Dinmael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
Bro, hen [[arglwyddiaeth]] a [[cwmwd|chwmwd]] yng nghalon [[Gogledd Cymru]] yw '''Dinmael'''. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cofnodion. Mae elfen gyntaf yr enw, 'din(as)', yn golygu 'caer, amddiffynfa', tra bod 'mael' yn golygu naill ai 'uchel' neu 'tywysog, brenin': "Y Gaer Uchel" yw'r ystyr yn ôl pob tebyg felly.

==Hanes==
==Hanes==
Llinell 9: Llinell 9:

==Y fro heddiw==
==Y fro heddiw==
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth Bro Dinmael yn gorwedd yn sir [[Conwy (sir)|Conwy]] heddiw ac mae'n sylweddol lai na'r hen gwmwd. Mae'n fro wledig, amaethyddol, heb lawer o dai. Yr unig ganolfan o unrhyw faint yw pentref bychan [[Y Maerdy, Conwy|Y Maerdy]]. Ceir [[Ysgol Dinmael]] yn Ninmael sy'n cynnig addysg gynradd i blant y fro. Mae rhieni'r plant yn cael y dewis o'i hanfon i [[Ysgol y Berwyn]], [[Y Bala]] ([[Gwynedd]]) neu [[Ysgol Brynhyfryd]], [[Rhuthun]] ([[Sir Ddinbych]]).<ref>[http://www.cynnal.co.uk/einbro/dinmael/page2.html Ysgol Dinmael] ar wefan Bro Dinmael.</ref>

==Gweler hefyd==
==Gweler hefyd==

Fersiwn yn ôl 15:03, 22 Mai 2016

Bro, hen arglwyddiaeth a chwmwd yng nghalon Gogledd Cymru yw Dinmael. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cofnodion. Mae elfen gyntaf yr enw, 'din(as)', yn golygu 'caer, amddiffynfa', tra bod 'mael' yn golygu naill ai 'uchel' neu 'tywysog, brenin': "Y Gaer Uchel" yw'r ystyr yn ôl pob tebyg felly.

Hanes

Gwartheg ar fferm yn Ninmael.
Capel Dinmael.

Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng teyrnas Gwynedd a'r Berfeddwlad i'r gogledd a Phowys yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag Edeirnion a Phenllyn, dau gantref strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi Rhos a Dyffryn Clwyd. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn Oes y Tywysogion oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o Lyndyfrdwy trwy Gerrigydrudion i gyfeiriad Nant Conwy a chalon Gwynedd.

Ar ganol y 12fed ganrif Einion ab Ednyfed, brawd Gwenllïan gwraig Rhirid Flaidd, oedd arglwydd Dinmael (neu'n dal tir sylweddol yno). Owain Brogyntyn oedd arglwydd Dinmael yn 1180.

Y fro heddiw

Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth Bro Dinmael yn gorwedd yn sir Conwy heddiw ac mae'n sylweddol lai na'r hen gwmwd. Mae'n fro wledig, amaethyddol, heb lawer o dai. Yr unig ganolfan o unrhyw faint yw pentref bychan Y Maerdy. Ceir Ysgol Dinmael yn Ninmael sy'n cynnig addysg gynradd i blant y fro. Mae rhieni'r plant yn cael y dewis o'i hanfon i Ysgol y Berwyn, Y Bala (Gwynedd) neu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun (Sir Ddinbych).[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Ysgol Dinmael ar wefan Bro Dinmael.

Dolen allanol