Neidio i'r cynnwys

Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham

Oddi ar Wicipedia
Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham
Ganwyd18 Rhagfyr 1910 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
Chertsey Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadGeorge Robens Edit this on Wikidata
MamEdith Edit this on Wikidata
PriodEva Powell Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Albert Edit this on Wikidata
Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham

Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol
Cyfnod yn y swydd
24 Ebrill 1951 – 26 Hydref 1951
Prif Weinidog Clement Attlee
Rhagflaenydd Aneurin Bevan
Olynydd Walter Monckton

Aelod Seneddol dros Wansbeck
Cyfnod yn y swydd
1945 – 1950
Rhagflaenydd Donald Scott
Olynydd diddymwyd yr etholaeth

Aelod Seneddol dros Blyth
Cyfnod yn y swydd
1950 – 1960
Rhagflaenydd crewyd yr etholaeth
Olynydd Eddie Milne

Geni

Undebwr llafur, diwydiannwr a gwleidydd Llafur o Sais oedd Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham CBE PC (18 Rhagfyr 191027 Mehefin 1999). Roedd yn Gadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol o 1961 hyd 1971. Cafodd ei enw ei niweidio, yn enwedig yng Nghymru, oherwydd ei fethiant i ragweld trychineb Aberfan a'i ymddygiad wedi'r drychineb.

Bywyd cynnar a phersonol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Manceinion ar 18 Rhagfyr 1910 i deulu tlawd yn y dosbarth gweithiol. Gweithiodd fel negesydd i'r Co-op lleol a gwerthwr ymbareli. Daeth yn swyddog llaw-amser yn undeb y gweithwyr siopau, Usdaw, ym 1935.[1]

Priododd Eva Powell ym 1937 a mabwysiadodd y pâr un fab,[2] Alfred.[1] Bu farw'r Arglwydd Robens yn Chertsey, Surrey, ar 27 Mehefin 1999.[2]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Cafodd Robens ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Wansbeck yn Northumberland ym 1945, gan eistedd yn y sedd honno hyd ddiddymu'r etholaeth ym 1950. Cafodd ei ethol yn AS dros Blyth ym 1950, a chollodd ei sedd mewn is-etholiad ym 1960. Roedd Robens yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Gweinidog Cludiant o 1945 hyd 1947, ac yn Weinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol o Ebrill hyd fis Hydref 1951. Cafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor ym 1951, a chafodd ei urddo'n Farwn Robens o Woldingham ym 1961.[2]

Gyrfa ddiwydiannol

[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd Robens fel Cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol (1961–71), Cadeirydd y Foundation on Automation and Employment (1962), Llywydd y Gymdeithas Hysbysebu (1963–68), Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty Guy (1965–75) ac Ysgol Feddygol a Deintyddol Ysbyty Guy (1974–82), Canghellor Prifysgol Surrey (1966-77), a chyfarwyddwr Banc Lloegr (1966–81).[2]

Trychineb Aberfan

[golygu | golygu cod]

Pan glywodd newyddion y drychineb, penderfynodd Robens i fynd ati i fynychu seremoni i'w benodi'n Ganghellor Prifysgol Surrey yn lle teithio'n syth i Aberfan. Er hyn, dywedodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru taw Robens oedd yn arwain yr ymdrech gymorth yn y pentref.

Ymwelodd Robens ag Aberfan y Dydd Sul wedi'r trychineb, gan achosi tramgwydd trwy ysmygu sigâr fawr wrth iddo mynd am dro trwy'r pentref.[2] Pan gyrhaeddodd Aberfan, honnodd Robens taw "ffynhonnau naturiol anhysbys" o dan y domen lo oedd achos y drychineb. Roedd y bobl leol yn gwybod am y ffynhonnau, ac yr oeddent yn ymddangos ar fapiau o'r ardal. Cafodd Robens a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol eu condemnio'n llym gan Ymchwiliad Davies. Cynigodd Robens ymddiswyddo, ond gwrthodwyd hyn gan y Bwrdd. Yn ôl yr Athro Iain McLean, a ymchwiliodd i ymateb y llywodraeth i drychineb Aberfan, bwriadodd Robens aros yn ei swydd ac ystum yn unig oedd ei gynnig i ymddiswyddo.[3]

Wedi'r Bwrdd Glo

[golygu | golygu cod]

Roedd yn gadeirydd y cwmni peirianneg Vickers Limited o 1971 hyd 1979, ac yn gadeirydd Johnson Matthey o 1971 hyd 1983, yn llywydd Cymdeithas Gorfforedig Hysbysebwyr Prydain o 1973 i 1976, yn gadeirydd y Cyngor Diwydiannau Peirianyddol o 1976 i 1980, yn gadeirydd Snamprogetti o 1980 i 1988, ac yn llywydd Snamprogetti o 1988 i 1999.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Goodman, Geoffrey (29 Mehefin 1999). Obituary: Lord Robens of Woldingham. The Guardian. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 (Saesneg) Pattinson, Terry ac Amara, Glen (29 Mehefin 1999). Obituary: Lord Robens of Woldingham. The Independent. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
  3. (Saesneg) Yr Athro Iain McLean a'r Dr Martin Johnes (2000). Corporatism and Regulatory Failure: Government Response to the Aberfan Disaster. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.