Dinmael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
B →Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif → 12g using AWB |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng [[teyrnas Gwynedd]] a'r [[Berfeddwlad]] i'r gogledd a [[teyrnas Powys|Phowys]] yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag [[Edeirnion]] a [[Penllyn|Phenllyn]], dau [[cantref|gantref]] strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi [[Rhos]] a [[Dyffryn Clwyd (cantref)|Dyffryn Clwyd]]. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn [[Oes y Tywysogion]] oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o [[Glyndyfrdwy|Lyndyfrdwy]] trwy [[Cerrigydrudion|Gerrigydrudion]] i gyfeiriad [[Nant Conwy]] a chalon Gwynedd. |

Ar ganol y [[ |
Ar ganol y [[12g]] [[Einion ab Ednyfed]], brawd Gwenllïan gwraig [[Rhirid Flaidd]], oedd arglwydd Dinmael (neu'n dal tir sylweddol yno). [[Owain Brogyntyn]] oedd arglwydd Dinmael yn [[1180]]. |
||
==Y fro heddiw== |
==Y fro heddiw== |
Fersiwn yn ôl 07:25, 3 Ionawr 2017
Bro, hen arglwyddiaeth a chwmwd yng nghalon Gogledd Cymru yw Dinmael. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cofnodion. Mae elfen gyntaf yr enw, 'din(as)', yn golygu 'caer, amddiffynfa', tra bod 'mael' yn golygu naill ai 'uchel' neu 'tywysog, brenin': "Y Gaer Uchel" yw'r ystyr yn ôl pob tebyg felly.
Hanes
Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng teyrnas Gwynedd a'r Berfeddwlad i'r gogledd a Phowys yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag Edeirnion a Phenllyn, dau gantref strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi Rhos a Dyffryn Clwyd. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn Oes y Tywysogion oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o Lyndyfrdwy trwy Gerrigydrudion i gyfeiriad Nant Conwy a chalon Gwynedd.
Ar ganol y 12g Einion ab Ednyfed, brawd Gwenllïan gwraig Rhirid Flaidd, oedd arglwydd Dinmael (neu'n dal tir sylweddol yno). Owain Brogyntyn oedd arglwydd Dinmael yn 1180.
Y fro heddiw
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth Bro Dinmael yn gorwedd yn sir Conwy heddiw ac mae'n sylweddol lai na'r hen gwmwd. Mae'n fro wledig, amaethyddol, heb lawer o dai. Yr unig ganolfan o unrhyw faint yw pentref bychan Y Maerdy. Ceir Ysgol Dinmael yn Ninmael sy'n cynnig addysg gynradd i blant y fro. Mae rhieni'r plant yn cael y dewis o'i hanfon i Ysgol y Berwyn, Y Bala (Gwynedd) neu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun (Sir Ddinbych).[1]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Ysgol Dinmael ar wefan Bro Dinmael.