Canu gwerin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: uk:Фолк-музика
→‎Canu gwerin Cymraeg: diweddarwyd url
Llinell 9: Llinell 9:
Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan [[Roy Saer]] o [[Sain Ffagan]] ers [[1963]] a gellir clywed rhai ohonynt ar wefan yr Amgueddfa.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1555/ Caneuon Gwerin ar wefan yr Amgueddfa Werin]</ref>
Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan [[Roy Saer]] o [[Sain Ffagan]] ers [[1963]] a gellir clywed rhai ohonynt ar wefan yr Amgueddfa.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/1555/ Caneuon Gwerin ar wefan yr Amgueddfa Werin]</ref>


Sefydlwyd [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] yn 1906. Y mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, ''Canu Gwerin'', ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd.<ref>[http://www.canugwerin.org Gwefan Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]</ref>
Sefydlwyd [[Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]] yn 1906. Y mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, ''Canu Gwerin'', ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd.<ref>[http://www.canugwerin.com Gwefan Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru]</ref>


Gweler hefyd Wefan Baledi Cymru [http://www.caerdydd.ac.uk/insrv/libraries/scolar/digital/welshballads/index.html]
Gweler hefyd Wefan Baledi Cymru [http://www.caerdydd.ac.uk/insrv/libraries/scolar/digital/welshballads/index.html]

Fersiwn yn ôl 19:16, 8 Mehefin 2011

Defnyddir y term canu gwerin fel arfer i olygu caneuon a genir gan y werin, caneuon sy'n perthyn i'r gymuned gyfan ac nid i arbenigwyr cerddorol, ac sy'n cael eu trosglwyddo ar lafar yn hytrach nag ar bapur. Fel arfer does neb yn gwybod pwy yw awdur/cyfansoddwr cân werin. Mae canu gwerin yn rhan bwysig o ddiwylliant gwerin sawl gwlad, yn cynnwys Cymru. Gellir dosrannu canu gwerin i Ganu gwerin traddodiadol ac i Ganu gwerin modern. Sylwer hefyd fod gwahaniaeth rhwng canu gwerin a chanu gwlad.

Cynhelir sawl gŵyl gerddorol sy'n cynnwys canu gwerin. Un o'r enwocaf yw Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, sy'n denu perfformwyr o sawl rhan o'r byd.

Canu gwerin Cymraeg

Mae Meredydd Evans, Elfed Lewys, Arfon Gwilym a Lynda Healey yn gantorion gwerin traddodiadol ac mae Ar Lôg yn grŵp gwerin traddodiadol. Cafwyd tipyn o adfywiad yn y maes hwn yn y 1970au a'r 1980au; ymhlith y grwpiau gwerin yr oedd: Clochan, Cilmeri, Plethyn, 4 yn y Bâr, Bwchadanas a'r Hwntws.

Recordiwyd llawer iawn o hen ganeuon gan Roy Saer o Sain Ffagan ers 1963 a gellir clywed rhai ohonynt ar wefan yr Amgueddfa.[1]

Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906. Y mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Canu Gwerin, ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd.[2]

Gweler hefyd Wefan Baledi Cymru [1]

Cyfeiriadau

  1. Caneuon Gwerin ar wefan yr Amgueddfa Werin
  2. Gwefan Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.