 °C (172.6 °F), ac ni ellir ei buro ymhellach trwy ddistyllu. Mae ychwanegu asiant fel bensen, cyclohexane, neu heptan, yn caniatáu i aseotrop tair rhan newydd, ethanol, dŵr, a'r cyfrwng asiant, gael ei ffurfio.

Graddau ethanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Alcohol wedi'i ddadnatureiddio[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ethanol pur a diodydd alcoholaidd yn cael eu trethu'n drwm, gan lawer o lywodraethau'r byd, fel cyffuriau seicoweithredol, ond mae ethanol yn ddefnyddiol ar gyfer lawer o ddefnyddiau eraill. Er mwyn lleddfu'r baich treth ar y defnyddiau hyn, mae'r rhan fwyaf o awdurdodaethau'n hepgor y dreth pan fydd asiant-lliw wedi'i ychwanegu at yr ethanol i'w wneud yn anaddas i'w yfed. Mae'r rhain yn cynnwys ei chwerwi ee denatonium bensoad a thocsinau fel methanol, nafftha, a pyridin. Gelwir cynhyrchion o'r math hwn yn alcohol dadnatureiddiedig.[46][47]

Alcohol absoliwt[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae alcohol absoliwt neu anhydrus yn cyfeirio at ethanol sy'n cynnwys ychydig ddŵr. Mae yna raddau amrywiol gydag uchafswm y dŵr yn amrywio o 1% i ychydig rannau fesul miliwn (ppm). Os defnyddir distyllu azeotropig i gael gwared ar ddŵr, bydd yn cynnwys ychydig o'r asiant gwahanu deunydd (ee bensen).[48] Nid yw alcohol absoliwt wedi'i fwriadu i'w yfed gan bob; yn hytrach, fe'i defnyddir fel toddydd ar gyfer labordai diwydiannol, lle bydd dŵr yn adweithio â chemegau eraill, ac fel tanwydd alcohol. Mae ethanol sbectrosgopig yn ethanol absoliwt ac mae ganddo amsugnedd isel mewn golau uwchfioled a golau gweladwy.[49]

Mae ethanol pur yn cael ei ddosbarthu fel 200 prawf yn yr UD, sy'n cyfateb i brawf 175 gradd yn system y DU.[50]

Adweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ethanol yn cael ei ddosbarthu fel alcohol cynradd, sy'n golygu bod gan y carbon y mae ei grŵp hydrocsyl yn ei gysylltu o leiaf ddau atom o hydrogen ynghlwm wrtho hefyd. Mae llawer o adweithiau ethanol yn digwydd yn y grŵp hydrocsyl.

Ocsidiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir ocsideiddio ethanol i asetaldehyde a'i ocsidio ymhellach i asid asetig, yn dibynnu ar yr adweithyddion a'r amodau.[51] Nid yw'r ocsidiad hwn o unrhyw bwys yn ddiwydiannol, ond yn y corff dynol, mae'r adweithiau ocsideiddio hyn yn cael eu cataleiddio gan yr ensym dehydrogenas. Mae cynnyrch ocsideiddio ethanol, asid asetig, yn faetholyn i bobl, gan ei fod yn rhagflaenydd i asetyl CoA, lle gellir llosgi'r grŵp asetyl fel egni neu ei ddefnyddio ar gyfer biosynthesis.

Metabolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ethanol yn debyg i macrofaetholion fel proteinau, brasterau a charbohydradau gan ei fod yn darparu calorïau. Pan gaiff ei fwyta a'i fetaboli, mae'n cyfrannu 7 calori fesul gram trwy fetabolaeth ethanol.[52]

Diogelwch[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ethanol pur yn llidro'r croen a'r llygaid[53] a gall achosi chwydu a meddwdod. Gall defnydd hirdymor trwy ei yfed arwain at niwed difrifol i'r afu.[54] Uchafswm y crynodiad atmosfferig yw un o bob mil yn ôl yr Undeb Ewropeaidd.[54]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae eplesu siwgr yn ethanol yn un o'r biotechnolegau cynharaf a ddefnyddir gan bobl. Yn hanesyddol, mae ethanol wedi'i nodi'n amrywiol fel gwirod, gwin [55] ac fel aqua vitae. Mae ei effaith meddwol ar y corff yn hysbys ers Oes Adda, ac fe'i defnyddiwyd gan bobl ers cynhanes fel cynhwysyn diodydd alcoholig. Cafwyd hyd i weddillion sych ethanol ar grochenwaith 9,000 o flynyddoedd oed yn Tsieina sy'n awgrymu bod pobl Neolithig yn yfed diodydd alcoholig.[56]

