Anders Jonas Ångström

Oddi ar Wicipedia
Anders Jonas Ångström
Portread o Anders Jonas Ångström.
Ganwyd13 Awst 1814 Edit this on Wikidata
The iron factory Lögdö bruk Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1874 Edit this on Wikidata
Uppsala, Uppsala domkyrkoförsamling Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSweden Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Uppsala Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Henrik Falck Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd, seryddwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Uppsala
  • Uppsala Astronomical Observatory Edit this on Wikidata
PriodAugusta Carolina Bedoire Edit this on Wikidata
PlantKnut Ångström, Anna Augusta Ångström Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Rumford, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Ffisegydd a seryddwr Swedaidd oedd Anders Jonas Ångström (13 Awst 181421 Mehefin 1874) a fu'n arloeswr pwysig ym maes sbectrosgopeg. Enwir yr angstrom (Å), uned o hyd sydd yn gyfartal i 10−10 m, ar ei ôl.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Anders Jonas Ångström yn Lögdö yn nhalaith Medelpad, yng nghanolbarth Teyrnas Sweden. Roedd yn ail fab i Johan Ångström, gweinidog plwyf yn Eglwys Sweden, a'i wraig Anna Katarina Tunberg. Mynychodd Anders yr ysgol yn Härnösand. Aeth i Brifysgol Uppsala ym 1833 i astudio mathemateg a ffiseg. Enillodd ei ddoethuriaeth yno ym 1839 am draethawd yn ymdrin ag opteg plygiant conigol.[1]

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Darlithiodd Ångström ar bwnc ffiseg ym Mhrifysgol Uppsala wedi iddo dderbyn ei ddoethuriaeth. Aeth i Arsyllfa Stockholm ym 1842 i gael profiad o seryddiaeth ymarferol. Dychwelodd i Uppsala a chafodd swydd is-ddarlithydd seryddiaeth yn yr arsyllfa yno ym 1843. Fe'i penodwyd yn gadeirydd y gyfadran ffiseg ym Mhrifysgol Uppsala ym 1858, a daliodd swydd yr athro ffiseg yno hyd at ei farwolaeth yn Uppsala, ar 21 Mehefin 1874, yn 59 oed.[1][2]

Bu ei fab, Knut Johan Ångström, hefyd yn sbectrosgopydd ac yn ddarlithydd ffiseg ym Mhrifysgol Uppsala.[2]

Ei gyfraniadau at sbectrosgopeg[golygu | golygu cod]

Anders Jonas Ångström oedd un o'r gwyddonwyr cyntaf i astudio'r ymadweithiau rhwng mater ac ymbelydredd electromagnetig yn nhermau amledd yr ymbelydredd, gan arloesi felly gwyddor sbectrosgopeg. Yn Chwefror 1853 cyflwynodd ei waith ymchwil, ar ffurf y traethawd Optiska undersökninger, i Academi Frenhinol y Gwyddorau yn Stockholm. Canfu bod gwreichionen drydanol yn cynhyrchu dau sbectrwm arosodedig, un o fetel yr electrod a'r llall o'r nwy y mae'n mynd trwyddo. Gan ddefnyddio damcaniaeth cyseiniant Euler, diddwythai Ångström egwyddor ei hun o ddadansoddi sbectrwm: mae nwy gwynias yn allyrru golau o'r un donfedd â'r golau y gall ei amsugno.

Ym 1861 dechreuodd Ångström astudio'r sbectrwm heulol yn fanwl gan ddefnyddio'r sbectrosgop a ffotograffiaeth o Gysawd yr Haul. Fe gyhoeddodd ym 1862 bod hydrogen ac elfennau eraill yn bresennol yn atmosffer yr Haul. Ym 1868 cyhoeddodd Ångström a'i gydathro Robert Thalén y gyfrol bwysig Recherches sur le spectre solaire yn Ffrangeg, sydd yn cynnwys map manwl o'r sbectrwm heulol gan ddangos tonfeddi yn nhermau 10−10 m, yr uned a bellach elwir ar ei ôl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) C. L. Maier, "Ångström, Anders Jonas" yn Complete Dictionary of Scientific Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 14 Ionawr 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Anders Jonas Ångström. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Ionawr 2021.