Neidio i'r cynnwys

Ana María Shua

Oddi ar Wicipedia
Ana María Shua
Ganwyd22 Ebrill 1951 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires
  • Cyfadran Athroniaeth a'r Dyniaethau Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa muerte como efecto secundario Edit this on Wikidata
Arddullffuglen Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, doethuriaeth er anrhydedd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://anamariashua.com Edit this on Wikidata

Awdures doreithiog o'r Ariannin yw Ana María Shua (ganwyd 22 Ebrill 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd a sgriptiwr.[1]

Mae ei gwaith wedi'i gyfieithu i lawer o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Iseldireg, Swedeg, Coreeg, Siapanaeg, Bwlgareg a Serbeg. Mae ei straeon yn ymddangos mewn blodeugerddi ledled y byd. Derbyniodd nifer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Cymrodoriaeth Guggenheim, ac mae'n un o brif awduron byw'r Ariannin. Yn adnabyddus iawn yn y byd Sbaeneg, caiff ei hadnabod ar ddwy ochr yr Iwerydd fel "Brenhines y Microstory".[1][2][3][4]

Addysg ac alltudiaeth

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Buenos Aires ar 22 Ebrill 1951. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, cyfrol o farddoniaeth o'r enw El sol y yo, yn 1967 pan oedd yn 15 oed, ac am ei thrafferth, derbyniodd y "Stribed Anrhydedd" gan Gymdeithas Awduron yr Ariannin. Wedi iddi adael yr ysgol mynychodd Golegio Nacional de Buenos Aires a Chyfadran Athroniaeth a'r Dyniaethau, Prifysgol Buenos Aires, lle derbyniodd Radd Meistr. Yn ystod unbennaeth milwrol diwethaf y wlad, hunan-alltudiodd i ffrainc, lle gweithiodd i'r cylchgrawn Sbaeneg Cambio 16.[5][6]

Ar ôl dychwelyd i'r Ariannin, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, o'r enw Soy paciente, a hynny yn 1980; enillodd wobr gan gwmni cyhoeddi Losada am y nofel hon. Yn 1984, cyhoeddodd La sueñera, casgliad o ffuglen-micro. Mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr, cyhoeddwr, a sgriptiwr, gan addasu rhai o'i ysgrifau. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu llyfrau i blant, a derbyniodd rai gwobrau rhyngwladol.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: La muerte como efecto secundario.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academia Norteamericana de la Lengua Española am rai blynyddoedd. [7][8]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1993), doethuriaeth er anrhydedd (2025)[9] .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Ana María Shua". Words Without Borders. Cyrchwyd 2015-10-28.
  2. "Ana María Shua - Imaginaria No. 31 - 9 de agosto de 1999". Imaginaria.com.ar. Cyrchwyd 2015-10-28.
  3. "The International Literary Quarterly". Interlitq.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-19. Cyrchwyd 2015-10-28.
  4. "Ana María Shua". Anamariashua.com.ar. Cyrchwyd 2015-10-28.
  5. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  6. Dyddiad geni: "Ana Maria Shua". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  7. Galwedigaeth: "Hablemos Escritoras · Perfil de Escritora: Ana María Shua" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 17 Ionawr 2026.
  8. Anrhydeddau: Daniel Gigena (15 Hydref 2025). "Ana María Shua: "La cultura no es un lujo ni un adorno: es el tejido invisible que nos une"" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 16 Hydref 2025.
  9. Daniel Gigena (15 Hydref 2025). "Ana María Shua: "La cultura no es un lujo ni un adorno: es el tejido invisible que nos une"" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 16 Hydref 2025.