Ioan Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 120: | Llinell 120: | ||
Ym 1983 safodd yn etholaeth newydd Cwm Cynon gan gadw'r sedd hyd ei farwolaeth ym 1984. |
Ym 1983 safodd yn etholaeth newydd Cwm Cynon gan gadw'r sedd hyd ei farwolaeth ym 1984. |
||
Yn ystod ei dau gyfnod yn y senedd cafodd daliodd nifer o swyddi yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid gan gynnwys: |
Yn ystod ei dau gyfnod yn y senedd cafodd daliodd nifer o swyddi yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid gan gynnwys: |
||
* Is gadeirydd grŵp ASau Llafur gorllewin Canolbarth Lloegr |
* Is gadeirydd grŵp ASau Llafur gorllewin Canolbarth Lloegr |
||
Llinell 132: | Llinell 133: | ||
*1980-82 Llefarydd y Wrthblaid ar Ewrop a'r Gymuned Ewropeaidd <ref>[http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U163984 ''EVANS, Ioan (Lyonel)'', Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014] adalwyd 11 Awst 2016</ref> |
*1980-82 Llefarydd y Wrthblaid ar Ewrop a'r Gymuned Ewropeaidd <ref>[http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U163984 ''EVANS, Ioan (Lyonel)'', Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014] adalwyd 11 Awst 2016</ref> |
||
Yn dilyn etholiad cyffredinol mis Hydref 1974 cafodd cynnig i wasanaethu fel ysgrifennydd preifat i John Morris, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, derbyniodd y swydd yn wreiddiol cyn ymddiswyddo yn syth wedi iddo ddeall y byddai'n rhaid iddo gefnogi polisi'r adran o sefydlu cynulliad datganoledig i Gymru, polisi yr oedd yn ei wrthwynebu'n groch. Parhaodd ei wrthwynebiad i ddatganoli trwy senedd 1974 - 1979 ac yn ystod refferendwm datganoli 1979 fe fu'n un o'r gang o chwech o Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli. |
Yn dilyn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Chwefror 1974|etholiad cyffredinol mis Hydref 1974]] cafodd cynnig i wasanaethu fel [[Ysgrifennydd Seneddol Preifat|ysgrifennydd preifat]] i [[John Morris (aelod seneddol)|John Morris]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], derbyniodd y swydd yn wreiddiol cyn ymddiswyddo yn syth wedi iddo ddeall y byddai'n rhaid iddo gefnogi polisi'r adran o sefydlu [[Datganoli|cynulliad datganoledig]] i Gymru, polisi yr oedd yn ei wrthwynebu'n groch. Parhaodd ei wrthwynebiad i ddatganoli trwy senedd 1974 - 1979 ac yn ystod [[Refferendwm datganoli i Gymru, 1979|refferendwm datganoli 1979]] fe fu'n un o'r [[Gang o Chwech|gang o chwech]] o Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli. |
||
==Marwolaeth== |
==Marwolaeth== |
||
Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Ruslip swydd Middlesex yn 56 mlwydd oed <ref>[http://find.galegroup.com/dvnw/infomark.do?&source=gale&prodId=DVNW&userGroupName=nlw_ttda&tabID=T003&docPage=article&docId=FP1802104841&type=multipage&contentSet=LTO&version=1.0 "Labour MP dies at 56." Sunday Times (London, England) 12 Feb. 1984: The Sunday Times Digital Archive, 1822-2006. Web] adalwyd 11 Awst. 2016</ref> a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Sant Elfan, Aberdâr. |
Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Ruslip swydd Middlesex yn 56 mlwydd oed <ref>[http://find.galegroup.com/dvnw/infomark.do?&source=gale&prodId=DVNW&userGroupName=nlw_ttda&tabID=T003&docPage=article&docId=FP1802104841&type=multipage&contentSet=LTO&version=1.0 "Labour MP dies at 56." Sunday Times (London, England) 12 Feb. 1984: The Sunday Times Digital Archive, 1822-2006. Web] adalwyd 11 Awst. 2016</ref> a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Sant Elfan, [[Aberdâr]]. |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 03:53, 12 Awst 2016
Roedd Ioan Lyonel Evans (10 Gorffennaf 1927 - 10 Chwefror 1984) yn wleidydd Llafur a Chydweithredol Cymreig ac yn Aelod Seneddol o 1964 hyd 1970 dros Firmingham Yardley ac yna dros Aberdâr a Chwm Cynon rhwng 1974 a'i marwolaeth.[1]
Bywyd Personol
Ganwyd Evans yn Llanelli, yn fab i Evan Evans adeiladydd a goruchwyliwr gwaith
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Llanelli a Choleg Prifysgol Cymru, Abertawe
Ym 1949 priododd â Maria Griffiths; bu iddynt un mab ac un ferch.
Gyrfa
Hyfforddwyd Evans fel clerc ym Manc y Midland rhwng 1943 a 1945. Ym 1945, wedi cyrraedd 18 oed ymunodd a'r fyddin i gyflawni ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol gorfodol gan ddychwelyd i fywyd sifil ym 1948. Rhwng 1948 a 1950 bu'n gweithio fel darlithydd i Mudiad Addysg y Gweithwyr a'r Coleg Llafur Cenedlaethol.
