Robert Jones Derfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Doleni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
→Bywgraffiad: Teithi Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Bywgraffiad== |
==Bywgraffiad== |
||
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] |
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng [[Llandderfel]] a [[Bethel (Meirionnydd)|Bethel]], [[Sir Feirionnydd|Meirionnydd]], yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn [[Llundain]] tua [[1848]] pan fu'r [[Siartwyr]] yn eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "[[Derfel]]" ar ôl symud i weithio ym [[Manceinion]] lle treuliodd y gweddill o'i oes. |
||
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at [[sosialaeth]]. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn. |
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at [[sosialaeth]]. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn. |
Fersiwn yn ôl 13:24, 14 Mawrth 2016
Bardd Cymraeg ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 1824 - 17 Rhagfyr 1905).
Bywgraffiad
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr yn eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant.
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.
Llyfryddiaeth
- Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
- Traethodau ac Areithiau (1864)
- Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
- Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
- Caneuon (1891).
- Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.