Andy Burnham
| Andy Burnham | |
|---|---|
| Llais | Andy Burnham on bus deregulation in Greater Manchester.ogg |
| Ganwyd | Andrew Murray Burnham 7 Ionawr 1970 Aintree, Lerpwl |
| Man preswyl | 10 Stryd Downing |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, ymchwilydd, gweinyddwr, cynghorydd arbennig |
| Swydd | Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Addysg, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Maer Manceinion Fwyaf, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, member of the Greater Manchester Combined Authority, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Blaid Lafur, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Prif Arglwydd y Trysorlys, Gweinidog dros yr Undeb, Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil |
| Adnabyddus am | Head North |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, Y Blaid Gydweithredol |
| Priod | Marie-France van Heel |
| Gwefan | https://www.andyburnham.org.uk |
| Tîm/au | Leigh Genesis F.C. |
Gwleidydd o Sais yw Andrew Murray Burnham (ganwyd 7 Ionawr 1970). Ef yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinydd y Blaid Lafur ers Gorffennaf 2026.[1] Mae'n Aelod Seneddol dros etholaeth Makerfield ym Manceinion Fwyaf ers Mehefin 2026.
Ef oedd Maer Manceinion Fwyaf rhwng 2017 a 2026.[2] Cyn hynny bu'n aelod o Dŷ'r Cyffredin dros etholaeth Leigh ym Manceinion Fwyaf rhwng 2001 a 2017 ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn 2009-2010 fel rhan o lywodraeth Gordon Brown.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Burnham yn Lerpwl; roedd ei dad yn beiriannwr ffôn a'i fam yn dderbynnydd. Cafodd ei fagu yn Culcheth, Warrington. Yn Newton-le-Willows derbyniodd ei addysg, yn ysgol uwchradd Catholig St Aelred. Aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg Fitzwilliam, Caergrawnt, gan ennill MA yn y pwnc. Mae Burnham yn honni iddo ymuno â'r Blaid Lafur yn 1984, pan nad oedd ond 14 mlwydd, yn ystod streic y glowyr.
Yn 1994 cymerodd Burnham swydd fel ymchwiliwr i Tessa Jowell, Aelod Senedd y Deyrnas Unedig a oedd yn weinidog yn yr Adran Iechyd, a pharhaodd gyda'r swydd wedi etholiad 1997. Yn 1998 cymerodd swydd fel ymgynghorwr arbennig i Chris Smith, Ysgrifennydd Gwladol dros Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Dyma oedd ei swydd olaf cyn cael ei ethol i'r senedd.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Bu Burnham yn ymgeisydd am sedd etholaeth Leigh[3], un o seddi diogel y blaid Llafur, yn etholiad cyffredinol 2001 wedi i Lawrence Cunliffe ymddeol. Enillodd Burnham fwyafrif o 16,362, a thraddododd ei araith gyntaf ar 4 Gorffennaf 2001. Bu'n aelod o bwyllgor iechyd San Steffan rhwng 2001 a 2003.
Yn y Llywodraeth
[golygu | golygu cod]Yn 2003 cafodd Burnham swydd fel ysgrifennydd preifat i'r senedd dros David Blunkett, a oedd yn Ysgrifennydd Cartref. Wedi i Blunkett ymddiswyddo yn 2004 cymerodd yr un swydd gyda Ruth Kelly, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Sgiliau. Cafodd ei ddyrchafu i'r Swyddfa Gartref yn llywodraeth Tony Blair yn 2005 fel Gweinidog Seneddol o dan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am gardiau adnabod. Yn 2006 symudodd eto i ddod yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Iechyd.
Yn y Cabinet
[golygu | golygu cod]Wedi i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog yn 2007, apwyntiwyd Burnham yn Brif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Bu yng nghanol dadleuon wedi iddo ymosod ar adroddiad y Ceidwadwyr ar yr Economi heb ei ddarllen, cyn cytuno gyda pholisi'r Ceidwadwyr i gefnogi teuluoedd trwy'r system drethi.
Ar ôl dim ond 6 mis yn ei swydd fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, symudodd i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Eto, bu Burnham ymysg sawl dadl gan gynnwys pardduo cymeriad Shami Chakrabarti, cyfarwyddwraig y grŵp hawliau dynol Liberty. Ar wahân i'r dadleuon hyn, cydnabuwyd Burnham fel gwleidydd effeithlon[angen ffynhonnell]. Yn 2009 apwyntiwyd Burnham i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd fel rhan o ad-drefnu'r llywodraeth. Cynigodd newidiadau i'r system o gynnal yr henoed a bu'n gyfrifol am ymateb y llywodraeth i ffliw'r moch.