Roedd natur fflamadwy allanadliadau gwin-ethanol eisoes yn hysbys i athronwyr hynafol megis Aristoteles (384–322 BCE), Theophrastus (c. 371–287 BCE), a Plinius yr Hynaf (23/24–79 CE).[57] Fodd bynnag, ni arweiniodd hyn ar unwaith at ynysu ethanol, hyd yn oed er gwaethaf datblygiad technegau distyllu mwy datblygedig yn yr Aifft Rufeinig yn yr 2g a'r 3g.[58] Yn un o'r ysgrifau a briodolir i Jābir ibn Ḥayyān (9g), datguddir y gellir gwella fflamadwyedd yr anwedd drwy ychwanegu halen i win berw.[59] Roedd hyn yn ddarganfyddiad pwysig ar y pryd.

Sonir am ddistyllu gwin mewn gweithiau Arabeg a briodolir i al-Kindī (c. 801–873) ac i al-Fārābī (c. 872–950), ac yn Kitāb al-Taṣrīf gan al-Zahrāwī (Lladin: Abulcasis, 936–1013).[60] Yn y 12g, dechreuodd ryseitiau ar gyfer cynhyrchu aqua ardens ("dŵr llosgi", hy, ethanol!) trwy ddistyllu gwin gyda halen; ymddangos y ryset mewn nifer o weithiau Lladin, ac erbyn diwedd y 13g roedd wedi lledu i lawer o wledydd, gan ddod yn hysbys i gemegwyr Gorllewin Ewrop.[61]

