Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwybodlen ac englynion |
ehangu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} }} |
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} }} |
||
[[Plwyf]] eglwysig ym mro hanesyddol [[Edeirnion]], gogledd [[Cymru]], yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] heddiw ond bu gynt yn rhan o [[Sir Feirionnydd]]. Prif bentref y plwyf yw [[Cynwyd]].<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.</ref> |
[[Plwyf]] eglwysig ym mro hanesyddol [[Edeirnion]], gogledd [[Cymru]], yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] heddiw ond bu gynt yn rhan o [[Sir Feirionnydd]]. Prif bentref y plwyf yw [[Cynwyd]].<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.</ref> Tair nant a bryn yw ei ffiniau: Bryn Bu'r Gelyn yw'r bryn, a gorwedd hwnnw y tu ôl i blasty bychan Bryntirion, ger [[Corwen]]; y dair nant yw: Nant Croes y Wernen (i'r De), Nant Rhydyglafes (i gyfeiriad y [[Bala]]) a Nant Rhyd-y-Saeson yw'r ffin gogleddol (ger Four Crosses a [[Glanrafon]].<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.</ref> |
||
Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o [[Sir Feirionnydd|Feirionnydd]] a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Edeirnion]]. |
Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o [[Sir Feirionnydd|Feirionnydd]] a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Edeirnion]]. |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi [[Llandrillo]] a [[Corwen|Chorwen]], gan godi i lethrau'r [[Berwyn]] i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o [[Teyrnas Powys|Bowys]]. |
Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi [[Llandrillo]] a [[Corwen|Chorwen]], gan godi i lethrau'r [[Berwyn]] i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o [[Teyrnas Powys|Bowys]]. |
||
Canolfan y plwyf oedd y [[llan]] lle ceir [[Eglwys Llangar]] heddiw, tua hanner ffordd rhwng [[Cynwyd]] a Chorwen yn [[Dyffryn Edeirnion|Nyffryn Edeirnion]], ar lan [[Afon Dyfrdwy]]. Bu'r llenor [[Edward Samuel]], gŵr o [[Penmorfa|Benmorfa]] yn [[Eifionydd]] yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, [[David Samwell]] (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten [[James Cook]] yn 1776-78. |
Canolfan crefyddol y plwyf am ganrifoedd oedd y [[llan]] lle ceir [[Eglwys Llangar]] heddiw, tua hanner ffordd rhwng [[Cynwyd]] a Chorwen yn [[Dyffryn Edeirnion|Nyffryn Edeirnion]], ar lan [[Afon Dyfrdwy]]. Bu'r llenor [[Edward Samuel]], gŵr o [[Penmorfa|Benmorfa]] yn [[Eifionydd]] yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, [[David Samwell]] (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten [[James Cook]] yn 1776-78. Mae'n bosib mai llygriad o hen enw'r eglwys (Llan-y-carw-gwyn) yw tarddiad yr enw Llangar.<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.</ref> |
||
==Englynion i Langar== |
==Englynion i Langar== |
Fersiwn yn ôl 22:28, 15 Mawrth 2021
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cynwyd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.971°N 3.397°W |
Cod OS | SJ0642 |
Cod post | LL21 |
Plwyf eglwysig ym mro hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw Llangar. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd. Prif bentref y plwyf yw Cynwyd.[1] Tair nant a bryn yw ei ffiniau: Bryn Bu'r Gelyn yw'r bryn, a gorwedd hwnnw y tu ôl i blasty bychan Bryntirion, ger Corwen; y dair nant yw: Nant Croes y Wernen (i'r De), Nant Rhydyglafes (i gyfeiriad y Bala) a Nant Rhyd-y-Saeson yw'r ffin gogleddol (ger Four Crosses a Glanrafon.[2]
Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o Feirionnydd a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng nghwmwd Edeirnion.
Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi Llandrillo a Chorwen, gan godi i lethrau'r Berwyn i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o Bowys.
Canolfan crefyddol y plwyf am ganrifoedd oedd y llan lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen yn Nyffryn Edeirnion, ar lan Afon Dyfrdwy. Bu'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Eifionydd yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten James Cook yn 1776-78. Mae'n bosib mai llygriad o hen enw'r eglwys (Llan-y-carw-gwyn) yw tarddiad yr enw Llangar.[3]
Englynion i Langar
Meysydd a dolydd sydd deg - hoff lesawl A phalasau pur, gwiwdeg; Yn wych iawn yn ychwaneg Tan Ferwyn yn ddyffryn teg.
Odiaeth a pherffaith, ie yw - y Goror A garaf fi heddiw, Llangar, plwyf hyfryd ydyw, Y fan fydd le da i fyw.
Ffowc Wynn o Nantglyn (1684)[4]
Cyfeiriadau
- ↑ O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.
- ↑ O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.
- ↑ O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.
- ↑ O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 11.