Ffiseg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ffisegydd)
Ffiseg
Enghraifft o'r canlynolcangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, union wyddoniaeth Edit this on Wikidata
Mathgwyddoniaeth naturiol Edit this on Wikidata
Rhan ogwyddoniaeth ffisegol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysastroffiseg, ffiseg arbrofol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffiseg
Dewislen Ffiseg
Hanes Ffiseg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae ffiseg (o'r Groeg φυσικός, "naturiol", a φύσις, "natur") neu anianeg (term hynafol am "ddeddfau neu drefn natur") yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio. Astudiaeth o fater ydyw ynghyd â chysyniadau perthnasol eraill e.e. ynni a grym a'i amcan yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.[1][2]

Mae ffiseg yn:

  • disgrifio cyfansoddiad elfennol y bydysawd;
  • disgrifio'r rhyngweithiadau rhwng elfennau'r bydysawd;
  • dadansoddi systemau drwy ddefnyddio egwyddorion sylfaenol.

Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.

Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.

Hanes ffiseg[golygu | golygu cod]

Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf. Yr hen Roegwr Aristotlys a gyfansoddodd y gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg.

Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884.

Nod a chwmpas[golygu | golygu cod]

Mae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is-atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod ffiseg yn "wyddoniaeth sylfaenol". Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaid hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19g wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd.

Canghennau ffiseg[golygu | golygu cod]

Yn aml, cai meysydd eu trefnu fel a ganlyn.

  • atomau, niwclysau a mater
  • deinameg a pherthnasedd
  • dirgryniadau a thonnau
  • meysydd electrig a magneteg
Prif meysydd ffiseg
Prif meysydd ffiseg

Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagnetedd. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel disgyblaeth ar wahân. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.

Rhai gwyddonwyr Ffiseg o Gymru[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Physics is an experimental science. Physicists observe the phenomena of nature and try to find patterns that relate these phenomena."Young & Freedman 2014, t. 2
  2. "Physics is the study of your world and the world and universe around you."; Holzner 2006 tud 7}


Chwiliwch am ffiseg
yn Wiciadur.