Cantref Gwarthaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Yr oedd cantref '''Gwarthaf''' yn un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol. Mae ei diriogaeth yn gorwedd yn ne-orllewin Sir Benfro a rhan o orllewin [[Sir... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
Ymhlith ei ganolfannau eglwysig ceir [[Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog|Llan Deulyddog]] yn nhref Caerfyrddin, un o saith esgobdai Cymru'r Oesoedd Canol : ysgrifenwyd [[Llyfr Du Caerfyrddin]] yno yn ôl pob tebyg. Canolfan arall oedd [[Meidrym]], eglwys gysylltiedig â chwlt [[Dewi Sant]]. |
Ymhlith ei ganolfannau eglwysig ceir [[Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog|Llan Deulyddog]] yn nhref Caerfyrddin, un o saith esgobdai Cymru'r Oesoedd Canol : ysgrifenwyd [[Llyfr Du Caerfyrddin]] yno yn ôl pob tebyg. Canolfan arall oedd [[Meidrym]], eglwys gysylltiedig â chwlt [[Dewi Sant]]. |
||
==Cyfeiriadau== |
|||
*J. E. Lloyd, ''A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, 1937) |
|||
Fersiwn yn ôl 18:56, 24 Medi 2007
Yr oedd cantref Gwarthaf yn un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol. Mae ei diriogaeth yn gorwedd yn ne-orllewin Sir Benfro a rhan o orllewin Sir Gaerfyrddin heddiw.
Roedd Gwarthaf yn ardal ffrwythlon ar lan Bae Caerfyrddin. I'r gorllewin ffiniai â chantrefi Penfro a Daugleddau, i'r gogledd ag Uwch Nyfer yng nghantref Cemais a chantref Emlyn, ac i'r dwyrain â chwmwd Gwdigada yn y Cantref Mawr a chantref Cydweli.
Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd cantref Gwarthaf yn wyth cwmwd, sef :
Roedd canolfannau pwysicaf Gwarthaf yn cynnwys Arberth, safle un o lysoedd pwysicaf Dyfed y cyfeirir ato yn y Pedair Cainc, a Chaerfyrddin, fu'n ganolfan bwysig ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Yno hefyd ceir llys brenhinol hynafol yr Hendy-gwyn ar Daf, a oedd yn ogystal yn lleoliad clas cynnar ac yn ddiweddarach yn ganolfan i'r Sistersiaid yng Nghymru.
Ymhlith ei ganolfannau eglwysig ceir Llan Deulyddog yn nhref Caerfyrddin, un o saith esgobdai Cymru'r Oesoedd Canol : ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin yno yn ôl pob tebyg. Canolfan arall oedd Meidrym, eglwys gysylltiedig â chwlt Dewi Sant.
Cyfeiriadau
- J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)