Juan Carlos I, brenin Sbaen

Oddi ar Wicipedia
Juan Carlos I, brenin Sbaen
Ganwyd5 Ionawr 1938 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Man preswylPalace of Zarzuela Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Instituto San Isidro
  • Villa St. Jean International School Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddPrince of Spain, king emeritus of Spain, teyrn Sbaen, pennaeth gwladwriaeth Sbaen Edit this on Wikidata
Taldra182 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau79 cilogram Edit this on Wikidata
TadInfante Juan, Cownt Barcelona Edit this on Wikidata
MamInfanta María de las Mercedes, Iarlles Barcelona Edit this on Wikidata
PriodSofía, brenhines Sbaen Edit this on Wikidata
PartnerMarta Gayà, Corinna zu Sayn-Wittgenstein, Bárbara Rey Edit this on Wikidata
PlantInfanta Elena, Duchess of Lugo, Infanta Cristina of Spain, Felipe VI Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Bourbon Sbaen Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd yr Eryr Gwyn, Coler Urdd y Llew Gwyn, Marchog Urdd y Cnu Aur, Gwobr Siarlymaen, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Four Freedoms, Gwobr Ffoaduriaid Nansen, Grand Cross with Collar of the Order of the Three Stars, Grand Cross with Chain of the Order of Merit of the Republic of Hungary (civil), Collar of the Order of the Star of Romania, Urdd Francisco Morazán, Cadwen Frenhinol Victoria, International Simón Bolívar Prize, Collar of the Order of Pope Pius IX, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Honorary doctor of the University of Bologna, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd yr Eliffant, Uwch Groes Urdd Filwrol Crist, Uwch Groes Urdd yr Ymddŵyn Difrycheulyd Vila Viçosa, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Grand Collar of the Military Order of the Tower and Sword, Grand Cross of the Military Order of Avis, Grand Collar of the Order of Liberty, Uwch Goleg Urdd Sant'Iago de l'Épée, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, honorary doctor of the University of Brasília, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Order of Juan Mora Fernández, Battle of Lepanto 4th Centenary Medal, Order of Excellence, Urdd y Gwaredwr, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen, Grand Cross of the Order of the White Double Cross‎, Algerian National Order of Merit, Atheer rank, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Gold medal of the Spanish National Research Council, European Medal of Tolerance, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Knight of the Garter, Order of the Golden Eagle Edit this on Wikidata
llofnod

Brenin Sbaen o 22 Tachwedd 1975 hyd ei ymddiorseddiad ar 18 Mehefin 2014 oedd Juan Carlos I de Borbón (Ioan Siarl I) (ganwyd fel Juan Carlos Alfonso Víctor María de Borbón y Borbón-Dos Sicilias yn Rhufain, 5 Ionawr 1938).

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae Juan Carlos I yn wyr i Alfonso XIII ac yn fab i Don Juan de Borbón, conde de Barcelona, a María de las Mercedes de Borbón y Orleans, Tywysoges y Ddwy Sisilia. Cafodd ei eni yn Rhufain, Yr Eidal yn ystod alltudiaeth y Teulu Brenhinol, alltudiaeth a ddechreuodd gyda sefydliad Ail Weriniaeth Sbaen ym 1931. Cafodd ei fedyddio yng nghapel Urdd Malta gan Monsignor Eugenio Pacelli (wedyn y Pab Pïws XII).

Cafodd ei gydnabod fel etifedd y goron gan Ddeddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth ar 26 Gorffennaf 1947.

Mewn cyfarfod rhwng Francisco Franco a Juan de Borbón ar 25 Awst 1948, cytunwyd i anfon y tywysog i Sbaen i astudio. Yn ddeng mlwydd oed, cyrhaeddodd Juan Carlos dir Sbaen am y tro cyntaf.

Cafodd ei addysgu yn Academi Milwrol Zaragoza (1955-1957), yn Ysgol Milwrol y Llynges Marin, Pontevedra (1957-1958), yn Academi yr Awyrlu San Javier, Murcia (1958-1959), a graddiodd ym Madrid. Yn ystod gwyliau'r Pasg ym 1956 - pan oedd yn 18 oed - lladdodd Juan Carlos ei frawd iau, Alfonso, mewn damwain wrth iddynt chwarae gyda gwn.

Priododd Y Dywysoges Sofia o Wlad Groeg a Ddenmarc ar 14 Mai 1962, yn Eglwys Sant Denis yn Athen.

Cafodd ei ddatgan yn frenin ar 22 Tachwedd 1975 yn sgil marwolaeth Franco, yn dilyn Deddf Olyniaeth Pennaeth y Wladwriaeth (1947). Ar ôl hynny cafodd ei gydnabod fel brenin a symbol undod cenedlaethol ac etifedd cyfreithiol i'r frenhinllin hanesyddol gan Gyfansoddiad Sbaen (1978), cadarnhawyd gan refferendwm ar 6 Rhagfyr 1978.

Wedi ethol Felipe González yn brif weinidog Sbaen ym 1982, daeth cyfnod gweithgar Juan Carlos mewn gwleidyddiaeth Sbaen i ben. Symbol o undod y wlad yw ei brif swyddogaeth erbyn hyn. Dan gyfansoddiad Sbaen, mae ganddo freintryddid rhag ei erlyn am faterion sy'n perthyn i'w ddyletswyddau swyddogol. Y rheswm am hyn yw bod rhaid i bob gweithred a wna yn rhinwedd y frenhiniaeth cael ei lofnodi gan swyddog o'r llywodraeth, a'r swyddog hwnnw sy'n cymryd cyfrifoldeb yn lle o'r brenin. Mae'n drosedd tramgwyddo anrhydedd y teulu brenhinol, ac mae'r Basgydd Arnaldo Otegi a chartwnwyr El Jueves wedi eu cael eu cosbi am hynny.

Ar 18 Mehefin 2014 ymwrthod â'r goron o blaid ei fab, Felipe VI.

Mae'r brenin yn areithio i'r wlad pob noswyl nadolig. Fe fydd yn teithio ledled Sbaen ac ar draws y byd yn gyson i gynrychioli'r wlad. Mae ei gyfeillgarwch â Hassan II, brenin Moroco, wedi lleddfu tensiynau gwleidyddol. Yn 2007 heriodd Hugo Chávez gan ddweud "¿Por qué no te callas?".

Penderfynodd Juan Carlos adael Sbaen yn 2020 oherwydd sgandal ariannol yr oedd wedi bod yn rhan ohono.

Plant[golygu | golygu cod]

Rhagflaenydd:
Alfonso XIII
Brenin Sbaen
22 Tachwedd 197518 Mehefin 2014
Olynydd:
Felipe VI
Baner SbaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaenwr neu Sbaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.