Rhwng ei dau gyfnod yn Nhŷ'r Cyffredin bu Evans yn gweithio fel cyfarwyddwr Y Gronfa Amddiffyn ac Awyr Rhyngwladol.[2]
Gyrfa Wleidyddol
Gwasanaethodd Evans fel cadeirydd Cynghrair Ieuenctid Llafur o 1948 hyd at 1950, bu'n ysgrifennydd Cangen Penbedw o'r Blaid Gydweithredol rhwng 1950 a 1953 a changen Birmingham o'r blaid rhwng 1953 a 1964. Bu'n asiant y Blaid Lafur ym Mirmingham yn ystod etholiadau cyffredinol 1955 a 1959.
Safodd fel ymgeisydd Llafur a'r Blaid Cydweithredol yn etholaeth Birmingham Yardley yn etholiad 1964 gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 169 pleidlais, daliodd ei afael ar y sedd yn etholiad 1966 gan gynyddu ei fwyafrif i 5,795. Yn etholiad 1970 collodd y sedd i'r Ceidwadwyr trwy fod yn brin o 120 pleidlais:
Etholiad cyffredinol 1964: Etholaeth Birmingham Yardley | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Ioan Lyonel Evans | 22,788 | 50.19 | ||
Ceidwadwyr | Leonard Harry Cleaver | 22,619 | 49.81 | ||
Mwyafrif | 169 | 0.37 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 77.05 | ||||
Llafur yn cipio etholaeth newydd |
Etholiad cyffredinol 1966: Etholaeth Birmingham Yardley | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Ioan Lyonel Evans | 25,568 | 56.35 | ||
Ceidwadwyr | Leonard Harry Cleaver | 19,809 | 43.65 | ||
Mwyafrif | 5,759 | 12.69 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 77.62 | ||||
Llafur yn cadw | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1970: Etholaeth Birmingham Yardley | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Derek Michael Coombs | 21,827 | 50.14 | ||
Llafur | Ioan Lyonel Evans | 21,707 | 49.86 | ||
Mwyafrif | 120 | 0.28 | |||
Y nifer a bleidleisiodd | 69.70 | ||||
Ceidwadwyr yn cipio etholaeth newydd |
Ym 1983 safodd yn etholaeth newydd Cwm Cynon gan gadw'r sedd hyd ei farwolaeth ym 1984.
Yn ystod ei dau gyfnod yn y senedd cafodd daliodd nifer o swyddi yn y Llywodraeth a'r Wrthblaid gan gynnwys:
- Is gadeirydd grŵp ASau Llafur gorllewin Canolbarth Lloegr
- 1965 - 1966Ysgrifennydd Preifat i'r Postfeist Cyffredinol (Tony Benn)
- 1966 - 1968 Chwip cynorthwyol y Llywodraeth
- 1968 - 1970 Prif Chwip y Llywodraeth a Distain Gosgordd ei Mawrhydi
- Dirwy i Gynulliad Ymgynghorol Cyngor Ewrop
- 1974 - 1984 Aelod o grŵp anableddau'r Blaid Seneddol Llafur
- 1974 -1984 Aelod o grŵp prisiau ac amddiffyn y prynwr y Blaid Seneddol Llafur
- 1974 - 1984 Aelod o grŵp masnach y Blaid Seneddol Llafur
- 1981 - 1984 Cadeirydd y Pwyllgor Seneddol ar Faterion Rhyngwladol
- 1980-82 Llefarydd y Wrthblaid ar Ewrop a'r Gymuned Ewropeaidd [3]
Yn dilyn etholiad cyffredinol mis Hydref 1974 cafodd cynnig i wasanaethu fel ysgrifennydd preifat i John Morris, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, derbyniodd y swydd yn wreiddiol cyn ymddiswyddo yn syth wedi iddo ddeall y byddai'n rhaid iddo gefnogi polisi'r adran o sefydlu cynulliad datganoledig i Gymru, polisi yr oedd yn ei wrthwynebu'n groch. Parhaodd ei wrthwynebiad i ddatganoli trwy senedd 1974 - 1979 ac yn ystod refferendwm datganoli 1979 fe fu'n un o'r gang o chwech o Aelodau Seneddol Llafur Cymreig a arweiniodd yr ymgyrch yn erbyn datganoli.
Marwolaeth
Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Ruslip swydd Middlesex yn 56 mlwydd oed [4] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Sant Elfan, Aberdâr.
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur EVANS, IOAN LYONEL (1927-1984), gwleidydd Llafur adalwyd 12 Awst 2016
- ↑ Mr Ioan Evans Times (London, England) 13 Feb. 1984: 14. The Times Digital Archive. Web adalwyd 11 Awst 2016
- ↑ EVANS, Ioan (Lyonel), Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 11 Awst 2016
- ↑ "Labour MP dies at 56." Sunday Times (London, England) 12 Feb. 1984: The Sunday Times Digital Archive, 1822-2006. Web adalwyd 11 Awst. 2016
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Leonard Cleaver |
Aelod Seneddol Birmingham Yardley 1964 – 1970 |
Olynydd: Derek Coombs |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: Arthur Probert |
Aelod Seneddol Aberdâr 1974 – 1983 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Cwm Cynon 1983 – 1984 |
Olynydd: Ann Clwyd |