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Boyce, John M; Pittet, Didier (2003). "Hand Hygiene in Healthcare Settings". Atlanta, GA: Centers for Disease Control. Unknown parameter |name-list-style= ignored (help).
  • Onuki, Shinnosuke; Koziel, Jacek A.; van Leeuwen, Johannes; Jenks, William S.; Grewell, David; Cai, Lingshuang (June 2008). Ethanol production, purification, and analysis techniques: a review. 2008 ASABE Annual International Meeting. Providence, RI. Cyrchwyd 16 February 2013. Unknown parameter |name-list-style= ignored (help)
  • "Explanation of US denatured alcohol designations". Sci-toys.
  • Lange, Norbert Adolph (1967). John Aurie Dean (gol.). Lange's Handbook of Chemistry (arg. 10th). McGraw-Hill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ethanol". PubChem. National Library of Medicine. Cyrchwyd 28 September 2021.
  2. "Ethyl Alcohol" (PDF). Hazardous Substance Fact Sheet. New Jersey Department of Health. Cyrchwyd 28 September 2021.
  3. "Ethanol – Compound Summary". The PubChem Project. Bethesda, MD: National Center for Biotechnology Information.
  4. Liebig, Justus (1834). "Ueber die Constitution des Aethers und seiner Verbindungen" (yn de). Annalen der Pharmacie 9 (22): 1–39. Bibcode 1834AnP...107..337L. doi:10.1002/andp.18341072202. https://zenodo.org/record/1423568. "From page 18: "Bezeichnen wir die Kohlenwasserstoffverbindung 4C + 10H als das Radikal des Aethers mit E2 und nennen es Ethyl, ..." (Let us designate the hydrocarbon compound 4C + 10H as the radical of ether with E2 and name it ethyl ...)."
  5. For a report on the 1892 International Conference on Chemical Nomenclature, see:
  6. Multhauf, Robert P. (1966). The Origins of Chemistry. London: Oldbourne. ISBN 9782881245947.
  7. Berthelot, Marcellin; Houdas, Octave V. (1893). La Chimie au Moyen Âge. I. Paris: Imprimerie nationale. t. 136.
  8. Pohorecky, Larissa A.; Brick, John (January 1988). "Pharmacology of ethanol". Pharmacology & Therapeutics 36 (2–3): 335–427. doi:10.1016/0163-7258(88)90109-X. PMID 3279433.
  9. "Antiseptics and disinfectants: activity, action, and resistance". Clinical Microbiology Reviews 12 (1): 147–179. January 1999. doi:10.1128/CMR.12.1.147. PMC 88911. PMID 9880479. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=88911.
  10. "Chemical Disinfectants | Disinfection & Sterilization Guidelines | Guidelines Library | Infection Control | CDC". www.cdc.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-29.
  11. "Why is 70% ethanol used for wiping microbiological working areas?". ResearchGate (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-29.
  12. "Ethanol". www.drugbank.ca. Cyrchwyd 28 January 2019.
  13. Scalley, Robert (September 2002). "Treatment of Ethylene Glycol Poisoning". American Family Physician 66 (5): 807–813. PMID 12322772. https://www.aafp.org/afp/2002/0901/p807.html. Adalwyd 15 January 2018.
  14. Beauchamp, GA; Valento, M (September 2016). "Toxic Alcohol Ingestion: Prompt Recognition And Management In The Emergency Department.". Emergency Medicine Practice 18 (9): 1–20. PMID 27538060.
  15. Alcohol use and safe drinking.
  16. "Availability of Sources of E85". Clean Air Trust. Cyrchwyd 27 July 2015.
  17. "Fuel ethanol production worldwide". Statista. Cyrchwyd 2 June 2021.
  18. "Brazil's Road to Energy Independence". The Washington Post. 19 August 2006.
  19. Green, Ray. "Model T Ford Club Australia (Inc.)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 January 2014. Cyrchwyd 24 June 2011.
  20. "Ethanol 101". American Coalition for Ethanol.
  21. Energy Future Coalition. "The Biofuels FAQs". The Biofuels Source Book. United Nations Foundation.
  22. Malaquias, Augusto César Teixeira; Netto, Nilton Antonio Diniz; Filho, Fernando Antonio Rodrigues; da Costa, Roberto Berlini Rodrigues; Langeani, Marcos; Baêta, José Guilherme Coelho (2019-11-18). "The misleading total replacement of internal combustion engines by electric motors and a study of the Brazilian ethanol importance for the sustainable future of mobility: a review" (yn en). Journal of the Brazilian Society of Mechanical Sciences and Engineering 41 (12): 567. doi:10.1007/s40430-019-2076-1. ISSN 1806-3691.
  23. Clark, John D. (2017). Ingnition! An Informal History of Liquid Rocket Propellants. New Brunswick, NJ: Rutgers University Press. t. 9. ISBN 978-0-8135-9583-2.
  24. Darling, David. "The Internet Encyclopedia of Science: V-2".
  25. 25.0 25.1 Braeunig, Robert A. "Rocket Propellants."
  26. "A Brief History of Rocketry."
  27. Chow, Denise (26 April 2010). "Rocket Racing League Unveils New Flying Hot Rod". Space.com. Cyrchwyd 27 April 2010.
  28. "Direct ethanol fuel cells for transport and stationary applications – A comprehensive review". Applied Energy 145: 80–103. May 2015. doi:10.1016/j.apenergy.2015.02.002.
