Alun Ogwen Williams
Alun Ogwen Williams | |
---|---|
Ganwyd | 2 Hydref 1904 Gerlan |
Bu farw | 4 Awst 1970 Rhydaman |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinyddwr |
Plant | Euryn Ogwen Williams |
Roedd Alun Ogwen Williams (2 Hydref 1904 – 4 Awst 1970) yn athro ac yn Eisteddfodwr nodedig.
Fe'i anwyd yn Well Street, Gerlan, Bethesda, Sir Gaernarfon, yn fab i John Samuel Williams a Catherine (g. Thomas). Mynychodd ysgol gynradd y Gerlan ac ysgol sir Bethesda cyn mynd i Goleg Normal Bangor lle hyfforddodd fel athro rhwng 1922 a 1924. Wedi gadael y coleg bu'n athro yn Llanfairfechan (1924–26) a Pwllheli (1926-36) cyn cael ei ddewis yn bennaeth mewn ysgolion ym Mhentre Uchaf (1936–42), Penmachno (1942-52) a Leeswood (1952-63). Ym 1963 ymddeolodd i'r Rhyl ond parhaodd i ddysgu Cymraeg yn Ysgol Gyfun Clawdd Offa, Prestatyn hyd at 1965.[1]
Roedd yn nodedig fel adroddwr, actor a beirniad yn y byd Eisteddfodol drwy gydol ei oes. Sefydlodd Parti Penmachno, parti sioe a aeth ar daith o amgylch Cymru a Lloegr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn ddiweddarach. Bu'n aelod o'r Orsedd am 40 mlynedd, gan wasanaethu fel ei hysgrifennydd am ddeng mlynedd ac ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod dros yr un cyfnod. [2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd â Lil Evans (a fu farw 2 Awst 1968) yn Llanbedr, Meirionnydd yn 1932 a bu iddynt un mab, y darlledwr ac awdur, Euryn Ogwen Williams.[3] Priododd â Gwladys Spencer Jones ym Mae Colwyn, Mehefin 1970 ond bu farw prin ddeufis yn ddiweddarach ar 4 Awst, yn Nhreorci, lle y cynhelid yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.
Bu farw yn 65 oed, yn Rhydaman lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "WILLIAMS, ALUN OGWEN (1904 - 1970), eisteddfodwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-13.
- ↑ "BBC - Gogledd Orllewin - O 'Steddfod i 'Steddfod". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-01-13.
- ↑ "Gwobr John Hefin: Euryn Ogwen Williams yn "ostyngedig iawn"". Golwg360. 2016-05-16. Cyrchwyd 2020-01-13.