Robert Jones Derfel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
B →Doleni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
==Doleni allanol== |
==Doleni allanol== |
||
*[http://wbo.llgc.org.uk/en/s-DERF-JON-1824.html Y Bywgraffiadur Ar-lein] |
*[http://wbo.llgc.org.uk/en/s-DERF-JON-1824.html Y Bywgraffiadur Ar-lein] |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Derfel, Robert Jones}} |
{{DEFAULTSORT:Derfel, Robert Jones}} |
||
Llinell 33: | Llinell 35: | ||
[[Categori:Marwolaethau 1905]] |
[[Categori:Marwolaethau 1905]] |
||
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]] |
[[Categori:Pobl o Feirionnydd]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 05:54, 25 Ebrill 2015
Bardd Cymraeg ac awdur rhyddiaith Radicalaidd oedd Robert Jones Derfel neu R. J. Derfel (24 Gorffennaf 1824 - 17 Rhagfyr 1905).
Bywgraffiad
Cafodd Robert Jones ei eni yn y Foty, fferm rhwng Llandderfel a Bethel, Meirionnydd, yn fab i Edward a Catrin Jones. Treuliodd gyfnod yn ddiwaith yn Llundain tua 1848 pan fu'r Siartwyr ar eu hanterth. Mabwysiadodd y cyfenw "Derfel" ar ôl symud i weithio ym Manceinion lle treuliodd y gweddill o'i oes.
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr ond troes fwyfwy at sosialaeth. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar Robert Owen fel nawddsant Cymru yn lle Dewi Sant.
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad Cymraeg ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol Brad y Llyfrau Gleision yn 1854 mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y Llyfrau Gleision gwrth-Gymraeg.
Llyfryddiaeth
- Brad y Llyfrau Gleision (1854). Drama.
- Traethodau ac Areithiau (1864)
- Caneuon Gwladgarol (1864). Cerddi.
- Munudau Segur (Caernarfon, 1863). Cerddi.
- Caneuon (1891).
- Rhyddiaith R. J. Derfel (1945). Dwy gyfrol a olygwyd gan Gwenallt.