Ffleminiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Mae statws y Ffleminiaid a Fflandrys o fewn gwladwriaeth Gwlad Belg yn gwestiwn gwleidyddol dadleuol, gyda nifer o Ffleminiaid yn pwyso am ffurf o hunanlywodraeth. |
Mae statws y Ffleminiaid a Fflandrys o fewn gwladwriaeth Gwlad Belg yn gwestiwn gwleidyddol dadleuol, gyda nifer o Ffleminiaid yn pwyso am ffurf o hunanlywodraeth. |
||
Dros y canrifoedd mae'r Ffleminiaid wedi [[ymfudo]] i sawl gwlad ac ardal yn [[Ewrop]] a'r [[Yr Amerig|Byd Newydd]]. Daethant i [[Lloegr|Loegr]] yn y [[ |
Dros y canrifoedd mae'r Ffleminiaid wedi [[ymfudo]] i sawl gwlad ac ardal yn [[Ewrop]] a'r [[Yr Amerig|Byd Newydd]]. Daethant i [[Lloegr|Loegr]] yn y [[12g]] a chawsant eu defnyddio gan frenhinoedd Lloegr fel arf yn erbyn [[Cymry]]'r de trwy sefydlu trefedigaeth yn ne [[Penfro]] a drawsnewidiodd iaith a diwylliant y rhan honno o [[Cymru|Gymru]] (gweler [[Ffleminiaid de Penfro]]). |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 22:15, 4 Ionawr 2017
Ffleminiaid (Fflemeg/Iseldireg: de Vlamingen neu het Vlaamse volk "gwerin Fflandrys"; hefyd yn yr Oesoedd Canol: Fflemisiaid, Fflemiswyr, Fflandryswyr a Fflandrysiaid) yw'r bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r Belgiaid, gyda chymuned o tua 6 miliwn yn Fflandrys, rhan ogleddol Gwlad Belg.
Fodd bynnag, nid yw tiriogaeth y Fflandrys bresennol yn cyfateb i'r hen Swydd Flandrys, a gynhwysai rannu o ogledd Ffrainc a'r Iseldiroedd ond heb gynnwys canolbarth a dwyrain y Fflandrys bresennol, a oedd yn rhan o arglwyddiaethau eraill yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn bennaf Dugiaeth Brabant a Swydd Loon.
Mae statws y Ffleminiaid a Fflandrys o fewn gwladwriaeth Gwlad Belg yn gwestiwn gwleidyddol dadleuol, gyda nifer o Ffleminiaid yn pwyso am ffurf o hunanlywodraeth.
Dros y canrifoedd mae'r Ffleminiaid wedi ymfudo i sawl gwlad ac ardal yn Ewrop a'r Byd Newydd. Daethant i Loegr yn y 12g a chawsant eu defnyddio gan frenhinoedd Lloegr fel arf yn erbyn Cymry'r de trwy sefydlu trefedigaeth yn ne Penfro a drawsnewidiodd iaith a diwylliant y rhan honno o Gymru (gweler Ffleminiaid de Penfro).