John Lloyd-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso, categoriau |
ychwanegu a chyfeiriadau |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Enillodd y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922]] am ei [[awdl]] 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef ''Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon'' (1928) a ''Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg'' (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi [[Cymraeg Canol]] a [[Hen Gymraeg]] a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan. |
Enillodd y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922]] am ei [[awdl]] 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef ''Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon'' (1928) a ''Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg'' (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi [[Cymraeg Canol]] a [[Hen Gymraeg]] a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan. |
||
Mewn coffâd iddo yn y ''Times'', dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac [[Iwerddon]].<ref name=Times>{{cite news|title= Prof. J. Lloyd-Jones – Welsh ambassador in Ireland|work=[[The Times]]|page=11|date = 17 February 1956}}</ref> Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym [[Prifysgol Cymru|Mhrifysgol Cymru]] rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.<ref name=WBO>{{cite web|url=http://wbo.llgc.org.uk/en/s2-LLOY-JOH-1885.html|title=Lloyd-Jones, John (1885–1956), scholar and poet|work=Welsh Biography Online|publisher=[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]|accessdate=12 Tachwedd 2008|last=Parry|first=Thomas}}</ref> |
|||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 21:03, 30 Hydref 2013
Ysgolhaig a bardd oedd John Lloyd-Jones (1885 - 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru.
Bywgraffiad
Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Sir Gaernarfon (Sir Conwy heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle bu'n un o ddisgyblion John Morris-Jones, a Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, lle denodd llu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys T. J. Morgan, Bobi Jones a J. E. Caerwyn-Williams.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922 am ei awdl 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928) a Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi Cymraeg Canol a Hen Gymraeg a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan.
Mewn coffâd iddo yn y Times, dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac Iwerddon.[1] Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ "Prof. J. Lloyd-Jones – Welsh ambassador in Ireland". The Times. 17 February 1956. t. 11.
- ↑ Parry, Thomas. "Lloyd-Jones, John (1885–1956), scholar and poet". Welsh Biography Online. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2008.