Dugiaeth Brabant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Brabant, sydd heddiw yn arfbais frenhinol Gwlad Belg.

Dugiaeth ffiwdal yn y Gwledydd Isel a fodolai o'r 12g hyd y 18g oedd Dugiaeth Brabant.

Tyfodd y dalaith allan o gwymp yr Ymerodraeth Garolingaidd yng nghanol y 9g. Yn yr 11g, chwalodd Dugiaeth Lorraine Isaf yn sawl talaith fechan, gan gynnwys Brabant, Lwcsembwrg, Hainaut, a Namur.[1] Sefydlwyd Dugiaeth Brabant ym 1183 fel un o daleithiau'r Ymerodraeth Lân Rufeinig ar sail yr hen Diriarllaeth Brabant. Daeth y ddugiaeth dan reolaeth Philip y Da o Dŷ Bwrgwyn ym 1430 ac felly'n rhan o'r Iseldiroedd Bwrgwynaidd. Cafodd y diriogaeth ei chipio gan yr Habsbwrgiaid ym 1477 a daeth yn rhan o'r Iseldiroedd Habsbwrgaidd ym 1482.

Yn yr Oesoedd Canol, daeth yr ardal yn gyfoethog o ganlyniad i'r diwydiannau gwlân a brethyn a'r menterau masnachol yn ei threfi a'i dinasoedd. Dinas fwyaf Brabant oedd Antwerpen, canolfan ariannol Ewrop. Dibynnodd dugiaid Brabant ar economi ffyniannus y wlad i gyllido rhyfeloedd, a rhoddwyd ymreolaeth i'r trefi ynghyd â rhan gynyddol mewn llywodraeth y ddugiaeth. Ym 1356, lluniwyd siarter hawliau y Joyeuse Entrée: yn ôl ei thelerau, ni allai'r dug ddatgan rhyfel, ymuno â chynghrair, neu fathu arian heb gydsyniad y glerigiaeth, y bendefigiaeth, a'r trefi. Yn ddiweddarach, rhoddwyd yr enw Ystadau Brabant ar y cynulliad hwnnw.

Cafodd y ddugiaeth ei rhannu yn Ogledd a De Brabant ym 1648, yn ystod Gwrthryfel yr Iseldiroedd. Diddymwyd y siarter rhwng y dug a'r cynulliad gan Joseph II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig ym 1789. Arweiniodd De Brabant y chwyldro ym 1830–31 i ennill annibyniaeth i Wlad Belg oddi ar yr Iseldiroedd ac o ganlyniad rhannwyd tiriogaeth hanesyddol Brabant rhwng dwy wlad sofran ar wahân. Ers 1840, rhoddir y teitl Dug Brabant ar fab hynaf Brenin y Belgiaid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Brabant (historical duchy, Europe). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ebrill 2018.