  29. "Can Ethanol Fireplaces Be Cozy?". Wall Street Journal. Cyrchwyd 2 March 2016.
  30. "Low-concentration ethanol stove for rural areas in India, Energy for Sustainable Development, March 2007".
  31. Lide, D. R., gol. (2000). CRC Handbook of Chemistry and Physics 81st edition. CRC press. ISBN 978-0-8493-0481-1.
  32. "What is the triple point of alcohol?". Webanswers.com. 31 December 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 May 2013.
  33. "Flash Point and Fire Point". Nttworldwide.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 December 2010.
  34. NFPA 325: Guide to Fire Hazard Properties of Flammable Liquids, Gases, and Volatile Solids. Quincy, MA: National Fire Protection Association (NFPA). 1 January 1994.
  35. "49 CFR § 173.120 - Class 3 – Definitions". Legal Information Institute. a flammable liquid (Class 3) means a liquid having a flash point of not more than 60 °C (140 °F)
  36. Martínez, P.J.; Rus, E.; Compaña, J.M.. "Flash Point Determination of Binary Mixtures of Alcohols, Ketones and Water". Departamento de Ingeniería Química. Facultad de Ciencias.: 3. https://engage.aiche.org/HigherLogic/System/DownloadDocumentFile.ashx?DocumentFileKey=e53a8ccc-48b1-4e3b-b59f-bb579cc5132b&ssopc=1. "Page 3, Table 4"
  37. "49 CFR § 172.101 – Purpose and use of hazardous materials table". Legal Information Institute. Hazardous materials descriptions and proper shipping names: Ethanol or Ethyl alcohol or Ethanol solutions or Ethyl alcohol solutions; Hazard class or Division: 3; Identification Numbers: UN1170; PG: II; Label Codes: 3;
  38. "Alcohols as Components of Transportation Fuels". Annual Review of Energy 12: 47–80. 1987. doi:10.1146/annurev.eg.12.110187.000403.
  39. Wittcoff, Harold A.; Reuben, Bryan G.; Plotkin, Jeffery S. (2004). Industrial Organic Chemicals. John Wiley & Sons. tt. 136–. ISBN 978-0-471-44385-8.
  40. Swami, V.N. (2020). विद्याभराती जिल्हा मध्यवर्ती सहकारी बँक भारती परीक्षा मार्गदर्शक [Vidyabharti District Co-operative Bank recruitment examination guide (Bank clerk grade examination)] (yn Marathi). Latur, Maharashtra, India: Vidyabharti Publication. t. 119.
  41. Roberts, John D.; Caserio, Marjorie C. (1977). Basic Principles of Organic Chemistry. W. A. Benjamin, Inc. ISBN 978-0-8053-8329-4.
  42. Ethanol. essentialchemicalindustry.org
  43. Harrison, Tim (May 2014) Catalysis Web Pages for Pre-University Students V1_0.
  44. "Metabolic engineering of Clostridium autoethanogenum for selective alcohol production". Metabolic Engineering 40: 104–114. March 2017. doi:10.1016/j.ymben.2017.01.007. PMC 5367853. PMID 28111249. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5367853.
  45. "Solar-to-Fuel System Recycles CO2 for Ethanol and Ethylene". News Center (yn Saesneg). 18 September 2017. Cyrchwyd 19 September 2017.
  46. "U-M Program to Reduce the Consumption of Tax-free Alcohol; Denatured Alcohol a Safer, Less Expensive Alternative" (PDF). University of Michigan. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 27 November 2007. Cyrchwyd 29 September 2007.
  47. Great Britain (2005).
  48. Bansal, Raj K.; Bernthsen, August (2003). A Textbook of Organic Chemistry. New Age International Limited. tt. 402–. ISBN 978-81-224-1459-2.
  49. Christian, Gary D. (2004). "Solvents for Spectrometry". Analytical chemistry. 1 (arg. 6th). Hoboken, NJ: John Wiley & Sons. t. 473. ISBN 978-0471214724.
  50. Andrews, Sudhir (1 August 2007). Textbook Of Food & Bevrge Mgmt. Tata McGraw-Hill Education. tt. 268–. ISBN 978-0-07-065573-7.
  51. Streitwieser, Andrew; Heathcock, Clayton H. (1976). Introduction to Organic Chemistry. MacMillan. ISBN 978-0-02-418010-0.
  52. Cederbaum, Arthur I (2012-11-16). "Alcohol Metabolism". Clinics in Liver Disease 16 (4): 667–685. doi:10.1016/j.cld.2012.08.002. ISSN 1089-3261. PMC 3484320. PMID 23101976. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3484320.
  53. Minutes of Meeting.
  54. 54.0 54.1 "Safety data for ethyl alcohol". University of Oxford. 9 May 2008. Cyrchwyd 3 January 2011.
  55. William Campbell Ottley, A Dictionary of Chemistry, and of Mineralogy (1826) see entry "Alcohol"
  56. "9,000-Year-Old Beer Re-Created From Chinese Recipe". National Geographic News. 18 July 2005. http://news.nationalgeographic.com/news/2005/07/0718_050718_ancientbeer.html. Adalwyd 3 September 2007.
  57. Berthelot & Houdas 1893
  58. Berthelot & Houdas 1893
  59. al-Hassan, Ahmad Y. (2009). "Alcohol and the Distillation of Wine in Arabic Sources from the 8th Century". Studies in al-Kimya': Critical Issues in Latin and Arabic Alchemy and Chemistry. Hildesheim: Georg Olms Verlag. tt. 283–298.
  60. al-Hassan 2009 (same content also available on the author's website); cf.
  61. Multhauf 1966.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am ethanol
yn Wiciadur.