Maer Manceinion
[golygu | golygu cod]Etholwyd Burnham i rôl newydd Maer Manceinion Fwyaf ar 5 Mai 2017[4]. Derbyniodd 63% o'r bleidlais, gan ennill mwyafrif ym mhob un o ddeg bwrdeistref Manceinion Fwyaf. Yn ei araith buddugoliaeth dywedodd fod "[gwleidyddiaeth] wedi bod yn rhy ganolog i Lundain ers gormod o amser ... mae Manceinion Fwyaf yn mynd i gymryd rheolaeth. Rydyn ni'n mynd i newid gwleidyddiaeth a gwneud iddo weithio'n well i bobl."[5] Mae'n un sy'n gofyn am fwy o ddatganoli i ardaloedd yn Lloegr gan ddod yn ffigwr allweddol yn ymateb yn erbyn Boris Johnson yn ystod y pandemig COVID-19.[6] Cafodd ei ailethol yn 2021 gyda mwyafrif mawr, gan ddweud bod yna fandad dros ddatganoli yn Lloegr.[7]
Dychwelyd i San Steffan
[golygu | golygu cod]Ar 14 Mai 2026, ymddiswyddodd Josh Simons fel AS Makerfield gan sbarduno isetholiad i Burnham ar 18 Mehefin. Ar 19 Mai 2026, daeth Burnham yn ymgeisydd Llafur dros Makerfield, ar ôl i unrhyw ymgeisydd posibl arall gyrraedd y rhestr fer.[8] Ar 19 Mehefin 2026, etholwyd Burnham yn AS dros Makerfield. Enillodd Burnham 54.8% o'r bleidlais, a pherfformiodd yn well na Simons yn 2024.[9] Ymgeisiodd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur a felly dod yn Brif Weinidog.[2] Yn dilyn ymddiswyddiad Keir Starmer fel arweinydd, Burnham oedd yr unig ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth newydd. Daeth yn arweinydd yn ffurfiol ar 17 Gorffennaf 2026.[10]
Fe'i derbyniwyd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gan Charles III ar 20 Gorffennaf 2026.[11]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Burnham Marie-France van Heel yn 2000 ar ôl cyfarfod yn y Brifysgol a threulio 11 mlynedd gyda'i gilydd. Mae Marie-France wedi gweithio fel pennaeth marchnata gyda MTV, BSkyB a Littlewoods Gaming, a bu'n gyfarwyddwraig cynllunio gyda WRG. Heddiw mae Marie-France yn gyfarwyddwraig ar MvH Marketing Ltd. Mae gan y ddau un mab a dwy ferch. Yn y gorffennol roedd Burnham yn Gadeirydd anrhydeddus ar Glwb Cynghrair Rygbi Leigh. Roedd e'n gricedwr ac yn bêl-droediwr dawnus fel plentyn, gan gystadlu dros Goleg Fitzwilliam yn y ddwy gamp. Mae e'n aelod o dîm pêl-droed y blaid Lafur, "Demon Eyes", ac mae wedi cefnogi Everton F.C. ers ei blentyndod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cadarnhau mai Andy Burnham yw arweinydd newydd y Blaid Lafur". newyddion.s4c.cymru. 2026-07-17. Cyrchwyd 2026-07-17.
- 1 2 "Pwy yw Andy Burnham, y prif weinidog posib nesaf?". newyddion.s4c.cymru. 2026-06-22. Cyrchwyd 2026-06-22.
- ↑ "MPs representing Leigh". Senedd y DU. Cyrchwyd 11 Mawrth 2024.
- ↑ "Andy Burnham elected mayor of Greater Manchester". The Guardian. 5 Mai 2017. Cyrchwyd 11 Mawrth 2024.
- ↑ "Mayor Andy Burnham's victory speech - Manchester 1 Liverpool 0". www.wigantoday.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ Bardsley, Andrew (2020-10-10). "Northern leaders reject new furlough and 'won't surrender residents to hardship'". Manchester Evening News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ Knott, Jonathan (2021-05-08). "Re-elected Burnham says devolution has a mandate". Local Government Chronicle (LGC) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-27.
- ↑ Crerar, Pippa (2026-05-14). "Labour MP to stand down to allow Burnham run for byelection amid leadership row". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 14 Mai 2026.
- ↑ Wingate, Sophie; Lloyd, Nina (21 May 2026). "Starmer to campaign for Burnham at key by-election amid leadership bid". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mai 2026.
- ↑ "Andy Burnham yn addo 'newid y ffordd mae Prydain yn cael ei llywodraethu' wrth gael ei gadarnhau fel arweinydd newydd y Blaid Lafur". newyddion.s4c.cymru. 2026-07-17. Cyrchwyd 2026-07-17.
- ↑ "Andy Burnham yn cwrdd â'r Brenin wrth iddo baratoi i ddod yn Brif Weinidog". newyddion.s4c.cymru. 2026-07-20. Cyrchwyd 2026-07-20.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) TheyWorkForYou.com - Cernlun fel AS a patrwm pleidleisio yn y Senedd
- (Saesneg) Wefan Andy Burnham
- (Saesneg) Cerlun y Guardian
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Lawrence Cunliffe |
Aelod Seneddol dros Leigh 2001 – 2017 |
Olynydd: Jo Platt |
| Rhagflaenydd: Josh Simons |
Aelod Seneddol dros Makerfield 2026 – presennol |
Olynydd: presennol |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Alan Johnson |
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd 5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010 |
Olynydd: Andrew Lansley |
| Rhagflaenydd: Keir Starmer |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 20 Gorffennaf 2026 – presennol |
Olynydd: presennol |
| |||||
| |||||
| |||||||||||