Seryddiaeth
| Enghraifft o: | cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd |
|---|---|
| Math | gwyddoniaeth ffisegol, union wyddoniaeth, gwyddorau naturiol, gwyddoniaeth |
| Dechreuwyd | Mileniwm 8. CC |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dc_v |
| Thesawrws y BNCF | 7996 |
| Seryddiaeth | |
|
Lleuad | |

Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd y tu allan i atmosffer y Ddaear yw seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau tu hwnt i'r ddaear, ac astudio tarddiad a datblygiad gwrthrychau a welir yn yr awyr, ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.
I'r dyn cyntefig roedd y sêr yn rhyfeddod llwyr. Roedd yn addoli'r haul a'r lleuad gan edrych arnynt fel duwiau.
Am filoedd o flynyddoedd credid mai'r ddaear oedd canolbwynt y greadigaeth a bod y nen yn troi o amgylch y byd unwaith y dydd, ac fe grewyd calendrau gan y Swmeriaid, y Babiloniaid, yr Eifftiaid gynt a'r Groegiaid gynt yn ddibynnol ar y symudiadau yn y ffurfafen.
Aristotlys (384 C.C.C. - 322 C.C.C.) yw'r dyn cyntaf a brofodd nad oedd y byd yn wastad (er mae'n debyg bod pobl yn deall hyn ymhell cyn hynny), ac fe awgrymwyd bod y ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr haul gan Aristarchus o Mosa, tua 280 C.C.C..
Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd seryddwyr yn arsyllu â'r llygad noeth, ond gyda dyfodiad y telesgop derbyniwyd nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Seryddiaeth yng Nghymru, 1923, gan y Parch J. Silas Evans Archifwyd 2004-02-15 yn y Peiriant Wayback
|
Planedau yng Nghysawd yr Haul |








