Juan Carlos I, brenin Sbaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: az:I Xuan Karlos |
→Ei ran mewn gwleidyddiaeth gyfoes: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Alfonso XIII, brenin Sbaen|Alfonso XIII]] | teitl = [[Brenhinoedd Sbaen|Brenin Sbaen]] | blynyddoedd = [[22 Tachwedd]] [[1975]] – - | ar ôl = - }} |
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Alfonso XIII, brenin Sbaen|Alfonso XIII]] | teitl = [[Brenhinoedd Sbaen|Brenin Sbaen]] | blynyddoedd = [[22 Tachwedd]] [[1975]] – - | ar ôl = - }} |
||
{{diwedd-bocs}} |
{{diwedd-bocs}} |
||
⚫ | |||
[[Categori:Genedigaethau 1938]] |
[[Categori:Genedigaethau 1938]] |
||
[[Categori:Brenhinoedd Sbaen]] |
[[Categori:Brenhinoedd Sbaen]] |
||
[[Categori:Pobl o Rufain]] |
[[Categori:Pobl o Rufain]] |
||
⚫ | |||
[[als:Juan Carlos I. (Spanien)]] |
[[als:Juan Carlos I. (Spanien)]] |
Fersiwn yn ôl 10:06, 8 Mawrth 2013
Brenin Sbaen yw Juan Carlos I de Borbón (Ioan Siarl I) (ganwyd fel Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias yn Rhufain, 5 Ionawr 1938). Cafodd ei ddatgan yn frenin ar y 22ain o fis Tachwedd, 1978 yn sgil marwolaeth Francisco Franco, yn dilyn Deddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth (1947). Ar ôl hynny cafodd ei gydnabod fel Brenin a symbol undod cenedlaethol ac etifedd cyfreithiol i'r frenhinllin hanesyddol gan Gyfansoddiad Sbaen (1978), cadarnhawyd gan refferendwm ar y 6ed o fis Rhagfyr 1978.
Hanes
Mae Juan Carlos I yn wyr i Alfonso XIII ac yn fab i Don Juan de Borbón, conde de Barcelona, a María de las Mercedes de Borbón y Orleans, Tywysoges y Ddwy Sisilia. Cafodd ei eni yn Rhufain, Yr Eidal yn ystod alltudiaeth y Teulu Brenhinol, alltudiaeth a ddechreuodd gyda sefydliad Ail Weriniaeth Sbaen ym 1931. Cafodd ei fedyddio yng nghapel Urdd Malta gan Monsignor Eugenio Pacelli (wedyn y Pab Pïws XII).
Mewn cyfarfod rhwng Franco a Juan de Borbón ar y 25ain o fis Awst, 1948, cytunwyd i anfon y tywysog i Sbaen i astudio. Yn ddeng mlwydd oed, cyrhaeddodd Juan Carlos dir Sbaen am y tro cyntaf.
Cafodd ei addysgu yn Academi Milwrol Zaragoza (1955-1957), yn Ysgol Milwrol y Llynges Marin, Pontevedra (1957-1958), yn Academi yr Awyrlu San Javier, Murcia, (1958-1959), a graddiodd ym Madrid. Yn ystod gwyliau'r Pasg ym 1956 -pan oedd yn 18 oed- lladdodd Juan Carlos ei frawd iau, Alfonso, mewn damwain wrth iddynt chwarae gyda gwn.
Ym 1947, cafodd ei gydnabod fel etifedd y goron gan Ddeddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth ar y 26ain o fis Gorffennaf.
Ei ran mewn gwleidyddiaeth gyfoes
Wedi ethol Felipe González yn brif weinidog Sbaen ym 1982, daeth cyfnod gweithgar Juan Carlos mewn gwleidyddiaeth Sbaen i ben. Symbol o undod y wlad yw ei brif swyddogaeth erbyn hyn. Dan gyfansoddiad Sbaen, mae ganddo freintryddid rhag ei erlyn am faterion sy'n perthyn i'w ddyletswyddau swyddogol. Y rheswm am hyn yw bod rhaid i bob gweithred a wna yn rhinwedd y frenhiniaeth cael ei lofnodi gan swyddog o'r llywodraeth, a'r swyddog hwnnw sy'n cymryd cyfrifoldeb yn lle o'r brenin. Mae'n drosedd tramgwyddo anrhydedd y teulu brenhinol, ac mae'r Basgydd Arnaldo Otegi a chartwnwyr El Jueves wedi eu cael eu cosbi am hynny.
Mae'r brenin yn areithio i'r wlad pob noswyl nadolig. Fe fydd yn teithio ledled Sbaen ac ar draws y byd yn gyson i gynrychioli'r wlad. Mae ei gyfeillgarwch â Hassan II o Foroco wedi lleddfu tensiynau gwleidyddol. Yn 2007, heriodd Hugo Chávez gan ddweud "¿Por qué no te callas?".
Rhagflaenydd: Alfonso XIII |
Brenin Sbaen 22 Tachwedd 1975 – - |
Olynydd: - |