Môr Galilea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 57 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q126982 (translate me) |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Sea of Galilee.jpg| |
[[Delwedd:Sea of Galilee.jpg|bawd|200px|Llun lloeren o Fôr Galilea]] |
||
Llyn yn [[Galilea|Ngalilea]], yng ngogledd [[Israel]] yw '''Môr Galilea''', hefyd '''Môr Tiberias''', '''Llyn Tiberias''' a '''Llyn Genasaret''' ([[Hebraeg]]: כִּנֶּרֶת , «''Kinéret''). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan [[Syria]]. |
Llyn yn [[Galilea|Ngalilea]], yng ngogledd [[Israel]] yw '''Môr Galilea''', hefyd '''Môr Tiberias''', '''Llyn Tiberias''' a '''Llyn Genasaret''' ([[Hebraeg]]: כִּנֶּרֶת , «''Kinéret''). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan [[Syria]]. |
Fersiwn yn ôl 15:54, 3 Ionawr 2017
Llyn yn Ngalilea, yng ngogledd Israel yw Môr Galilea, hefyd Môr Tiberias, Llyn Tiberias a Llyn Genasaret (Hebraeg: כִּנֶּרֶת , «Kinéret). Hawlir rhan o'r tir ar y lan ogledd-ddwyreiniol gan Syria.
Môr Galilea yw llyn mwyaf Israel. Mae'n 21 km o hyd a 13 o led, gyda dyfnder o 48 medr yn y rhan ddyfnaf ac arwynebedd o 166 km². Saif wyneb y llyn 212 medr islaw lefel y môr. Llifa Afon Iorddonen i mewn iddo yn y pen gogleddol, ac allan ohono yn y pen deheuol. Y trefi pwysicaf ar ei lan yw Tiberías ac Ein Gev.
Mae gan Fôr Galilea le pwysig yn hanes Cristnogaeth, oherwydd i lawer o'r digwyddiadau yng ngweinidogaeth Iesu o Nasareth ddigwydd ar ei lannau. Roedd nifer o'i ddisgyblion, Pedr, Andreas, Iago ac Ioan, yn bysgotwyr ar y llyn. Oherwydd y cysylltiadau hyn, roedd Môr Galilea eisoes yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, ac mae wedi parhau felly hyd heddiw.